Nid wy'n gofyn bywyd moethus
← Da yw bod wrth draed yr Iesu | Nid wy'n gofyn bywyd moethus gan Daniel James (Gwyrosydd) |
Hoff yw'r Iesu o blant bychain → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
765[1]Calon Lân.
87.87.
NID wy'n gofyn bywyd moethus,
Aur y byd na'i berlau mân;
Gofyn 'r wyf am galon hapus,
Calon onest, calon lân.
Calon lân yn llawn daioni,
Tecach yw na'r lili dlos,
'D oes ond calon lân all ganu-
Canu'r dydd a chanu'r nos.
2 Pe dymunwn olud bydol,
Chwim adenydd iddo sydd :
Golud calon lân rinweddol
Yn dwyn bythol elw fydd.
Calon lân, &c.
3 Hwyr a bore fy nymuniad
Esgyn ar adenydd cân-
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi imi galon lân.
Calon lân, &c.
Daniel James (Gwyrosydd)
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 765, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930