Hanes y Bibl Cymraeg/Gwerth a Dylanwad Y Bibl

Lledaenwyr Y Bibl yn Mysg y Cymry Hanes y Bibl Cymraeg

gan Thomas Levi

PENNOD X.

GWERTH A DYLANWAD Y BIBL.

GODDEFED y darllenydd i ni, cyn rhoddi y pin heibio, ei adgoffa o werth dirfawr y Bibl i'r byd, ac o'i ddylanwad iachusol a phur ar feddwl ei efrydydd yn bersonol, ac ar gymdeithas yn gyffredinol. Gormod gorchwyl ydyw rhoddi hanes y Bibl Cymraeg o ran ei ddylanwad i wareiddio y genedl, i ymlid ymaith ofergoeliaeth ac arferion annuwiol, i buro moesau, i sancteiddio y galon, i sefydlu heddwch a thangnefedd, ac i gynal eneidiau dan feichiau trallod a gorthrymder y bywyd hwn.

Llyfr y bywyd yw y Bibl, wedi ei ysgrifenu i addysgu a hyfforddi pob oes a chenedl. Nid oes neb ag sydd wedi canfod ei ogoniant, a theimlo ei nerth a'i ddylanwad, a gyfnewidiai y gyfrol hon am holl lyfrau a llenyddiaeth y byd. Nid oes ond y byd tragywyddol ei

hunan all egluro holl nerth a dylanwad y Bibl i buro, gwareiddio, a bendithio.

Wrth edrych arno yn unig fel cyfansoddiad dynol, mae y Bibl yn llyfr rhyfeddol yn llyfr ar ben ei hun; ïe, yn llyfr y llyfrau. Nis gallai holl lyfrgelloedd y byd, mewn duwinyddiaeth, athroniaeth, hanesiaeth a barddoniaeth, fforddio defnyddiau ddigon i wneyd y fath drysor cyfoethog o hufen athrylith, doethineb, a phrofiad dynol. Mae yn cynwys gweithiau oddeutu deugain o awduron, a'r rhai hyny yn perthyn i bob cylch o gymdeithas, o orsedd y brenin hyd gwch y pysgotwr; ysgrifenwyd ef yn ngwahanol oesau cyfnod hir o un cant ar bumtheg o flynyddau, ar lanau y Nilus yn yr Aipht, yn anialwch Arabia, yn ngwlad yr Addewid, yn Asia Leiaf, yn Groeg goethedig, ac yn Rhufain ymerodrol; mae yn dechreu gyda'r greadigaeth, ac yn gorphen gyda'r gogoneddiad yn y diwedd, wedi desgrifio yn y cyfwng rhyngddynt, holl gamrau datguddiad dwyfol, a dadblygiad ysprydol dyn. Defnyddia bob ffurf o gyfansoddiad llenyddol; cwyd i fyny i uchder eithaf, a disgyn i ddyfnder dyfnaf dynoliaeth; mesura holl gyflyrau bywyd; mae yn gynefin â phob trallod a gwae; cyffyrdda â phob llinyn o gyd hunan all egluro holl nerth a dylanwad y Bibl i buro, gwareiddio, a bendithio.

Wrth edrych arno yn unig fel cyfansoddiad dynol, mae y Bibl yn llyfr rhyfeddol yn llyfr ar ben ei hun; ïe, yn llyfr y llyfrau. Nis gallai holl lyfrgelloedd y byd, mewn duwinyddiaeth, athroniaeth, hanesiaeth a barddoniaeth, fforddio defnyddiau ddigon i wneyd y fath drysor cyfoethog o hufen athrylith, doethineb, a phrofiad dynol. Mae yn cynwys gweithiau oddeutu deugain o awduron, a'r rhai hyny yn perthyn i bob cylch o gymdeithas, o orsedd y brenin hyd gwch y pysgotwr; ysgrifenwyd ef yn ngwahanol oesau cyfnod hir o un cant ar bumtheg o flynyddau, ar lanau y Nilus yn yr Aipht, yn anialwch Arabia, yn ngwlad yr Addewid, yn Asia Leiaf, yn Groeg goethedig, ac yn Rhufain ymerodrol ; mae yn dechreu gyda'r greadigaeth, ac yn gorphen gyda'r gogoneddiad yn y diwedd, wedi desgrifio yn y cyfwng rhyngddynt, holl gamrau datguddiad dwyfol, a dadblygiad ysprydol dyn. Defnyddia bob ffurf o gyfansoddiad llenyddol ; cwyd i fyny i uchder eithaf, a disgyn i ddyfnder dyfnaf dynoliaeth; mesura holl gyflyrau bywyd; mae yn gynefin â phob trallod a gwae; cyffyrdda â phob llinyn o gydymdeimlad; cynwysa fywgraphiad ysprydol pob calon ddynol; mae yn gyfaddas i bob dosbarth o gymdeithas, fel y gellid ei ddarllen gyda'r un dyddordeb gan y brenin a'r cardotyn, gan yr athronydd a chan y plentyn. Mae mor gyffredinol a dynoliaeth ei hun, ac yn ymestyn y tu hwnt i derfynau amser i diriogaethau diderfyn tragywyddoldeb. Mae y cyfuniad digyffelyb yma o ragoriaethau dynol, ar unwaith yn awgrymu ei nodwedd a'i darddiad dwyfol, fel y mae oll-berffeithrwydd dynoliaeth Crist yn brawf o'i Dduwdod.

Ond dylid cadw mewn côf o hyd mai llyfr crefydd yw y Bibl. Efe sydd yn dysgu yr unig grefydd wirioneddol, gyffredinol, yr hon sydd i lyncu i fyny iddi ei hun yn y diwedd holl grefyddau y byd. Llefara wrthym ar y pynciau uchaf, ardderchocaf, a phwysicaf a all byth gael ein sylw, a hyny gydag awdurdod orchfygol ac anwrthwynebol. Mae yn medru dysgu, adeiladu, rhybuddio, dychrynu, tawelu, a chalonogi, mewn modd na fedr yr un llyfr arall ei ddynwared. Gafaela yn nyfnderoedd mwygaf dirgelaidd cyfansoddiad rhesymol a moesol dyn; treiddia fel cleddyf llym daufiniog hyd wahaniad yr enaid a'r yspryd, a barna feddyliau a bwriadau y galon. Dylanwada fel lefain sanctaidd ar bob gallu yn y meddwl, ac ar bob teimlad yn y galon. Cyfoethoga y côf; dyrchafa y rheswm; bywioga y dychymyg; cyfarwydda y farn; cynhyrfa y serchiadau; llywodraetha y nwydau; adfywia y gydwybod; nertha yr ewyllys; enyna fflam sanctaidd ffydd, gobaith, a chariad; pura, dyrchafa, a sancteiddia yr holl ddyn, a chyfyd ef i undeb bywiol â Duw. Mae ganddo oleuni i'r dall, nerth i'r diffygiol, bwyd i'r newynog, a diod i'r sychedig; mae ganddo gynghor mewn gorchymyn neu siampl i bob sefyllfa mewn bywyd, cysur yn mhob trallod, a balm i bob clwyf. O holl lyfrau y byd y Bibl yw yr unig un nad ydym byth yn blino arno, ond yn dyfod i'w edmygu a'i garu fwyfwy po fwyaf yr ymarferwn ag ef. Fel yr adamant, tafla ei lewyrch i bob cyfeiriad; fel y ffagl, po mwyaf yr ysgydwir hi, mwyaf y mae yn goleuo; fel y llysieuyn, po mwyaf y gwesgir ef, hyfrytaf yw y perarogl.[1] Dyma ddiwygiwr mawr y byd, yr hwn sydd i uniawnu gwyrni pechod, ac i ddwyn oddiamgylch adferiad pob peth.

Nid oes dim yn abl cynyrchu cymeriad mor nerthol, cymhelliadau mor bur, a bywyd mor oruchel a gwirionedd y Bibl. Beth bynag fyn dynion ddyweyd am dano; o ba le bynag y daeth; pwy bynag ydyw ei awdwr; mae yn ffaith mai y dynion fu byw agosaf at y Bibl arweiniodd y bywyd goreu welodd y byd erioed. Edrychwch ar dduwiolion y Bibl; ar apostolion Iesu Grist; ar hên dadau yr Eglwys Gristionogol; ac ar ddiwygwyr mawr y gwahanol oesau; dynion wedi eu gwneyd gan y Bibl oeddent. Nid yw yn debyg y buasai enw Luther yn hysbys i'r byd, oni bai iddo daro wrth y Bibl hwnw ar astell lychlyd y mynachdy. Y Bibl hwnw gwnaeth ef yn Luther.

Edrycher ar fywyd hên ddiwygwyr Cymru, fu yn arloesi ein gwlad o'n blaen ni, a'r rhai yr ydym ni wedi myned i mewn i'w llafur hwynt. Dynion yn credu y Bibl oeddent. Dynion wedi eu gwneyd―nid gan addysg, na llyfrau, na manteision cymdeithas, ond gan y Bibl. Dynion a Gair Duw wedi suddo i'w calon. Biblau byw oeddent yn cyniwair trwy y wlad, a'u dylanwad yn trydanu calonau difater, yn goleuo tywyllwch y bobloedd, ac yn gwasgar perarogl bywyd sanctaidd y ffordd y rhodient, sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd.

Mae hanes pob cenedl a gradd yn llawn esiamplau er dangos ei ddylanwad rhyfeddol i oleuo y meddwl, a sancteiddio y galon. Cafwyd yn diweddar gan ddyn oedd wedi arfer byw yn ddyeithr i'r Bibl addaw eistedd am awr bob hwyr gyda'i wraig ar yr aelwyd i ddarllen cyfran o hono. Yn mhen rhai dyddiau, safodd ar ganol y darllen, trodd at ei wraig, a dywedodd, "Wraig, os yw y llyfr hwn yn wir, yr ydym ni yn mhell o'n lle."

Rhyw noswaith, ychydig ar ol hyn, dywedodd eilwaith, "Wraig, os yw y llyfr hwn yn wir, yr ydym ni yn golledig." Yr oedd wedi ei lyncu i fyny erbyn hyn, gan gynwysiad y llyfr dwyfol; ac un noswaith, cododd ei ben o'r llyfr, a dywedodd wrth ei wraig gyda threm a thôn obeithiol, "Wraig, os yw y llyfr hwn yn wir, gallwn gael ein hachub!" Bu y darlleniad yma dan fendith yr Arglwydd yn foddion dychweliad y gŵr a'r wraig, a gwnaeth fywyd oedd o'r blaen yn hunanol a diffrwyth, yn sanctaidd a defnyddiol. A'r peth a wnaeth ar y ddau hyn, y mae wedi ei wneyd ar filoedd, ac yn ei wneyd yn barhaus.

Treuliodd y meddyliwr galluog, a'r athronydd enwog, John Locke, y pedair blynedd ar ddeg olaf o'i fywyd i astudio y Bibl; teimlai y fath fawredd yn y datguddiad o ddoethineb a daioni Duw yn nhrefn iachawdwriaeth, fel nas gallai ymatal rhag torri allan i waeddi, "Oh, ddyfnder golud daioni a gwybodaeth Duw!" Pan ofynodd perthynas iddo beth oedd y ffordd feraf a sicraf i gyrhaedd gwybodaeth wirioneddol o'r grefydd Gristionogol, ei ateb ydoedd," Astudied yr Ysgrythyrau Sanctaidd, yn enwedig yn y Testament Newydd. Mae hwn yn cynwys geiriau bywyd tragywyddol. Y mae ganddo Dduw yn awdwr, iachawdwriaeth yn amcan, a gwirionedd heb ddim cymysgedd o gyfeiliornad yn foddion."

Mae y Bibl yn cyfranu rhyw fath o nerth i gymdeithas, neu wladwriaeth, cyffelyb i'r hyn y mae yn roddi i berson unigol. Mae yn aileni gwledydd, ac yn rhoddi math o fywyd tragywyddol iddynt. Mae ei fywioldeb a'i nerth yn treiddio i'w sefydliadau a'u harferion, yn eu puro o'r gwraidd ac yn rhoddi sefydlogrwydd iddynt. Y Bibl sydd wedi codi Prydain i'w sefyllfa uchel yn mysg teyrnasoedd y ddaiar.

Pan dalodd pennaeth o Affrica ymweliad â'r wlad hon amryw flynyddoedd yn ol, synwyd ef yn fawr, a gofynodd i'r Frenines. "Beth oedd y dirgelwch am lwyddiant ei theyrnas ?" Estynodd Victoria Fibl iddo, ac atebodd, "Y lle y mae hwn wedi gael yn fy nheyrnas, dyna y dirgelwch." Mae nerth Prydain, nid yn ei chleddyf, ei mhagnel, a'i hamddiffynfeydd, ond yn ei Llyfr. Hâd anllygredig yw, yn byw ac yn parhau yn dragywydd. Cleddyf yr Yspryd yw gair Duw. Trwy ei nerth ef y dymchwelir teyrnas y diafol, ac yr adsefydlir cyfiawnder a heddwch ar y ddaiar. Mae dynion drwg wedi arfer ei gasâu, ei gablu, a'i losgi, ond mae y Bibl yn byw i weled ei holl elynion yn trengu. Bywiol a nerthol ydyw.

Cawn gan' mil o galonau Cymreig heddyw i ddyweyd gyda ni, Hen Fibl anwyl, bydd fyw byth. Trysor penaf ein gwlad; ein coron, ein gogoniant, a dyrchafydd ein pen. Perl gwerthfawrocach na mynyddoedd Cymru, a'u holl drysorau. Tydi sydd wedi goleuo ein tywyllwch, wedi tynu ein beichiau oddiar ein hysgwyddau, wedi tori y llyfetheiriau oddiam ein traed, wedi agor dorau ein hên garcharau, a chyhoeddi i ni y rhyddid gogoneddus â'r hwn y rhyddhaodd Crist ni. Tydi sydd wedi dyrchafu ein gwlad goruwch holl wledydd y ddaiar; wedi melusu pob bendith dymhorol i ni, ac wedi dwyn mil myrdd o fendithion tragywyddol i'n meddiant. Tydi sydd wedi datguddio i ni y golud anchwiliadwy, yr eti feddiaeth anllygredig, y goron anniflanedig, a'r deyrnas dragywyddol. Tydi sydd wedi crogi lampau tanllyd i nf yn nhynel tywyll cysgod angau, a'i droi yn oleu ddydd. Tydi gynaliodd ein tadau with y stanc a'r ffagodau, ac a barodd i'w cân esgyn gyda'r fflam i'r nefoedd. Tydi fu yn gosod dy adnodau gwerthfawr yn glustog dan benau ein mamau i'w dal uwchlaw y dòn wrth groesi yr hên Iorddonen. Wrth nerth dwyfol yr hên adnod y buont yn hongian pan oedd y byd yn colli dan eu gwadnau, a châr a chyfaill yn cael eu gyru yn mhell. Ië, dywedwn eto, Hên Fibl anwyl, bydd fyw byth, yn yr enaid o fewn, ac yn y byd oddiallan; bydded dy law yn ngwar dy holl elynion; darostwng hwynt â dymchweliad tragywyddol ! Llywodraetha o for i for, ac na fydded diwedd ar dy freniniaeth mwy.

PENILLION.

O Arglwydd da, argrapha
Dy wirioneddau gwiw,
Yn rymus ar fy meddwl
I aros tra f'wyf byw ;
Mwy parchus boed dy ddeddfau,
Mwy anwyl nag erioed;
Yn gysur i fy nghalon,
Yn llusern i fy nhroed.




Mae dy Air yn abl f'arwain
Trwy'r anialwch mawr yn mlaen,
Mae yn golofn oleu, eglur,
Weithiau o niwl ac weithiau o dân;
Mae'n ddiblê, ynddo fe,
Fwy na'r ddaiar, fwy na'r ne.'



O fewn i gloriau hwn
Mae dwfn feddwl Duw;
Pob iot o hono bery 'n hwy
Na'r néf, gwirionedd yw;
Y llwon yw ei sail,
Gwaed Adda'r Ail yw'r sêl;
Mwy gwerthfawr yw nag aur Peru,
Llawn yw o laeth a mêl.



Dyma Fibl anwyl Iesu,
Dyma rodd deheulaw Duw;
Dengys hwn y ffordd i farw,
Dengys hwn y ffordd i fyw;
Dengys hwn y codwm erchyll
Gafwyd draw yn Eden drist;
Dengys hwn y ffordd i fywyd
Trwy adnabod Iesu Grist.






Goleu nerthol yw dy eiriau,
Melus fel y diliau mêl,
Cadarn fel y bryniau pwysig,
Angau'm Hiesu yw eu sêl;
Rhai'n a nertha'm henaid gerdded
Ddyrus anial ffordd yn mlaen,
Rhai'n a gynal f'enaid egwan
Yn y dwr ac yn y tân:



LONDON: PRINTED BY WILLIAM CLOWES AND SONS, STAMFORD STREET,
AND CHARING CROSS.

Nodiadau golygu

  1. Dr. Schaff.