Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Dyledswydd a Doethineb Dyn

Darn o Awdl i Dywysawg Cymru Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Englynion i Twm Sion Twm

DYLEDSWYDD A DOETHINEB DYN,
Yn ymfoddloni i ewyllys ei Greawdwr; a Translation of,—

Through all the various shifting scene
Of life's mistaken ill or good,
The hand of God conducts unseen,
The beautiful vicissitude, &c., &c.

TRWY droiau'r byd, a'i wên a'i wg,
Bid da, bid drwg, y tybier;
Llaw Duw sy'n troi'r cwmpasgylch glân,
Yn wiwlan, er na weler.

O'i dadawl ofal, ef a rydd
Yr hwn y sydd gymhedrol,
O hawddfyd, adfyd, iechyd, cur,
Ond da'i gymhesur fantol?

Pe rhoem ar geraint, oed, neu nerth,
Neu gyfoeth prydferth, oglud;
Os Duw a'i myn, Fe'n teifl i lawr,
A'n rhodres mawr mewn munud.

Os yfaist gwpan lawn o'i lid,
A'th doi â gwrid a gw'radwydd;
Od wyt gyff cler a bustl i'r byd,
Fe'th gyfyd i foddlonrwydd.


Fe weryd wirion yn y frawd,
Rhag enllib tafawd atcas
Fe rydd orphwysfa i alltud blin,
Mewn annghynEfin ddinas.

Ei gysur Ef sydd yn bywhau
Y penau gogwyddedig;
Fe sych â'i law y llif sy'n gwau
Hyd ruddiau'r weddw unig.

Oes dim nac yn, na than, y nEf
Nad E sydd yn ei beri?
Ac Ef a roes (gwnaed dyn ei ran)
Y cyfan er daioni.

Pa raid ychwaneg? gwnelwyf hyn;
Gosteged gŵyn a balchder
Arnat ti, Dduw, fy Ngheidwad glwys,
Bid fy holl bwys a'm hyder,


Nodiadau

golygu