Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Cyfieithiad o ail awdl Anacreon
← Cywydd i Lewis Morys | Holl Waith Barddonol Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
Arall o'r eiddo Anacreon → |
CYFIEITHIAD
A ail awdl ANACREON, 1754.
NATUR a wnaeth, iawn ytyw,
Ei rhan ar bob aniau byw;
I'r cadfarch dihafarchwych,
Carnau a roescyrn i'r ych;
Mythder[1] i'r ceinych[2] mwythdew;
Daint hirion llymion i'r llew;
Rhoes i bysg nawf ym mysg myr;[3]
I ddrywod dreiddio'r awyr;
I'r gwŷr rhoes bwyll rhagorol;
Ond plaid benywiaid bu'n ol;
Pa radau gant? Pryd a gwedd
Digon i fenyw degwedd,
Rhag cledd llachar, a tharian,
Dôr yw na thyr dur na thân
Nid yw tân a'i wyllt waneg,
Fwy na dim wrth fenyw dêg.]