Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Arall o'r eiddo Anacreon
← Cyfieithiad o ail awdl Anacreon | Holl Waith Barddonol Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
Odlig arall i Anacreon → |
ARALL
O'r eiddo ANACREON, 1754.
MAE'n ddiau, myn y ddaear,
Yfed a wlych rych yr âr;
Dilys yr ŷf coed eilwaith
Y dwr a lwnc daear laith;
Awyr a lwnc môr a'i li;
Yf yr haul o fôr heli;
Ar antur, ŷf Lloer yntau;
Yfont, a d'unont eu dau
Y mae'n chwith i mi na chaf
Finau yfed a fynaf
Gwarthus iwch ddigio wrthyf,
Nid oes dim o'r byd nad ŷf.