Hanes y Bibl Cymraeg/Y Bibl Cymraeg Presenol
← Bibl Dr. Morgan | Hanes y Bibl Cymraeg gan Thomas Levi |
Ymdrechion i Gyflenwi Cymru a Biblau → |
PENNOD VI.
Y BIBL CYMRAEG PRESENOL.
YN y flwyddyn 1620, yn mhen 32ain o flynyddau ar ol cyhoeddiad Bibl Dr. Morgan, dygodd Dr. Richard Parry, olynydd Morgan yn Esgobaeth Llanelwy, argraphiad diwygiedig o'r Bibl Cymraeg allan. Gwnaeth hyn, oddiar anogaeth ei galon ei hun, wrth weled anghen dirfawr y wlad am Air Duw. Yr oedd erbyn hyn, nid yn unig ddiffyg Biblau yn nheuluoedd y wlad, ond dywed Parry fod y rhan fwyaf o'r eglwysi heb y Bibl, a lle yr ydoedd, ei fod yn dreuliedig ac wedi ei ddarnio, a neb yn meddwl am ddwyn allan argraphiad newydd. Yr oedd argraphiad diwygiedig o'r Bibl Saesneg newydd ei gyhoeddi, dan awdurdod y Brenin, a bu hyn yn foddion i'w gynhyrfu yntau i gael argraphiad diwygiedig o'r un llyfr gwerthfawr i'w gydgenedl, y Cymry. Yr oedd yn glod mawr i feddwl a chalon Esgob Parry iddo ymgymeryd â'r fath orchwyl pwysig oddiar y fath gymhelliadau.
Yr oedd y diwygiadau a wnaed gan Dr. Parry mor bwysig fel y gellid ei alw yn gyfieithiad newydd. Argraphwyd ef yn Llundain, gan Norton a Bill, yn y flwyddyn 1620. Anfonwyd copi o hono yn anrheg i'r Brenin Iago, yr hwn sydd i'w weled yn awr mewn cloriau ardderchog yn y British Museum. Bibl mawr unplyg ydyw, mewn llythyren ddu, wedi ei ranu fel y Bibl blaenorol, a chyfeiriadau Bibl y Brenin Iago ar ymyl y dail. Mae y calendar ynddo, a chyflwyniad Lladin i'r brenin, yn yr hwn y mae yr esgob yn nodi yr hyn a'i cymhellodd i ymgymeryd â'r gwaith. Mae hefyd ar ei ddechreu lawer o addurniadau cerfluniol, a ddefnyddid ar y Bibl Saesneg yn gystal a'r un Cymraeg yn y dyddiau hyny.
Efallai y byddai yn dda gan y darllenydd i gael ychydig o siamplau o'r tri chyfieithiad, er mwyn cael cipolwg ar y cyfnewidiad a wnaeth Dr. Morgan ar gyfieithiad Salesbury, a'r cyfnewidiad wnaeth Dr. Parry ar gyfieithiad Dr. Morgan.
SALESBURY. | DR MORGAN | DR PARRY |
Mat. cciv. 15 | ||
Ffieidd-dra y diffaethwch. | Ffieidd-dra annhraithiol. | Ffieidd-dra anghyfaneddol. |
Luc. xix. 4. | ||
Ffigis bren gwyllt. | Ffigyswydd gwylltion. | Sycamorwydden. |
Act iii. 21. | ||
Yr un vydd i'r nev ei dderbyn, yd yr amser yr adverir yr oll bethae, &c. | Yr adnewyddir pob peth. | Yr hwn sydd raid i'r nef ei dderbyn hyd amseroedd adferiad pob peth. |
Act xxvii. 9. | ||
Wedi cerdded llawer amser | Yn ol hir amser | Ac wedi i dalm o amser fyned heibio. |
Rhuf. xii. 3. | ||
Na bo i neb ddyall uwchlaw y dyler dyall | (Yr un modd.) | Na byddo i neb uchel-synied yn amgen nag y dylid synied. |
Rhuf. xiii. 6, 7. | ||
Ys synwyr y cnawt, angeu yw. | Canys y mae synwyr y cnawd yn farwolaeth. | Syniad y cnawd, marwolaeth yw. |
Col. i. 10. | ||
Fal y rotioch yn deilwng gan yr Arglwydd, a'i voddhau ev yn pop dim. | Gan ryglyddu bod yn mhob dim. | Gan ddwyn ffrwyth yn mhob gweithred dda. |
Phil. i. 21. | ||
Canys yr Christ ys ydd un ym bywyth, ac yn angeu yn enilliath. | Canys byw i mi (yw) Crist, ac elw yw marw. | Canys byw i mi yw Crist, a marw ''sydd'' elw. |
2 Pedr. ii. 13. | ||
Brychay yntynt, a thrisclynay | Brychau ydynt a tharysclynau. | Brychau a meflau ydynt. |
Iawn hysbysu fod y dysgedig Dr. John Davies, person Mallwyd, ac awdwr y Gramadeg Cymraeg yn yr iaith Ladinaidd, a'r Geirlyfr, wedi bod yn gymhorth mawr i'r esgob i ddwyn ei Fibl allan. Cyhoeddodd ei Ramadeg yn y flwyddyn 1621, a chyflwynodd ef i'r Esgob Parry. Dywed, yn ei Ragymadrodd, ei fod wedi treulio llawer o amser am fwy na deng mlynedd ar ugain, i astudio iaith ei wlad, a bod ganddo ryw law yn nghyfieithiad y ddau argraphiad o'r Bibl iddi. "Byddwn," ychwanegai, "yn arferol o ddychwelyd oddi wrth y gorchwyl ysgafn hwn (fel ei gelwir) efo mwy o awydd, a chydag astudrwydd a diwydrwydd newydd dau-ddyblyg, at y pethau pwysfawr hyny (sef pregethu yr efengyl, a chyfieithu yr Ysgrythyrau Sanctaidd i'r iaith Gymraeg.)"
Y cyfieithiad hwn, galwer ef yn wreiddiol neu ddiwygiedig, o eiddo Dr. Richard Parry, Esgob Llanelwy, ydyw y Bibl sydd genym ni yn awr, a'r hwn sydd wedi bod gan y Cymry am fwy na dau gant a haner o flynyddoedd. Nid oes dim cyfnewidiadau o bwys wedi eu gwneyd ynddo byth oddiar hyny. Dim ond cyfnewidiadau bychain, megys gosod prif lythyrenau yn lle rhai bychain, newid y dull o sillebu rhai geiriau, a phethau dibwys cyffelyb. Gogleddwyr gan mwyaf, os nid yr oll, oedd y cyfieithwyr. Yr oeddent oll yn ysgoleigion o radd uchel, ac mor ddysgedig yn yr Hebraeg a'r Groeg, fel y dywedir nad oes gan un genedl ar y ddaiar well cyfieithiad o'r llyfr Dwyfol nag sydd gan y Cymro. Ystyrir ei iaith hefyd yn safon i'r Gymraeg y dydd heddyw, er ei fod yn ganoedd o flynyddoedd o oedran, fel mae Bibl y Brenin Iago yn ei gysylltiad â'r iaith Seisnig.