Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Cywydd ar Wyl Ddewi

Arwyrain y Nenawr Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Cywydd i Ddiawl


CYWYDD AR WYL DDEWI, 1755,

I'w gyflwyno i'n Frenhinol Uchelder FFREDRIG Tywysawg Cymru, gan yr urddasol Gymdeithas o GYMRODORION yn Llundain.

GLYW[1] digamrwysg gwlad Gymru,
A'i chynydd, Llywydd ei llu;
Por odiaeth holl dir Prydain,
Penteulu hen Gymru gain
Llyw unig ein llawenydd,
Mwy cu in' ni bu ni bydd;
Eich anerch rhoddwch ini,
Ior glân, a chyngan â chwi;
Gwaraidd fych, D'wysawg eirioes,
Wrth ein gwâr ufuddgar foes.
Dychwelawdd (dan nawdd Duw Naf)
Dyddwaith in' o'r dedwyddaf

Diwrnod (poed hedd Duw arnynt)
Na fu gas i'n hynaif[2] gynt;
Diwrnod y câd iawnrad yw
Ym maniar Dewi Mynyw,[3]
Pan lew arweiniodd Dewi
Ddewr blaid o'n hynafiaid ni,
I gyrch gnif, ac erch y gwnaeth
Ar ei alon wrolaeth.
Ni rodd, pan enillodd, nod
Ond cenin yn docynod,
Cenin i'w fyddin fuddug
Nodai i'w dwyn, a da'u dug
Hosanna,[4] ddiflina floedd
Didawl ei amnaid ydoedd,
Gan Ddewi, ag e'n ddiarf,
Trech fu cri gweddi nag arf,
A Chymru o'i ddeutu ddaeth,
I gael y fuddugoliaeth;
Hwyntau, gan lwyddo'u hantur,
A glân barch o galon bur,
Er oesoedd a barasant
Addas wyl i Ddewi Sant
Ac urddo'r cenin gwyrddion
Yn goffhâd o'r hoywgad hon,
A bod trwy'n cynnefod ni,
Diolch i DDUW a Dewi.

Dewi fu 'n noddwr diwael,
Chwi ydyw ein hoywlyw hael,
Mae'r hanes im', Ior hynod,
A fu, y geill eto fod
Ar Dduw a chwi, rwydd eich iaith,
Yn gwbl y mae ein gobaith,
Pan gyrch Naf eich dewraf daid
I fynu, Nef i'w enaid,

I newid gwlad lygradwy
Am berffaith a milwaith mwy;
Iwch gael, pand yw hyfael hyn?
Rheoli pob rhyw elyn,
Gorchfygu talm o'r Almaen,
Taraw 'spêr hyd dir Yspaen,
Cynal câd yn anad neb
Tandwng, yn ddigytuneb,
I ostwng rhyfawr ystawd
Llyw Ffrainc, fal nad allo ffrawd;
A difa, trwy nerth Dofydd,
Ei werin ffals, a'r wan ffydd;
Danod eu hanudonedd
Yn hir cyn y rhoddir hedd.

Yn ol dial ar alon,
Rhial hardd yw 'r rheol hon,
Gorsang y cyndyn gwarsyth,
Bydd wlydd wrth y llonydd llyth,
Milwaith am hyn y'ch molir,
A'ch galwad fydd TAD EICH TIR,[5]
Gwr odiaeth a gwaredydd,
Yn rhoi holl Ewropa'n rhydd
Ac am glod pawb a'ch dodant
Yn rhychor i SIOR y Sant.


Nodiadau

golygu
  1. Llywydd
  2. Hynafiaid
  3. Dewi Sant
  4. A word very agreeable to the character of the holy Archbishop, signifying, Save us, O Lord and history tells us, that it was the SYMBOLUM, or watchword, &c.
  5. (Parcere subjectis, et debellare superbos, Vinu. Par Pae)