Hoff yw'r Iesu o blant bychain
← Nid wy'n gofyn bywyd moethus | Hoff yw'r Iesu o blant bychain gan Daniel Thomas (Pabellwyson) |
→ |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
766[1]Mae'n fy Ngharu
87.87.
1 HOFF yw'r Iesu o blant bychain,
Llawn o gariad ydyw Ef;
Mae yn gŵylio drostynt beunydd,
Ar ei orsedd yn y nef.
Mae'n fy ngharu; 'r wyf yn gwybod
Mai ei eiddo byth wyf fi;
Mae'n fy ngharu, diolch iddo,
Prynodd fi ar Galfari.
2 Os gofynnwch pam 'r wy'n hapus—
Iesu sy'n ein caru ni,
Ac yn galw'n dirion arnom,
"Dowch blant bychain ataf Fi."
3 Gwybod 'r wyf y gwrendy'r Iesu
Weddi plant o orsedd nef:
Deuwch, deuwch oll dan ganu,
Gyda'n gilydd ato Ef.
Cyf Daniel Thomas (Pabellwyson)
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 766, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930