Hen Gymeriadau Dolgellau (testun cyfansawdd)

Hen Gymeriadau Dolgellau (testun cyfansawdd)

gan Edward Williams (Llew Meirion)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hen Gymeriadau Dolgellau

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader



Hen Gymeriadau Dolgellau

Gan

Edward Williams ('Llew Meirion')


Cyfres o erthyglau o Gymru (cylchgrawn) Cyf. 35, 1908 (Golygydd Owen Morgan Edwards)
Cylchgronau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Hen Gymeriadau Dolgellau.
I. YR HEN AMGYLCHEDD

 AE'N debyg eich bod, fel fy hunan, wedi bod lawer gwaith mewn ocsiwn, ac yn gweld yr ocsiwniar yn rhoi ambell i lot i fyny, ac yn crefu yn enbyd am i rywun gynnyg rhywbeth am dano, a chithau yn gofyn i chwi'ch hun,—"Be mae o da?" Welsoch chwi erioed beth 'run fath a fo; a thebyg ydyw, os bydd y lotiau yn hen iawn, na welwch chwi yr un tebyg siawns mewn ocsiwn byth ar ol hynny. Ond, sut bynnag, hwyrach y bydd gennych chwi ffansi ato am yr unig reswm ei fod yn hen, ac yr ydych yn mentro cynnyg: a chyda lwc yr ydych yn ei gael.

Mwy na thebyg mai rhyw gwestiwn fel yna fydd rhywun yn ei ofyn i minnau pan yn dod a rhyw lot o hen gymeriad o'ch blaenau gyda hyn. Ac nis gallaf ei ateb, ond yn unig trwy ddweyd ei fod yn hen——yn un o antiques yr oes o'r blaen; ac yn ddios i chwi, welwn ni byth rai yr un fath a nhw eto. Dydyn nhw ddim i'w cael yrwan, er fod rhai yn ceisio bod yn odiach na'r cyffredin yn ein dyddiau ni. Nid ydyw amgylchedd yr ugeinfed ganrif ddim mor ffafriol i gynyrchu cymeriadau o'r fath a'r ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. "Pam?" meddech chwi. Wel, nid yr un arfau sydd yn eu llunio nhw, ac nid o dan yr un amgylchiadau y mae defnydd eu hymenyddiau yn tyfu. 'Doedd yma ddim byd yn cyfryngu rhwng natur a hi ei hun fel ag sydd yn yr "oes oleu hon" forsyth. "Llunio y gwadan fel bo'r troed" oedd hi ystalwm, ac nid llunio y troed fel bo'r gwadan fel y mae hi gyda ni. Nid chwilio am sgidiau nymbar 5 i droed nymbar 8, na gwasgu canolbwynt bodolaeth un i faint coes brwsh llawr, yr oedd yr hen bobol. Yr oedd yr hen bobl am roi chware teg i natur a gras ran hynny, fel rheol iddyn nhw eu llunio i'r ffurf fwyaf cymhwys iddynt; ac yn y golcu yna y rhaid i ni edrych ar agweddau pethau yn y dreflan yma a'r cylch o driugain i bedwar ugain mlynedd yn ol, sef yr adeg pan yr oedd y dref yn amddifad o'r breintiau yr ydym ni yr awrhon yn eu mwynhau. 'Doedd y pryd hynny na gasworks, waterworks, Local Board, Cyngor Sir, nac unrhyw foethau amheus fel sydd yrwan. Byddai pawb yr adeg honno yn dibynnu ar wybod sut dywydd oedd hi ar ol deg o'r gloch y nos, ar yr hen watchman, gyda'i lantar gorn pan y cerddai drwy y strydoedd yma, ac yn gwaeddi agwedd y tywydd fel rhyw walking barometer,—"Dark night," cloudy night," "dirty night," "fine night," "fel y digwyddai. Ffynhonnau y dref oedd yn disychedu y trigolion, a ffynhonnau ardderchog oeddynt, Ffynnon y Gro, ar dir y Llwyn, Ffynnon Plas Ucha, Ffynnon Morus Dafydd, a Ffynnon Ty'n y Coed. I Beti Dafis, am yr hon y cawn sylwi ymhellach, y rhoddwyd gofal glanweithdra y dref, a rhoddi ei bye-laws ei hun mewn grym. Dyddiau anneddfol, di-lyfethair mewn llawer dull, oedd y dyddiau hynny, ac yr oedd y trigolion i ryw raddau yn cyfranogi o'r cyf— ryw ryddid,—pob un yn ddeddf iddo ei hun, megis, a neb yn rhyw falio llawer sut yr oedd pethau yn mynd ymlaen, ond iddyn nhw fitio yr oes; ac os byddai rhywun yn camu dipyn yn frasach na'i gilydd at ryw ychydig o welliant, coegyn, flyer, neu rywbeth gwaeth oedd.

Nid oedd plisman yn y wlad, ond cwnstabliaid a ddewisid gan y festri, a phan gofiwn fod blaenoriaid Methodus a phregethwyr cynorthwyol gyda y gwahanol enwadau yn cael eu tyngu i mewn, gallwn synio yn lled agos pa mor effeithiol oedd y gwaith o heddychu y rhai anystywallt yr adeg honno. Be ddyliech chwi o ddynion crefyddol, a diwyd ar lawer ystyr, tebyg i Mri. William Jones y Draper, Shop Newydd; Parch. Rolant Huws, Hugh Jones y Shop, Dafydd Jones Shop Fach, Gruffydd Puw Tan y Cafnau, Parch. Richard Hughes person y plwyf,—heddychol ffyddloniaid Israel—yn ffigro mewn row ar y stryd ar noson ffair? Yr oedd Huw Jones y Shop yn meddu ar un fantais fawr i fod yn gwnstabl, yr oedd ganddo y dwylaw mwyaf bron o neb dyn yn y wlad, a dywedir ei fod, yn y cymeriad o gwnstabl, wedi gafael mewn bwli pen ffair o sir Aberteifi in ju jitsu fashion, a'i fwndlo i mewn i'r lock—up dan yr Hall, sef lle mae swyddfa Mr. Griffith Boderyl, mor ddidrafferth a phac o wlan. Ceir ychwaneg ymhellach ymlaen am y cwnstabliaid yma.

Nid oedd Dirwest wedi gorchfygu eto, er fod llawer o ddirwestwyr aiddgar yn y dref; ond gan mwyaf un—teetotallers oedd mwyafrif y trigolion, fel ymhob tref a llan y pryd hwnnw. Pan y byddai un wedi myned i'r "stad feddwol" a elwir yn incapable, 'doedd dim ond ei arwain i'r stocks at y Bont Fawr, a chloi ei draed i mewn ynddynt hyd nes y sobrai. Yr wyf yn cofio Huw Llwyd Bach a Hwmffra Rhisiart y Crydd wedi eu caethiwo ynddynt y tu mewn i giat yr Hall, a'r diweddaf yn canu yn hapus,—"Coi mi neri coi mi." Gan fod pob tafarn yn darllaw ei diod ei hun yr oedd llawer o yfed ar yr hyn a elwid yn "ail ddiod" neu "ddiod fain," a byddai llawer o deuluoedd cyffredin y dref yn prynu rhyw chwart neu ddau ac yn ei dwymo, a'i roi fel pryd o botes am ben bara i'r plant, yn enwedig os byddai y teulu yn lliosog. Enw y course hwn yn iaith menu oedd "bara diod."

Gellid myned ymlaen fel hyn am dudalennau i ddangos pa beth oedd agwedd gymdeithasol y dref yn y cyfnod hwn; ond amser a ballai i mi son am y chwareuon, y campau, a'r rhempau, a ddaethant megis hyd drothwy yr ugeinfed ganrif; megis permanta, sef oedd hyn, ar noson Calangauaf i ferch neu fab fyned dair gwaith o amgylch yr eglwys yn y nos ei hunan, a thwca noeth yn ei law, ac yn gofyn, "Dyma'r twca, p'le mae'r wain?" A disgwylid i un o drigolion gwlad hud ddod a'r wain i'r neb a ofynnai am dano, a byddai hynny yn sicrwydd y caffai y mab neu y ferch eu dymuniad o'r hyn oedd fwyaf anwyl ganddynt. Hefyd yr ymryson cicio rywbeth ar ffurf pel droed rhwng plwyfi Llanfachreth a Dolgellau, pryd mai terfynau y ddau blwyf oedd y goals y pryd hwnnw. Ond nis gallaf lai na rhoddi i chwi syniad arall am yr hen dref yn ei hagwedd fasnachol yn y cyfnod yma. Y mae yn wybyddus i chwi oll mai prif ddiwydiant y dref a'r cylchoedd y 300 mlynedd diweddaf oedd gwehyddiaeth, a thrin gwlan i'r amcan hwnnw. Dyddorol fuasai myned ar ol y ffaith yma yn hanesyddol, a'i dilyn ymlaen hyd y cyfnod yma, cyfnod y gellid ei alw yn "passing of the loom," neu ymadawiad y gwehydd. Mae rhai yn fyw ac yn cofio yn dda nad oedd odid dŷ ym Mhenucha'rdre nad oedd clic y gwehydd i'w glywed ynddo, ac nad oedd wythnos yn myned heibio nas gwelech gannoedd o lathenni o ddarnau yn cael eu stretchio a'u sychu yng Nghae Deintyriau ac oddeutu y ffatrioedd. A. chwestiwn dyddorol ydyw,—Pa fodd y daeth Dolgellau, y Drefnewydd, Llanidloes, Pen Llwyn, Tregaron, Caerfyrddin, a sir Benfro yn enwog fel canolfannau pwysig y gelfyddyd o weu? Yr ateb yw mai tramorwyr o Fflanders a erlidiwyd o'u gwlad i geisio gloewach nen ym Mhrydain, ac iddynt lanio yn sir Benfro a dyfod i fyny mor belled a hyn i'r Gogledd, a geilw yr haneswyr eu hymdaith yn "March of the Flemings." Sefydlasant yn y mannau crybwylledig, gan ddysgu y trigolion i weu, ac wrth eu dysgu ymbriodi a merched a meibion y lleoedd hynny; ac ond i ni sylwi yn fanwl, ceir eu gwehelyth yn ein plith hyd yr awrhon. A dwn i ddim am well cyfrif i roi am y dywediad anghwrtais Dos i Fflandars!" sydd mor gyffredin yn ein plith, na sen i hiliogaeth y bobl hyn, os byddwn am i rywun fynd ymhellach oddiwrthym nag un o'r tri thyrpac yma. Ond sut bynnag, yr oedd gwedd fasnachol y dref yn flodeuog iawn am gyfnod maith, ac ystyrrid eu nwyddau gweu y rhai goreu bron yn y deyrnas. Ac mor bwysig oedd y diwydiant fel y pasiodd y Senedd ddeddf arbennig at gael unffurfiaeth yn lled a phwysau y darnau, gan mwy na thebyg, fod rhai yn defnyddio y mesur Ffleming (the Flemish Ell), ac eraill yn defnyddio y mesur Seisnig (English Ell).

Ond, 'rwy'n gweled fy mod yn crwydro. Fy amcan yw dangos yn gynnil fod hanes Dolgellau eto heb ei ysgrifennu, a bod yma lawer o honom, fel brodorion, yn hollol anwybodus o'r histori a'r trâs uchel sydd i'r hen dref yn y gorffennol.

II. RHAI OHONYNT.

 N y rhestr a ganlyn o'r hen gymeriadau, nid wyf yn bwriadu dweyd yr oll a ellir am danynt, ond just roi i chwi ryw syniad am y bywyd gwerinol, difalais, a chartrefol oedd yr hon bobol ei fyw. A chofir, wrth eu portreadu, mai nid gallery o seintiau oeddynt yn ol syniad rhai am y bodau hynny; ond y rough unvarnished article fel yr oeddynt. A chofier hefyd mai nid diffyg parch iddynt hwy na'u hiliogaeth sydd yn fy nghymell, ond ceisio dangos i rai o fechgyn yr oes hon fath rai oedd yr "hen bobol, ac adgofio y rhai sydd mewn oed am yr hen landmarks a welsant hwy pan yn blant, oeddynt yn amlwg iawn fel rhyw rai,—somebodies, chwedl y Sais, yn y dref.

COCH MAWR Y FEDW. A pha le y mae y Fedw? Y mae wedi mynd a'i ben iddo ers talwm fel ty byw. Ond yr oedd heb fod yn nepell o'r Dewisbren Isa, wrth ymyl y Coed, yr hwn a elwid ystalwm yn Tyddyn y Pwll, ar ffordd y Fron Serth. Dywedir am y Coch ei fod yn blentyn sugno hyd nes yr oedd yn saith oed, ac yr oedd ei nerth yn ddihareb yn yr oedran hwnnw, oherwydd dywedir iddo gario hanner pwn o flawd o'r dref i Ddewisbren yn blentyn felly, ac y byddai yn rhoddi y pwn i lawr er cael sugn gan ei fam. Lewis Jones oedd ei enw, a gwelid ar fantell simnai yn y Fedw L. J. wedi ei cherfio arni, a'r flwyddyn 1648 arni. Dywedir am dano ac am ei gryfder fel y canlyn,—

Pan oedd y gweithwyr mewn penbleth i gael y fantell simnai hon i'w lle, tra yr oedd y gweithwyr yn bwyta, aeth y Coch ati a chododd hi ei hun, a phan y meddylir fod y fantell yn rhuddyn derw trwm, a bod nifer o ddynion cryfion wedi methu, gwelwn ar unwaith mai nid anfantais oedd i'r Coch fod heb ei ddiddyfnu hyd nes yn saith oed. Dro arall, yr oedd eisiau pren trawst i ysgubor Tyddyn y Garreg. Caed fod y lle y gorweddai y pren yn y goedwig yn rhy anhawdd i fyned a cheffylau ato i'w gael allan, a phenderfynwyd gwahodd dynion cryfaf Cwm Gwanas i geisio ei gael oddiyno, ac yn eu plith y Coch. Wedi iddo daflu golwg drosto, perodd i'r dynion godi ei fonyn ar ei ysgwydd ef, ac wedi llwyddo i wneyd hynny, aeth cymaint a allai o honynt wedyn o dan ei ben blaen, ac felly y caed ef oddiyno—yr holl griw o dan y pen blaen—yr ysgafna—a'r Coch ei hun o dan y pen trymaf.


SHON RHOBET Y CANTWR.—Er yn gerddor gwych, nid oedd yn llai fel un o hen gymeriadau y dref serch hynny. Y mae yma rai yn ei gofio yn dda, adgof sydd gen i am dano. Crydd oedd Sion Rhobet, a chryddion oedd ei blant, a byddai wrthi beunydd yn pricio notes, ac yn mwmian canu bob amser, ond pan fyddai yn cysgu. Bu am flynyddau yn arweinydd canu yn Eglwys St. Mair, a chyrchai llawer o foys y dre i'w weithdy os byddai rhyw anthem, trio, neu alaw newydd wedi ymafaelyd ynddo; a cheisiai yr hen frawd ganddynt i dreio pob creadigaeth gerddorol o'i eiddo. Yr oedd yn eiddigeddus iawn o'i donau, ac un tro anfonodd dôn i'r Dysgedydd; ond rywfodd argraffwyd y dôn heb ddangos proof o honi i Shon Rhobet, a phan ei gwelodd yr oedd yn wallau trwyddi, a mawr fu yr helynt. Aeth at Mr. Evan Jones, y cyhoeddwr, a rhoddodd ar ddeall i'r gŵr hwnnw y buasai ei staff o gysodwyr yn llai o un neu ddau beth bynnag ar ol y diwrnod hwnnw; a bu ar Mr. Wm. Meirion Davies (Parch. Wm. Meirion Davies, wedi hynny), gymaint o ofn mynd allan ar ol iddi dywyllu rhag iddo gyfarfod Sion Rhobet, gan mai efe gafodd y bai am gamosod y dôn. Clywsoch o'r blaen am hanes y dôn "Tlysig," pan y gwnaeth amryw o'r bechgyn gylch o honynt hwy eu hunain, a'r naill yn mynd ar ol y llall i ofyn am i'r hen gerddor ganu yr alaw, ac i'r olaf o honynt, a thad y drychfeddwl o blagio a gwylltio yr hen ddyn, gael ei droed clwb o dano, ac yn gofyn iddo,—"Sut wyt ti yn leicio Tlysig' i lawr y scale yna?" gan gyfeirio at y grisiau oedd yn arwain i'w lofft lle y gweithiai.


RHISIART THOMAS Y SOLDIER.—Llifiwr oedd yr hen gymeriad hwn, ac yn llawn o ysbryd brwdfrydig a gwladgar. Fel llawer i Gymro ieuanc arall o'r cyffiniau, deffrowyd ei natur danllyd yntau gan yr elyniaeth oedd yn corddi y wlad y pryd hwnnw yn erbyn Napoleon Bonaparte, neu fel y galwent ef yn ddigon cartrefol y pryd hwn, yr hen Boni." Yr oedd uchelgais diderfyn Napoleon i orchfygu cyfandir Ewrop y fath nes creu arswyd ar y cenhedloedd, a blynyddoedd ofnadwy oedd y deuddeng mlynedd rhwng 1803 a 1815, ac erbyn 1808 yr oedd Napoleon bron yn feistr ar yr oll o gyfandir Ewrop. Ond yn y flwyddyn olaf a enwyd, y mae yr hyn a alwn yn Rhyfel y Gorynys yn dechreu, a'r Ffrancod yn cael eu trechu yn Rolica, a therfynwyd y cadymgyrch cyntaf. Y flwyddyn ddilynol dechreuwyd yr ail gadymgyrch, a gorchfygwyd y Ffrancod yn Talavera. Dwy flynedd wedi hyn ail ddechreuodd yr ymladd, ac yr oedd Risiart Thomas yn y cadymgyrch hwn, a pharhaodd yn y Gorynys yn Spaen hyd nes i Napoleon roddi i fyny, am y tro. Yr oedd yr hen frawd wedi bod yn yr ymladdfeydd poethaf yn y rhyfel hwn, gan y gwelid ar bars ei fedal yr enwau Badajoz a Salamanca: ac y mae enwau brwydrau gwaedlyd Talavera, Albuera, Badajoz, a Salamanca ar faneri rhyfel y Royal Welsh Fusiliers hyd y dydd hwn, yr hyn sydd yn profi fod y gatrawd Gymreig wedi ar ddangos ei hun yn un o'r rhai dewraf yn y cadymgyrchoedd gwaedlyd hyn; ac nid y distadlaf yn y "thin red line" oedd Corporal Rhisiart Thomas, os byddech mor fwyn a chredu ei version ef o'r hanes. Rhyw "second Bill Adams" oedd Rhisiart Thomas, a chlywais y byddai'n adrodd yr hanes yn debyg i hyn,— "Yr o'n i a Duwc Wellinton yn ffrindia mawr. Ac os oedd eisia gneyd rhwbath mawr byddai yn gweiddi arna i ac yn galw,—'Cym hiar, Die Thomas, I want iw to fetch hay for the horses.' 'Ol-reit, syr,' meddwn innau. 'Take as many men as you like, Dick, but don't forget the hay. A ffwr a mi, a lot o soldiars o dan fy ngofol, ac yn mynd at ffarm, ac yn deyd wrth y soldiars oedd o dan fy ngofol, Hei on, lads, cart the hay.' Ond mi ddoth 'na Ffrensman ata i ac yn y mwgwth i, ac yn deyd na chawswn i mo'r gwair. Heb ddim lol, dyma nghledda i allan, a'i ben o i ffwr mewn chwinc, ac un arall, ac un arall i chi... A dyma ni i'r ciamp, a digon o wair gennon ni. Ond y bore dyma fi gôl, a rhywun yn deyd,— The Duke want to see you, Richard Thomas.' Dyma fi yn gneyd fy hun mor smart ag a allwn i, ac yn mynd at y Duke. 'Holo, Dic,' ebai, what is this I hear about you?' 'What, sir?' ebra finna. 'Wel, you killed 3 or 4 Frenchmen yesterday for refusing you some hay. You must keep your temper, or else I must fight the whole of Europe because of you, Dick Thomas. Byddai yr hen frawd, ar bob cyntaf o Fawrth, a'i genhinen hir yn ei het, a'i fedal a'i dri bar ar ei fynwes, mor benuchel â neb ar y stryd. A phwy a warafunai iddo? Yr oedd yn deilwng fab gwladgarwch Cymru ar ddygwyl Dewi Sant.

MEURIG EBRILL, neu Morris Dafydd, oedd gymeriad nodedig yn ei ddydd ar gyfrif ei barodrwydd barddonol, ac ar gyfrif ei ddull o fyw. Saer coed ydoedd wrth ei alwedigaeth. Rhyw Rip Van Winkle ydoedd. Aeth i'w wely un noswaith, a chododd o ddim oddyno hyd derfyn saith mlynedd. Cododd, a chyhoeddodd lyfr o'i weithiau, o'r enw "Diliau Meirion," a cherddodd y wlad o'i phenbwygilydd, a gwerthodd filoedd o hono. Cafodd flas ar ysgrifennu a chyhoeddodd hanes ei deithiau; ac ar ol hynny aeth i'w wely drachefn, a chododd o ddim oddiyno hyd nes y bu farw yn 1861, yn 81 mlwydd oed. Yr oedd ei sel fel Anibynwr yn gryf, a gwae y neb a feiddiai ddweyd gair yn erbyn Independia, ac yn enwedig yn erbyn Caledfryn. Yr oedd Caledfryn i Meurig yn fod uwchddaearol bron. Pan oedd y diweddar Mr. Owen Rees yn is olygydd yr Amserau yn Liverpool, ysgrifenodd erthygl gondemniol anghyffredin yn erbyn Caledfryn ac arweinwyr Anibynnol eraill, ynghylch rhyw sen a roddodd y gwyr hynny i'r Methodistiaid,—yr adeg pan oedd "partiol farn sectyddol" wedi meddiannu y wlad o benbwygilydd; a daeth Meurig allan i'r ymosod, a gwnaeth gadwen o englynion—ei arfau tân ef—yn erbyn Mr. Owen Rees. Ond buasai yn well i'r hen frawd beidio; oherwydd nid gwr oedd y diweddar Owen Rees i'w ddychrynu gan swn cacynen mewn bys coch, a rhoddodd dose lled arw i'r hen fardd; a rhywun yn gofyn iddo oedd o ddim am ei ateb, just o ran tipyn o gywreinrwydd,— 'Nag ydw i," meddai, wedi sobri tipyn,—

Rhyw afiach sothach rhy sal—yw croesder
I'r Cristion i'w gynnal;
Y dyn da nid yw'n dial,
Dywed ef mai Duw a dâl."


Gresyn na fuasai yr hen frawd yn cofio hyna cyn iddo ollwng yr englynion a gyfansoddodd yn erbyn Mr. Owen Rees.

SHANI ISAAC, neu, fel y gelwid hi yn gyffredin, Shenni'r Potiau. Nid oedd neb o fewn cylch ugain milldir i Ddolgellau nad oeddynt yn adnabod Shenni. Yr oedd yn un o lawer o drafaelwyr llestri anfonai yr hen William Jones y Potiau o gwmpas y wlad gyda'i basgedi i werthu llestri on commission. Dynes fechan, sharp ei thraed a'i thafod ydoedd, ac yr oedd yn hawdd ei digio a'i difyru. Hen ferch ydoedd, ac yn cadw ei hun yn lanwaith bob amser; ond,—ie ond, pan y byddai ar ei spree. Nis gallai ddioddef clywed canu, na band na chlychau, na byddai yn fyw drwyddi, ac yn anghofio ei hun yn y fan. Ar adegau o lawenydd yn y dre byddai Shenni ar flaen y dyrfa, ac wedi gwisgo ei hun a ribanau amryliw, fel recruiting sergeant, ac yn bloeddio hwre fel hogan bymtheg oed, neu hogyn ddylaswn ddweyd. Yr oedd ganddi ffon bob amser ar yr adegau yma, gan y byddai honno o fantais iddi i gadw ei hequilibrium, ac hefyd at gadw pawb at a respectable distance tra byddai hi yn actio y drum major i'r band. Yr oedd ei phresenoldeb ar adegau o rialtwch neu ddydd gwyl rhai o'r cymdeithasau yn cael edrych arno fel peth i'w ddisgwyl, ac os na byddai yr hen greadures yn cymeryd ei lle, byddem ni, y plant yn enwedig, yn ystyried y busnes yn fflat. Ond er ei holl asbri bu farw yn lled sydyn, a chladdwyd hi yn barchus gan Doli Jones, mam y diweddar Robert R. Jones, gwerthwr llestri.


SAMUEL JONES (Sam Cranci).—Bachgen mawr diniwed oedd Sam, yn droednoeth neu goesnoeth haf a gaeaf. Byddai a'i bwys ar rai o furiau y dref bob amser, —ac wrth basio, a ddarfu i chwi erioed sylwi ar y polish sydd ar rai o gornelau y dref yma, ac yn enwedig ar coping y Bont Fawr, mae yna filoedd o gotiau a throwsusau wedi eu treulio o dro i dro i godi y polish yna arnyn nhw. Er fod Sam yn hogyn mawr, yr oedd ei ddifyrrwch yng nghwmni plant. Ai ar ei dro i bob Band of Hope neu Gyfarfod Plant, a byddai yr hen greadures ei fam yn ceisio dysgu adnod iddo. Cofiaf yn dda weled Sam yng Nghyfarfod Plant Capel Wesla ryw noson canol yr wythnos, a James Williams y Ready Money yn holi yr adnodau; a dyma fo'n gofyn, "Samuel Jones, oes gyda chi adnod?" "Oes," gwaeddai Sam dros y lle, "Drwy chwys dy fara y bwytai dy wymad." Bu agos i Sam fod yn gyfrannog o hunanladdiad ei fam un tro. Yr oedd yr hen Gwen Jones wedi meddwl dychryn y Lawnt am unwaith er mwyn cael tipyn o gydymdeimlad; ac y mae hi yn penderfynu gwneyd cynnyg ar grogedigaeth fel y moddion sicraf i gyrraedd ei hamcan, ac y mae yn esbonio y peth i Samuel. Ac wedi rhoi cortyn am y trawst a dolen arno—ar y cortyn chwi sylwch—y mae yn dweyd wrth Sam, "Pan ro i gic i'r stôl rheda allan a gwaedda 'Mwrdwr' dros bob man." "O'r gore," meddai Sam; a dyma Gwen Jones a'i phen i'r ddolen a chic i'r stôl. Ond pan welodd Sam hi yn troi fel gŵydd ar y spit, gogleisiwyd mwy ar ei beirianau chwerthin fel y bu yn defnyddio y rhai hynny i'r fath raddau nes anghofio ei ran briodol yn y chware, ac yn gwaeddi, "Hei, hei, welwch chi mam yn troi." A gall y rhai sydd yn cofio sut y medrai Sam druan chwerthin, gredu fod y cymdogion yn rhedeg allan, ac fel y bu'r lwc aethant at y ty, a gwelsant Gweno yn troi a bron marw, a rywfodd torasant hi i lawr cyn iddi farw; ond druan o Gweno Jones, wrth iddi roi cic i'r stôl bu agos iddo roi cic i'r bwced hefyd.


ROBERT PUW Y GUIDE.—Dyma i chwi gymeriad gwir wreiddiol. Yr oedd ardymheredd gewynol neu gyhyrol yr hen frawd yma yn ddiarebol. Yr oedd ei dafod, ei draed, ei freichiau a'i gorff yn mynd. Sylwch fy mod yn pwysleisio ar y mynd.' Os bu ynni gewynol mewn carchar o eisiau mwy o scope, yng nghorff Robert Puw y guide yr oedd. Pen y Gader oedd ei gyrchle gyffredin. Cadwai ferlod a mulod o bob maint, llun, a thempar, a gelwid am ei wasanaeth i arwain boneddigion a boneddigesau i bob man o ddyddordeb yn y gymdogaeth, ond "Guide to Cader Idris" oedd yn anad unlle. Dywedais ei fod yn brysur. Yr oedd mor brysur fel yr oedd yn anhawdd i chwi ei ddeall yn siarad. Yr oedd rhyw lisp arno, fel ar y gore nid oedd yn hawdd ei ddeall. Ond ei gymysgfa o Gymraeg a Saesneg, a'r cyflymdra gyda pha un y byddai yn siarad, a'i gwnai bron yn anealladwy, ond i'r rhai cyfarwydd iawn. Yr oedd yn ddaearegwr a llysieuydd, ac yn adnabod rhedyn prinion y wlad yn rhagorol, a byddai eu henwau Lladinaidd, —megis "polyprium dryopteris", "Osmunda regalia," y "polydun vulgaris," &c.,—yn cael eu harfer ganddo fel y gwynt, a mwy na thebyg y byddai termau nad oeddynt Roeg, Lladin, na Hebraeg, yn cael eu defnyddio ganddo, OS na wyddai pa beth oedd yr enw proffeswrol gwirioneddol. Yr oedd yn meddu ar gryn dipyn o ddoniolwch anymwybodol iddo ei hun. Un tro aeth a boneddwr i fyny i'r Gader, ac i bysgota, yn naill ai Llyn y Gader, y Gafr, neu yr Aran, ac er mwyn difyrru ei gwsmer ebrai,—"Two years ago, syr, a gentleman that was staying in the Lion came to the pool to fish, and somehow, syr, he lost his diamond ring whilst fishing. Last year, syr, he came again and fished in the same pool, and caught a nice trout; and when they opened the fish to cook, what do you think they found inside ?"

"The diamond ring, I suppose," meddai y boneddwr.

"No, syr, only the guts!"

Mae yn debyg na cherddodd dwy goes fwy mewn oes gymharol ferr na choesau Robert Puw y Guide.

SHANI'R ODYN.—Hen gymeriad adnabyddus iawn oedd hon yn y fro tua han. ner can mlynedd yn ol. Byddai yn rhywle yn crymowta pob dydd ac yn ennill, neu yn hytrach yn cael ei thamaid, drwy gardota a gwerthu cathod. Yr oedd yn byw yn yr hen benty, sydd wedi myned a'i ben iddo, y gwelir ei olion wrth ochr y ffordd sydd yn arwain o dan y Pentre ar y ffordd yr elych at Nannau o Lanelltyd. Byddai yn cael achles a chardod yn aml yn Nannau gan yr Hen Syr Robert : ac un tro yr oedd wedi gwledda'n drwm yn Nannau ar rywbeth cryfach na thê, ac wrth ddod oddiyno collodd ei ffordd. Mor bwysig oedd cyfeiliornad Shani'r Odyn fel y bu i ryw fardd gyfansoddi penillion ar yr anffawd, a bu ar lafar gwlad am ugeiniau o flynyddoedd. Dyma un o'r penillion,—

"Sheni'r Odyn wrth fynd o Nanna
Gollodd y ffordd wrth ddwad adra;
Trodd i lawr i Lawr Dolsera
Yn lle y llwybyr at y Pentra."


JOHN EVANS Y CRIWR.—"Swallow" ydoedd yr enw yr adnabyddid ef wrtho, a meddiennid ef gan ddawn neillduol pan yn cyhoeddi gyda'r gloch. Dyn glandeg ydoedd, ac yn meddu ar physiognomy oedd ar unwaith yn eich taro fel un yn meddu ar individuality. Y tebygaf un a welais i iddo oedd Humphrey Williams Ffestiniog, yr hen bregethwr Methodist a alwai y diafol bob amser yn Black Prince. Meddai John Evans wyneb glân, dau lygaid glâs, a genau yn bradychu llawer o arabedd, ac felly yr oedd. Gadewch i ni ei glywed yn cyhoeddi rhyw newydd yn y Lawnt ryw fore; ar ol rhoddi tair round ar y gloch, chwedl yntau, dechreuai gyda phesychiad awgrymiadol,—

"Chwi drigolion y Lawnt, a'r rhai ydych yn preswylio yn y Twr Tewdws, clustymwrandewch â'm geiriau: fe berwyd i mi eich hysbysu un ac oll fod ein hen gyfaill Wmffra Harlach wedi talu ymweliad a'n treflan just yrwan, a'i fod ef a'i drol ar y stryt fawr yn gwerthu penwaig fresh, newydd ddwad o'r môr mawr, ac yn eu gwerthu yn ol deg am chwech, neu bump am dair. God save the Queen."

Ond ar ben y garreg fach ar ganol y stryd y byddai ei bregeth fawr, yn enwedig os gwelai rywun yn craffu ac mewn agwedd i wrando, ac yn fwy arbennig os byddai y neb fyddai wedi rhoi yr ordors iddo; ac fel hyn y clodforai y penwaig,— Y maent mor loew a swllt na wariwyd mohono erioed, ac mor ffres fel yr oedd yn anodd i'n cyfaill Wmffra eu cadw nhw yn y casg wrth ddwad dros bont Llanelltyd, gan eu bod yn gweled eu chances i fynd yn i hola i'r môr."

Dywedir ei fod wedi bod yn camu o'r naill bentan i'r llall sydd i'w gweled ar ben y clochdy, a hynny pan nad oedd yn rhyw Good Templar mawr.


OWEN PARRY Y LLIFIWR.—Dyma un o drindod o hen gymeriadau y dref, y rhai oedd bob amser gyda'u gilydd. Y ddau arall oedd Owen Dafydd Bacan ac Edward Robert. Yr oedd Owen Parry yn enwog iawn ar gyfrif tri pheth,—llifio cordiau, dadlwytho y wagen fawr, a ffeirio watches. Do, mi lifiodd Owen Parry filoedd o droedfeddi o gordiau, a thynnodd gannoedd o dunelli ar ei ol gyda'i dryc, a ffeiriodd ugeiniau o watches. 'Dallsa fo ddim diodde gweld watch noblach na'i gilydd heb ofyn Ffeiri di, ngwas i?" Am Owen Dafydd a'r Hen Local, o anwyl barch, gallaswn eich cadw am amser hir yn ail adrodd ei hanes ef ei hun ac Owen Dafydd. Ond gadawn hwy heno.

BARDD ODYN.—Dyma un o'r special creations eto. Crydd oedd John Puw wrth ei alwedigaeth, a meddai gryn feddwl o hono ei hun fel bardd. Yr oedd rhywbeth ynddo; ond yr hyn oedd yn llesteirio ei lwyddiant mwyaf ydoedd ei gyffredinedd; a'r drwg oedd na wyddai hynny. Yr oedd yn y gystadleuaeth ar y "Fodrwy Briodasol" yn Eisteddfod Aberystwyth yn 1865, ac yr oedd yn meddwl cymaint o'i gyfansoddiad fel yr acth ef a Chati Puw, ei wraig, yno i 'nol y wobr,—'doedd dim dowt. Ond pan welodd ferch ieuanc yn myned i fyny i 'nol y wobr, dyma fo yn dweyd yn ddigon uchel i bawb o'i ddeutu ei glywed,—

"Tyd odd'ma, Cati, 'does yma ddim chware teg i gial yn y fan yma,—rhoi gwobr i ryw hogan fel yna!"

Yr "hogan," fel y gwyddoch, oedd Cranogwen. Ces stori dda gan fy chum Ioan Parri am yr hen frawd. Yr oedd Band of Hope y Capel Mawr mewn bri uchel tua'r 60's, a byddai bechgyn pob enwad yn ei fynychu, a byddent yn adrodd penhillion yn gyhoeddus yno, ac fe ddyliwn fod Tom yn eiddigeddus o rywrai oedd yn cael penhillion gan rywun, ac yntau yn amddifad o'r luxury hwnnw; ac yn yr argyfwng yma y mae John Puw yn gofyn i Tom am iddo geisio gan ei dad, Hywel Parri, roi benthyg pren troed o ryw faint neu gilydd, ac y mae Tom yn addo, ar yr amod i John Puw wneyd pennill iddo i fyn'd i'r Band of Hope y Capel Mawr. "G'naf, machgian i," meddai. A dyma y pennill,——

"Pan fydd syched arna i'n dod.
Mi yfaf ddiod Adda;
Caf hwnnw'n rhad, gyfeillion llon,
Yn Ffynnon y Plasucha;
A chwithau, pobol y Capal Mawr,
Mae i chwi fawr lawenydd
Ond i chwi fyned gyda brys
I Ffynnon Morus Dafydd."

BETI DAFIS.—Dyma Local Government Board Dolgellau yn y 40's a'r 50's. Yr oedd yn byw ym Mhen Ucha'r Dre. Yr oedd o deulu parchus, ac yn enwog ar gyfrif ei synwyr crvf. Yr oedd yn chwaer i John Richards, Pencoed, Llanfihangel, yr hwn oedd ffermwr clyd a pharchus. Felly hithau, yr oedd ganddi "geiniog" ac ar gyfrif hynny feallai fod ei hofn ar ddosbarth neillduol o'r trigolion yn fwy na phe buasai yn llai cyffredin. Nid ofnai wreng na bonedd, os oedd hawliau neu les y cyhoedd yn y cwestiwn. Os troseddai ungwr, waeth pwy, yr oedd Beti Dafis yn barod a'i dedfryd. Yr oedd ganddi ei charchar ei hun, ac iddo y dymchwelai y plant drygionus heb na chwêst na rhaith gwlad, ond ei digest of laws hi ei hun. Beti Dafis a fynnodd fur oddeutu y Ffynnon Fair, i'r hon ffynnon y cyrchai llawer i ymdrochi, ac i'r hon ffynnon y priodolid llawer o rinweddau iachaol. Trueni na chawsai ei hysbryd ddod yma am spel eto, a dychryn yr Urban District Council i farwolaeth, i edrych a oes dim chance iddo gael adgyfodiad gwell.


GRUFFYDD TUDUR.—Mae yn debyg na fu yr un cymeriad mwy adnabyddus yn y dref na Gruffydd Tudur. Saer a cherfiwr coed ydoedd, a rhagorol iawn ydoedd yn ei alwedigaeth. Ond hwyrach mai nid ar gyfrif hynny yr oedd yr hen frawd enwocaf o lawer, ond ar gyfrif ei ddireidi, ei wit, a'i natur dda. Dyn a thipyn o drwch ydoedd o ran ei gorff, natur cadw ei "ben yn ei blu," ei gerddediad yn ysgafn ond nid yn gyflym, a'i lygaid yn llochesu mewn sockets yn cael eu gwarchod gan aeliau trymion. Gwisgai het silc—neu yn hytrach wedi bod o'r defnydd hwnnw; a siaradai yn araf a lled ddwfn, gan bwyso ei eiriau a'i frawddegau. Dywedir llawer o straeon digrif am dano o dro i dro, rhai yn wir, a lliaws, o bosibl, heb fod felly. Yr oedd wedi treulio rhan o'i oes yn Lloegr, ond Dolgellau gafodd y rhan fwyaf o'i oes. Pe symiai un nodwedd cymeriad Gruffydd Tudur mewn un gair, diameu mai y gair Saesneg, neu Ffrench, os mynwch, diplomat fyddai hwnnw, sef yw hynny mewn iaith blaen—un yn cael ei ffordd heb fod yn cymeryd arno ei cheisio. Cymerer un esiampl o liaws. Yr oedd hen wr lled barchus a da allan wedi marw, yr hwn oedd yn berthynas i Gruffydd Tudur, ar ol yr hwn y disgwyliai y byddai wedi ei gofio yn ei ewyllys. Ond yr oedd yno berthynasau eraill wedi bod yn gweini ar yr hen wr, a'r rhai hynny oedd yn rhoddi yr ordor am yr arch. Gwnaed yr arch, a chladdwyd y marw, ac aeth y perthynasau i glywed cynwys yr ewyllys ar ol y gladdedigaeth, a Griffith Tudur yn eu plith, a chafwyd fod y trancedig wedi gadael yr oll o'i eiddo i'r perthynasau ag oedd wedi bod yn gweini arno, a dim i Tudur. "Wel, Guto," meddai y cefnder, "yr wyt wedi clywed yr ewyllys, ac mai fi a'n ngwraig ydi y sgutorion; faint sydd am yr arch?" Deg punt, Jack,' atebai Tudur yn surllyd. "Beth! deg punt, a Lewis Evans yn chargio dim ond pedair a chweigian am arch 'y modryb." "Beth ydi Lewis Evans i mi dwad? ond deg punt i mi, neu yr arch yn ol!"

LEWIS RHYS, neu Lwsyn Sara Lewis. Buasai yn well gennyf adael enw hwn, a'i frawd Rhysyn, a'i chwaer Nansi, allan o'r rhestr; ond ni fuasai y rhestr yn gyflawn felly. Gwyr pawb sydd yn Nolgellau, ond odid, mai dyma yr un a roddodd fwyaf o ddychryn i drigolion y dref tua hanner can mlynedd yn ol o neb, oherwydd ei ladradau beiddgar. Yr oedd, fel y crybwyllwyd, yn un o dri o blant Sara Lewis, a phob un o honynt yn lladron o'u mebyd, er nas gwyddai llawer hynny ar y pryd. Am Rhysyn ei frawd, listiodd at y milwyr, ac aeth i'r Iwerddon, cafodd gyfle i ddianc, a gofynnodd am gael ei gludo i Gymru gan ddwylaw llong o Aberystwyth, gan ei fod wedi edifarhau listio. Hynny fu. Glaniodd Rhysyn, a cherddodd o Aberystwyth i Ddolgellau, gan ddeyd mai chwech wythnos o furlough oedd yn ei gael. Wedi ei weled yn aros yma am spel hwy na chwech wythnos, dychrynedd rhywun ef trwy ddweyd fod yr hen Sergeant Reis Huws am ei ddal fel deserter. Perswadiwyd Rhysyn i fynd yn ol at ei regiment, ac ni chlywyd dim o'i helynt am flynyddau. Daeth yn ol i Ddolgellau ymhen rhyw gyfnod, a'r tro hwn wedi cael ei discharge, ac yn fuan priododd â Mari Wyddeles, yr hon oedd erbyn hyn yn weddw John Roberts y Bugler, yr hwn fu byw am flynyddoedd yn hen dŷ Rhys Owen, a lle mae Miss Morris yn byw yn awr, sef yn Lombard St. Gallwn feddwl nad aeth dau mor debyg i'w gilydd i'r ystad briodasol o ran anianawd a Rhysyn Sara Lewis a Mari Wyddeles, oblegid yn fuan ar ol priodi daliwyd Mari yn lladrata, profwyd hi yn euog, a danfonwyd hi i Milbank Penitentiary i Lundain: ychydig wedi hynny cymerwyd Rhysyn i fyny am robio hen wraig ar y ffordd i Gorris, a dedfrydwyd yntau i gael ei dransportio i Van Dieman's Land. Am Lewis ei frawd, mae yma lawer yn ei gofio. Crydd o ryw fath ydoedd, yn gwneuthur slippers, y rhai a elwid yn 'sgidiau list— welais i byth bâr ar ol iddo fo a Nansi farw. Dyn main, tal oedd, tua chwe troedfedd pedair modfedd o daldra, wedi eillio ei wyneb yn lled lwyr. Pryd tywyll ond yn llwyd ei wedd; byddai yn slamin mynd fel pe bai am y cynta a'i gysgod, mymryn o ffedog glas dywyll, a rhywbeth ganddo odditani bob amser pan yn y stryd pâr o slippars yn ddiau. 'Roedd ei drowsus tua chwe modfedd yn rhy fyrr i fod yn regulation size, a dangosai bâr o sanau gleision ymhell uwchlaw'y meilwng. Siaradai yn ferchedaidd, a thôn leddfol yn ei lais; ac wrth ei glywed yn siarad, meddyliech mai efe oedd y diniweitiaf o blant dynion. Clywech rywun yn gofyn iddo, "Wel, Lewis Rhys, sut y mae nhw tua Penucha'rdre acw?" "O fel y nadrodd, fel y nadrodd, y machgian bach i."

Yr oedd Nansi ei chwaer yn ddynes gorffol ddynol i'r golwg, ac yn meddu ar gyfrwysdra llwynogaidd dihafal. Cadwai Lewis a hithau siop yn Lion Street, lle mae Miss Evans yn awr, y drws nesaf i'r Commerce House, lle y gwerthid ac y gweithid y sgidia list yma, ynghyda chacenau gingerbread, ac yr oedd geirda i gacenau Ann Rhys. Gyda rhai o'r rhain, ac oranges, y byddai Lewis Rhys yn myned i gydymdeimlo a'r rhai y torrid eu tai ganddo y noson gynt.

Torrodd Lewis Rhys y Shop Newydd, Shop Gruffydd Dafydd, ty Mrs. Griffiths, Penbryn—y ty nesaf i dŷ Sergeant Williams, a llawer o dai eraill. A'i noson ef at y dieflwaith hwn oedd nos Sulia pan y gwyddai fod pawb yn y capelau a'r eglwys. Dywedir mai y diweddar Dafydd Jones Siop Fach oedd un o'r Sherlock Holmes a ddaethant o hyd i'r clue a fu yn foddion i ddwyn y Turpin Cymreig yma i'r ddalfa. Yr oedd Nansi ei chwaer o'r gyfrinach, ac euogfarnwyd hwy, a dedfrydwyd hwy i bedair blynedd ar ddeg o dransport, ond cawsant respite ymhen saith mlynedd, a daeth y ddau i fyw i'r dref, ac yma y buont farw.


YR ALABINES.—Dyma griw o sipsiwn oedd yn lled liosog yn ac o amgylch y dref ystalwm. Yr oeddynt yn byw gan mwyaf drwy weithio tins, hela, pysgota, a deyd ffortiwn, gostwng cythreuliaid a'u codi, witsio a dadwitshio, ac felly yn y blaen. 'Roedd Neli Alibine, er heb fod yn Sipsiwn, wedi dysgu llawer o'r dark art, a bu yn trio tynnu rhyw raib oddiar fachgen o'r dre yma drwy roddi cerdyn budr ar ei frest a'r enw "Abracadabra " wedi ei ysgrifennu arno; ac ond i hwnnw ei wisgo yn nesaf at ei groen, a'i droi dair gwaith nos a bore, ac iddo ddweyd y gair "Abracadabra" dair gwaith fel ei bader, buasai yn siwr o fendio.

Amser a ballai i son am Wmffra Ifan y Cariwr, a'i drol fach a'i fulod; John a Roger Morris; Robert Morris y Slater, yn bendithio ac yn enwi teithi ei blant fel Jacob gynt; James Price y Saddler: Ritche Pritchard, pan yn ffarwelio a'r "Hen Pont Fawr am pyth"; Roderick Griffith Jones y Stag a'i bictiwrs; Harri Humphreys y teiliwr a chleifion Clwb yr Angel Evan Owen y Photograffer a'i Engine Ehedeg; Wil y Wich a Robert Dafydd mewn storm ar yr afon Mawddach, ac yn sincio y ffynnon; y Wesle bach a'u blaenoriaid; Shon Rhys yn dwad i'r seiat; John y Cloc; Lewis Robert.bach a'i fab dawnus Owen Aran; Robin Shagan; Cops; John Owen Pen y Staer, a'i ramantau "On the Spanish main"; a llu o rai eraill. Dyma nhw i gyd wedi mynd, tô ar ol tô; ond mae'n rhaid dweyd gyda Cheiriog,—

"Aros mae'r mynyddoedd mawr,
Rhuo drostynt mae y gwynt,
Eto clywir gyda'r wawr
Swn bugeiliaid megis cynt;
Eto tyfa'r llygaid dydd
Ogylch traed y graig a'r bryn,
Ond bugeiliaid newydd sydd
Ar yr hen fynyddoedd hyn."


—————————————

LLEW MEIRION.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 

Nodiadau

golygu