Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn/Cynnydd y gwaith
← Yr Adeiladydd, ac Ereill | Hanes Tredegar ynghyd a Braslun o Hanes Pontgwaithyrhaiarn gan David Morris (Eiddil Gwent) |
Adfeddyliadau → |
v
CYNNYDD Y GWAITH.
Yn y flwyddyn 1806 adeiliadwyd y Ffwrnes rhif 4 No. 4. Ac yn y flwyddyn 1807 adeiladwyd y pudling Mae yn naturiol ddigon gofyn yn y man hyn, beth oeddynt yn ei wneuthur o'r metel yn ystod pum mlynedd o amser ? Gellir ateb——eu bod yn ei werthu, fel yr oedd Cwmpeini Peny-y-cae a Sirhowy, a'i gludo ar gefnau'r mulod i Weithfeydd Haiarn Merthyr, canys yn yr amser hwnw nid oedd un ffordd o Dredegar i Ferthyr, namyn ffordd geffyl neu droedffordd. Y ffordd i Ferthyr y pryd hwnw oedd heibio i Balasdŷ Mr. Theophilus Jones, lle mae W. Bevan, Ysw. yn byw yn awr, a thrwy Rasa Brynoer a Phantywaun. Yr oedd olion rhyw hen ffordd i'w gweled o Bantywaun yn myned heibio Nantybwch a thros Dwyn y Duke—a'i chyfeiriad tua'r Feni. Galwai yr hen drigolion hi, "Y ffordd Rhufeinig." Ond y mae yn fwy na thebyg mae fforth y Porthmon, Drover, oedd hon yn yr amser gynt. Ond rhag crwydro fel hyn, awn at y testyn Wedi gorphen o honynt y llecheirnfa, pudling, yr oedd mor anhawdd iddynt gael gweithwyr oedd yn deall ei gweithio ag oeddynt i gael toddwr, founder, i weithio y Ffwrnesi. Ond i gyflawni y diffyg hwn, anfonodd Mr. Humphrey, Penydaren, ryw nifer o hen weithwyr i Dredegar i ddechreu y puddling, ac i ddysgu ereill. Yn eu plith yr oedd Thomas Hughes, David Morris,[1] a James Matthews, tad Mr. Matthews, yr hwn fu'n brif arolygydd y Felin Newydd. Dyma'r amser, sef yn 1807 y dechreuodd Cwmpeini Tredegar wneyd haiarn yn barod i'r farchnad; a llwyddasant i gael cymeradwyaeth nid bychan yn y marchnadoedd haiarn, a hyn oedd prif achos ei gynydd graddol. Wedi i weithfa haiarn Tredegar fel hyn wneyd ei hun yn gyhoeddus i'r byd masnachol, daeth galwad anghyffredin am ei haiarn, fel y bu gorfod arnynt brynu metel am rai blynyddau o waith haiarn Rumni. Mae'r ysgrifenydd yn cofio am hyn,—sef fod un Thomas Davies yn cludo metel mewn men pedair olwyn o Rumni i Dredegar, a hyny am rai blynyddau. Ond y peth mwyaf ei bwys mewn cysylltiad a llwyddiant a chynnydd y gwaith oedd, nad oedd ffordd o Dredegar i Gasnewydd, idd y dyben o drosforu'r haiarn. Am hyny anfonasant ddeiseb i'r Senedd i gael cledrffordd o Dredegar i Casnewydd, a llwyddasant yn eu hamcan. Ar ol hyn awd y'nghyd a gwneyd y ffordd am dymor, temporary, ond bu rai blynyddau cyn dyfod i'r perffeithrwydd y mae ynddi 'nawr. Un o'r rhai cyntaf a gludodd haiarn ar hyd y gledrffordd newydd hon oedd Morgan Saunders,—a'r un cyntaf a dorodd y telpyn glo (yr hwn oedd o faintioli anferth, yn pwyso tua dwy dynell) oedd George Williams—maent eill dau yn y bedd er's llawer blwyddyn. Tua'r amser hwn, sef 1812, y gwnawd y llyn sydd yn myned dan yr enw "Pownd y Brynbach." Ac idd y dyben o rhwyddhau masnach mynodd y Cwmpeini geiniogau gopr wedi eu bathi, ac arnynt "Tredegar Company, One Penny Token, 1812." Gwelwn yn amlwg, wedi i'r Cwmpeini gael pob peth i gyd—daro, yr oedd y gwaith yn myned y'mlaen yn hwylus. ac yn cynyddu. Yn y ffwyddyn 1817 adeiladwyd rhif 5ed, No. 5, a helaethwyd y balling a'r pudling. Ar yr olwg hyn gellir dywedyd am Dredegar fel y dywedai Gildad wrth Job gynt. "Er fod dy ddechreuad yn fechan, eto dy gynnydd a fydd yn ddirfawr."
Y pryd hwn yr oedd Mr. Forman, Penydaren a Mr. Thompson, Llundain, yn rhanog yn y gwaith, yn ffurfio y Cwmpeini cryfaf ar y llinell haiarn, iron line. Yr oedd Mr. Thompson yn cael ei ystyried yn un o'r dynion cyfoethocaf yn y Deyrnas, hefyd yn un o'r marchnatawyr goreu yn y farchnadfa haiarn. Tua 18 mlynedd yn ol, daeth i dalu ymweliad a Thiedegar, a chafodd ei daro yn glaf,—a bu farw mewn ychydig ddyddiau, er colled, nid bychan, i Waith Haiarn Tredegar. Yn y flwyddyn 1834 adeiladwyd melin haiarn newydd, yr hon a elwir y Guide—mill. Yr oedd y Gwaith pryd hyn yn myned y'mlaen yn hwylus a llwyddianus iawn, fel bu gorfod ar y Cwmpeini adeiladu un o'r melinau haiarn mwyaf ar y llinell haiarn—yn cynwys pedair melin, neu bedwar par o roliau, rolls. Dyma ni 'nawr wedi dilyn y Gwaith o'i ddechreu i'w ddiwedd, namyn yr ogwyddffordd, incline, a wnawd yn amser y bythgofiadwy Mr. Davies, yr hon sydd yn dwyn i mewn i'r Cwmpeini tua £500 yn y flwyddyn, Ond bu farw y dyngarwr enwog hwn; ond bydd ei enw yn uchel ac anrhydeddus o genedlaeth i genedlaeth.
Nodiadau
golygu- ↑ Tad yr hanesydd.