Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Englynion i Twm Sion Twm
← Dyledswydd a Doethineb Dyn | Holl Waith Barddonol Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
An Ode, written to Mr Richard Rathbone → |
ENGLYNION I TWM SION TWM,[1]
A'r arddwrn mawr.
Englynion proest cyfnewidiog wyth ban.
Twм Sion Twm y cidwm cas,
Twm Sion Twm, blerwm heb les;
Twm Twm, os codwm os cis,
Twm achrwm a glwm ei glôs,
Twm Sion Twm, ruddlwm, ni rus,
Twm Sion Twm drwm droi'r draws,
Twm Siom Twm grwm yn ei grys,
Twm Twm! y cawr hendrwm hys,
Twm Sion Twm bendrwm mewn bad,
Twm â rhwyf ond twym y rhêd,
Twm i'r lan hwnt a mawr lid,
Twm a nawf atom i'w nôd,
Twm yw'n tŵr bob tam o'n tud,
Twm o ainc yrr Ffrainc i'r ffrwd,
Twm Twm a botwm i'r byd,
Twm freichdrwm, i Dwm dyd! dyd!
Twm Sion Twm bonwm a'i bar,
Twm Sion Twm gidwm a'i gêr,
Twm lân yw tarian y tir,
Twm o thrŷ câd fad i for
Twm yn un cwrwm a'i cur,
Twm ddistaw o daw o'r dw'r,
Twm fwyn yn addfwyn i'r Nŷr,
Twm flraeth i'ch gwasanaeth, Syr.
Nodiadau
golygu- ↑ Twm Sion Twm, was a noted Bruiser, near Dulas, Anglesey.