Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam/Yr Ail Gyfnod
← Y Cyfnod Cyntaf | Hanes dechreuad a chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam gan Edward Francis, Wrecsam |
Y Trydydd Cyfnod → |
YR AIL GYFNOD.
(Yspaid saith-ar-ugain o flynyddoedd,-sef o'r amser y tybir i Mr. Jones, ironmonger, ymsefydlu yn y dref, oddeutu'r flwyddyn 1770, hyd yr amser yr adeiladwyd Capel Pentrefelin, yn 1797.)
CYNNWYSIR YN Y CYFNOD HWN
Y CRYBWYLLIAD cyntaf am Mr. Jones—tyb am ei fynediad i Lundain—ei ddychweliad i Wrecsam—yr achos yn ei fabandod—mewn cysylltiad ag Adwy'r Clawdd—y profion o hyny—yr ystafell gyntaf i addoli ynddi—y cyfarfodydd eglwysig yn Adwy'r Clawdd—tristyd na buasai yr hanes wedi ei wneyd yn gynt—oesoedd tywyll.
GAN mai Mr. Jones, ironmonger, mewn cysylltiad â'i briod gyntaf, oedd y prif offerynau, fel yr awgrymwyd, yn dwyn Methodistiaeth i'r dref, mae ei enw ef gan hyny mewn cysylltiad â hyn o hanes yn beth o bwys. Y crybwylliad cyntaf sydd genym am Mr. Jones ar ol ei ddychweliad o Lundain i'r wlad hon ydyw, ei fod yn un o ymddiriedolwyr capel a adeiladwyd yn Rhosllanerchrugog, yn y flwyddyn 1770. Yn yr hanes a ddyry Mr. Hughes yn y 'Methodistiaeth' am y Rhos, ni a'i cawn ef, fel y dywedwyd, yn crybwyll enw Mr. Jones. Pa hyd y bu efe yn Ngwrecsam cyn hyny, y mae yn anhawdd gwybod i sicrwydd.
Ganwyd Mr. Jones yn y flwyddyn 1740. A chaniatau ei fod wedi myned i Lundain pan yn 14 oed, efe a aeth yno feallai yn y flwyddyn 1754.
Dychwelodd i'r wlad hon, fel y gellir tybied, oddeutu y flwyddyn 1769, neu fe ddichon ychydig yn gynt, ar ol bod o hono yn Llundain oddeutu 15eng mlynedd. Mae'r ffaith ei fod yn y flwyddyn 1770, yn gweithredu fel un o ymddiriedolwyr capel yn y Rhos, a hyny fel yr oedd yn wr o Wrecsam, yn profi yn ddiddadl i'n tyb ni, ei fod yn y wlad hon ar y pryd, ac hefyd yn nhref Gwrecsam. Er mwyn rhagflaenu rhyw bethau a ddichon ymddangos yn anghyson o barth i'r amser y daeth Mr. Jones o Lundain i Wrecsam, yr ydym yn dymuno yn y lle hwn roddi gair yn helaethach mewn ffordd o eglurhâd. Mae yn ymddangos oddiwrth yr hanes a ddyry y Parch. J. Hughes yn y ' Methodistiaeth,' yr hwn hanes a gasglwyd gan y Parch. O. Thomas pan yn Llundain, mai yn y flwyddyn 1774 yr ymgymmerodd Methodistiaeth yn y lle hwnw â'r ffurf o fod yn eglwys reolaidd, er fod Harris a Rowlands yn pregethu yno yn achlysurol flynyddau lawer cyn hyny. Wrth gydmaru yr amser tybiedig y dychwelodd Mr. Jones o Lundain â'r amser y dechreuwyd yr achos yno, yr ydym yn cael fod Mr. Jones felly wedi gadael brif ddinas bedair neu bum' mlynedd cyn fod Methodistiaeth wedi dyfod i un math o ffurf eglwysig.
Yn awr, gan i Mr. Jones a'i briod ddyfod i Wrecsam yn Fethodistiaid trwyadl, yn dwyn gyda hwy farworyn poeth oddiar allor y diwygiad yn Harries a Rowlands, y mae yn beth posibl o'r hyn lleiaf, y dichon Methodistiaeth fod yn Llundain mewn gwedd angyhoedd cyn y flwyddyn 1774. Modd bynag, y mae ffeithiau lawer ar gael, fod rhywbeth cyffelyb i hyn wedi bod yn Nghymru lawer gwaith. Os bu brawdoliaeth Fethodistaidd felly yn Llundain cyn y flwyddyn 1774, mae lle cryf i gasglu fod Mr. Jones a Miss Jones (ei briod ef wedi hyny) yn perthyn i frawdoliaeth fechan felly, ac yn dwyn mawr sêl drosti.
Yn awr, wrth gymmeryd i ystyriaeth yr amrywiol bethau hyn, y casgliad naturiol sydd yn ymgynnyg i ni ydyw, y dichon fod Methodistiaeth, yn ei chysylltiad â Mr. Jones a'i briod gyntaf ef, yn nhref Gwrecsam er ys pedwar ugain a deg o flynyddau, neu ragor. Isel, mae'n wir, oedd ei gwedd yn y 15eng mlynedd cyntaf, fel y ceir gweled eto.
Mae pob sicrwydd fod yn y dref, hyd yn nod yn y blynyddoedd cyntaf y cyfeiriwyd atynt, ryw gynnifer o frodyr crefyddol wedi ymuno, heblaw Mr. a Mrs. Jones. Ychydig, y mae'n rhaid addef, ydyw'r hanes sydd genym am bethau y tymmor hwnw.
Adwy'r Clawdd, yn benaf, oedd cartref yr ychydig frodyr yn Wrecsam yn nechreuad yr achos, ac i'r Adwy y byddent yn arfer cyrchu. Yr oedd hen frawd yn Adwy'r Clawdd o'r enw Hugh Morris, Hugh Morris y teiliwr, fel y gelwid ef. Hen wr cywir a geirwir. Bu yr hen frawd hwnw fyw i fyned yn agos i bedwar ugain a chwe' blwydd oed, a bu farw rywbryd oddeutu'r flwyddyn 1847.
Clywsom yr hen frawd hwnw yn dyweyd ei fod yn cofio yr amser yn dda, pryd y byddai yr ychydig frodyr a chwiorydd, ag oedd yn Ngwrecsam, yn dyfod i fyny i'r seiat i Adwy'r Clawdd. Dyma hefyd, yn ol tystiolaeth Mr. Evans, Adwy'r Clawdd, yr hwn sydd eto yn fyw, oedd sefyllfa pethau pan y daeth ef gyntaf i'r gymmydogaeth, yn 1802 neu 1803.
Er, fel yr hysbyswyd, mai Adwy'r Clawdd oedd eu Jerusalem, ac mai yno yr oedd eu teml; eto, y mae pob sicrwydd ar gael fod ganddynt eu synagog yn y dref hon, sef ystafell fechan i addoli ynddi, cyn adeiladu o honynt gapel Pentrefelin.
Mae hen wraig o'r enw Martha Thomas, yr hon sydd wedi ei geni a'i magu yn y dref, yr hon hefyd yn niwedd y flwyddyn hon, 1869, fydd yn llawn pedwar ugain a naw mlwydd oed (89).
Fe ddywed yr hen wraig hono wrthym ei hunan, ei bod yn cofio y Welsh Calvinistic Methodists yn ymgyfarfod i addoli mewn hen dy yn Castle-yard, a hyny cyn adeiladu o honynt gapel Pentrefelin. Hen balasdy mawr ydyw y Castell, fel y'i gelwir, yn yr un gymmydogaeth a'r Capel. Wrth gefn y Castelldy hwnw yr oedd yr hen dŷ y cyfeiriwyd ato. Mae yr hen wraig hono, Martha, yn cofio yn dda am briod gyntaf Mr. Jones, ironmonger.
Hefyd, y mae gwr arall o'r enw Mr. Smith, yr hwn fel Martha sydd yn frodor o dref Gwrecsam. Mae hwn hefyd, er ei fod dipyn yn ieuengach na'r llall, yn cyd-dystiolaethu i wirionedd y ffaith. Dywed y gwr hwn, ei fod yn cofio fod yr ystafell wedi ei gwyngalchu, a'i bod yn edrych yn wèn a glân. Dywed hefyd i ryw un roddi llawr newydd i'r tŷ, ar ol i'r gynnulleidfa fechan ymfudo i'w capel newydd. Yr ydym yn crybwyll y pethau syml diweddaf hyn, er mwyn adgofio i laweroedd, fel y gwyddant eu hunain, beth ydyw 'côf plentyn.' Fe ddywed Mr. Smith wrthym hefyd, y byddai nifer y gwrandawyr a gyrchent i'r lle, can lleied yn aml a deuddeg, neu bymtheg. Y lle gwael hwn, a'r nifer bychan a enwyd, oedd dechreuad gwan y Methodistiaid Calfinaidd yn Ngwrecsam.
Gan fod pethau yn y sefyllfa a'r cysylltiadau y cyfeiriwyd atynt, dichon fod y frawdoliaeth fechan ag oedd yn Ngwrecsam, yn treulio un rhan o'r sabboth yn y dref, a'r rhan arall yn Adwy'r Clawdd.
Yr oedd amryw o'r cyfarfodydd eglwysig yn y blynyddoedd hyny yn yr Adwy ar foreu sabboth. Pa un ai cyn, neu ar ol pregethau, neu y cyfarfodydd gweddïo, nid ydym yn gwybod. Dichon mai dyma yr unig foddion o râs fyddai yn eu plith, ar brydiau o leiaf, ar foreu sabboth. Mae yn debyg yn y blynyddoedd cyntaf hyny, nad oedd y brodyr yn Ngwrecsam wedi ymffurfio yn eglwys reolaidd, oblegid yn un peth, fod eu nifer mor fychan, ac hefyd oblegid nad oedd y cymmwysderau a'r doniau, i fagu a meithrin mewn pethau ysprydol, mor helaeth a chyflawn ag y buasid yn dymuno. Yn y wedd yma, fe ddichon, y bu pethau am flynyddau, sef fod y brodyr yn Ngwrecsam yn ystyried eu hunain yn rhan o, ac mewn undeb â'r eglwys yn yr Adwy.
Mae hen wraig arall yn ein tref, yr hon sydd yn awr yn fyw, ac os da yr ydym yn cofio, yn agos i bump a phedwar ugain oed: hen wraig sydd a'i chymmeriad yn sefyll yn uchel fel un i ymddibynu arni am wiredd yr hyn a ddywed. Ei henw ydyw Mrs. Rowland. Clywsom hefyd â'n clustiau ein hunain, yr hen wraig hon yn adrodd wrthym, ei bod yn cofio yn dda, pan oedd hi yn eneth ieuangc, y byddai y Welsh people in the town, fel y galwai hi hwy, yn arfer cadw cyfarfodydd gweddïo yn y tai, ac y byddai hithau ar brydiau, er nad oedd yn deall nemawr ddim o'r iaith, yn myned i'r cyfarfodydd hyny er mwyn clywed y canu; ac mi dybiwn weithiau wrth yr hyn a ddywedai yr hen wraig, rywbeth tebyg i orfoledd crefyddol.
Gallai hyny fod, debygem, cyn adeiladu capel Pentrefelin, sef yn y blynyddoedd hyny pryd y byddai y pererinion hyn yn teithio i hen gapel Adwy'r Clawdd.
Buasai yn dra dymunol a dyddorol pe buasai genym fwy o ffeithiau mewn cysylltiad â'r achos yn y cyfnod hwn; y gwir ydyw, nid ydym wedi bod yn alluog i gael allan ond ychydig, er yn ddiammeu bod llawer pe deffroasid yn brydlon. Mae gorchudd amser wedi ei dynu rhyngom â llawer o bethau, fel nas gallwn erbyn heddyw eu gweled. Mae pob oracl mor ddystaw wrthym, o'r bron, â'r meirw sydd yn y beddau mae pob llaw, llygad, tafod a gwefus, fel pe wedi eu selio i fyny. Ar ol gwneuthur yr hyn a allem mewn ffordd o ymchwiliad, mae yn ddrwg genym ddyweyd, ein bod yn gorfod gadael y cyfnod hwn yn yr hanes, i raddau pell oddiwrthym, yn orchuddiedig gan niwl a thywyllwch.
Mae rhai canrifoedd wedi myned heibio yn hanes y byd, y rhai a adwaenir erbyn heddyw wrth yr enwad, 'oesoedd tywyll.' Ein teimlad galarus ninnau ar hyn o bryd ydyw, pan yn ceisio ymbalfalu i ddyfod allan o niwl y cyfnod y buom ynddo, ein bod wrth droi drach ein cefnau i geisio ail edrych arno yn gorfod ei restru, i raddau, yn mhlith yr oesoedd tywyll.' Gwnaethom ein goreu pan ynddo i osod i fyny rhyw lamp fechan, ond gwan iawn yw y llewyrch sydd yn ymwasgaru o honi.
Yn awr yr ydym yn dyfod i gyfnod yn yr hanes, lle yr ydym yn cael fod y niwl ag oedd o'r blaen yn cuddio oddiwrthym rai pethau pwysig, yn awr yn dechreu chwalu a diflanu, a mwy o oleuni ffeithiau yn ymwasgaru. Cawn o hyn allan, nid ymbalfalu yn y tywyllwch, ond rhodio yn y goleuni.