Hosanna, Haleliwia (DW)
← Fyth, fyth, rhyfedda'i'r cariad | Hosanna, Haleliwia (DW) gan Dafydd Wiliam, Llandeilo Fach |
O! am gael ffydd i edrych → |
168[1] Brawd erbyn Dydd o Gledi
76. 76. D.
1 HOSANNA, Haleliwia,
Fe anwyd Brawd i ni;
Fe dalodd ein holl ddyled
Ar fynydd Calfari;
Hosanna, Haleliwia,
Brawd ffyddlon diwahân;
Brawd erbyn dydd o gledi,
Brawd yw mewn dŵr a thân.
2 Brawd annwyl sy'n ein cofio
Mewn oriau cyfyng caeth;
Brawd llawn o gydymdeimlad-
Ni chlywyd am ei fath;
Brawd cadarn yn y frwydyr,
Fe geidw'i frodyr gwan;
Yn dirion dan ei adain
Fe ddaw â'r llesg i'r lan.
Rhyddid a Maddeuant trwy Grist.
- Dafydd Wiliam, Llandeilo Fach
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 168, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930