Hanes Sir Fôn/Plwyf Tre' Gwalchmai

Plwyf Llanfeirion Hanes Sir Fôn

gan Thomas Pritchard, ('Rhen Graswr Eleth)

Plwyf Trefdraeth

PLWYF TRE' GWALCHMAI.

Y mae rhan o'r plwyf hwn yn nghwmwd Llifon, a rhan yn Malltraeth. Saif oddeutu pum' milldir i'r gorllewin o Langefni. Y mae yr eglwys yn sefyll ar ben bryn, oddeutu milldir oddiwrth New Mona Inn, cysylltwyd y fywiolaeth a pherigloriaeth Hen Eglwys, yn niaconiaeth Môn, ac yn esgobaeth Bangor, Cysegrwyd yr eglwys i St. Mordeyrn, neu Morhaiarn; ond nid yw yr enw hwn yn ymddangos yn y "Cambrian Biography." Y mae enw y plwyf wedi ei droi; a rhoddwyd enw Gwalchmai ap Meilir arno oddeutu y ddeuddegfed gannif. Tybir mai yr ystyr yw, "Trigfa un yn llawn ysbryd i ymeangu allan."