Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn/Adfeddyliadau

Cynnydd y gwaith Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn

gan David Morris (Eiddil Gwent)

Braslun o hanes Pontgwaithyrhaiarn


ADFEDDYLIADAU.

Y Mwnwyr a'r Glowyr.—Pan ddechreuwyd gwaith haiarn Tredegar, yr oeddynt yn codi mwn at y gwaith trwy glirio ymaith wyneb y tir i'r dyfnder ag oedd y mwn yn gorwedd yn y tir, yr hwn a alwent hwy patch Nid oedd y cyfeir—ogofau, levels, yn bodoli yn yr amser hwn, oherwydd fod y mwn y pryd hyny i'w gael mor agos i wyneb y tir—ond ni fuwyd yn hir cyn gweled yr angenrheidrwydd o Gyfeirogofau, Levels. Yr oedd Mr. Theophilus Jones, pan yn fyw, yn un o'r meistri level henaf,—a threuliodd y rhan fwyaf o'i ddyddiau fel y prif arolygydd tanddaearawl Tredegar. Enwau y mwn a godir yn ngwaith Tredegar ydynt—y wythien goch, y wythien lâs, y wythien dlawd, pin Siencin, pin garw. Enwau'r glo—hen lo, gloyn tan, cilwych, llathed, trichwarter, gloyn llathed, gloyn mawr heled, bedelog, glo engine, glo bach, &c. Y cyfeirogofau (levels) cyntaf oedd level Brynbach, level y brewhouse, a level y yard. Ac er cymaint o fwn a glo a godwyd o ddechreuad y gwaith hyd yn awr mae digon o hono y'ngrombil y ddaear am ganoedd o flynyddau eto. Er y clywir dynion yn siarad fel hyn weithiau : "dear anwyl, beth ddaw o'r tai a meddianau y dynion sydd a hwy 'nol i'r gweithfeydd ddarfod?" Ond bydd y gweithfeydd haiarn yn bodoli rhwng bryniau Gwalia hen pan bydd wyrion, ie, orwyrion y plant sydd y'nawr wedi meirw. Dywed yr enwog Ddaearegwr, Mr. Llewelyn, Pontypool, y pery cae glo Cymru ei weithio am saith cant o flynyddau eto. A dywed un gwr galluog arall—fod digon o lo y'Nghymru ei hunan i ddiwallu y deyrnas hon am ddwy neu dair mil o flynyddau. Am hyny na ddigaloned neb y'ngwyneb hyn, Fe ddaw Rhagluniaeth lawn a'i thoraeth iach, helaeth yn ei chol. Er bod mewn prinder, cawn fyw mewn llawnder, mae'r amser goreu 'ol. Prif arolygyddion y gwaith y'nawr yw Mr. Reed a Mr. Bevan. Ond mwy na thebyg yw fod holl ofalon y gwaith o tan y ddaear ac ar y ddaear—yn pwyso yn drwm ar ysgwyddau Mr. W. Bevan, Ash Vale-house. Wedi myned o honom fel hyn dros fanylion gwaith haiarn Tredegar—mae un peth sydd yn teilyngu ein sylw manylaf, sef Samuel Homphrey, Yswain, yr hwn fu yn brif arolygydd ar waith haiarn Tredegar am 48 o flynyddoedd, iddo ef yn unig mae y Cwmpeini yn ddyledus am lwyddiant a chynydd gwaith haiarn Tredegar. Yn ei amser ef yr adeiladwyd yr holl waith o'r flwyddyn 1817 hyd at amseriad y Felyn Newydd, yn 1849. Ar ei ysgwyddau ef, fel prif arolygydd, y gorweddau holl bwysau a gofalon y gwaith; a gallwn sicrhau hyn—na fu un gwaith haiarn ar fynyddau Cymru yn myned y'mlaen yn fwy hwylus a rheolaidd na gwaith haiarn Tredegar, o dan olygiad Samuel Homphrey, Ysw. Hwyrach y beiir arnaf am beidio tynu ystadegau o'r haiarn a wnawd trwy'r holl amser y'ngwaith haiarn Tredegar. Wel, nid gwaith anhawdd fyddai hyny, ond cael gwybod pa faint o amser y buont yn segur. Ond fel y maent y'nawr mewn gwaith, a gadael eu bod yn gwneuthur 80 tynell yr wythnos, byddai hyny i naw ffwrnes yn 37,440 yn y flwyddyn.

Bydded i'r darllenydd manylgraff gofio, fy mod yn cyfrif amser S. Homphrey, Ysw., o'r amser y daeth i fod yn brif arolygydd gwaith haiarn Tredegar, hyd yr amser y gwerthodd ef ei hawl ac yr ymneillduodd o fod yn rhanfeddianydd yn y gwaith.

Wele fi wedi rhoddi braslun o hanes gwaith haiarn Tredegar—fel drws agored i'r neb a fyno ymhelaethu arno.—Byddwch wych.

Dengys y Daflen hon sefyllfa Gwaith Haiarn Tredegar o'r flwyddyn 1821 hyd y flwyddyn 1862.

Heblaw pedair o beirianau mawrion sydd yn codi y dwfr o'r pyllau y'nghyda'r man beirianau sydd o amgylch y gwaith.



Y Ffwrnesi a'u Dyddiadau.

Rhif 1, 2, a'r 3, a adeiladwyd yn y blynyddau 1800 a 1801; rhif 4 a adeiladwyd yn y flwyddyn 1806; rhif 5 yn 1817. Dyna yw dyddiadau yr hen ffwrnesi.

Y Pedair Cubilo.

Adeiladwyd y ddwy gyntaf yn y flwyddyn 1840; adeiladwyd y ddwy arall yn y blynyddau 1853 a 1856.



Rhif Trigolion Tredegar yn ol yr hanereg (moiety,) o drigolion y plwyf—yn 1801 oedd 619; yn 1811 4,590; yn 1821, 6,382; yn 1831, 10,637. Rhif trigolion Tredegar ar ben ei hun—yn 1851 oedd 8,305; yn 1862, sef y flwyddyn hon, 9,776.

Cofier mae hyd y flwyddyn 1862 mae'r hanes yn cyrhaedd.

Nodiadau

golygu