Categori:Dafydd Wiliam, Llandeilo Fach

Roedd Dafydd William, (weithiau David Williams) Llandeilo Fach (tua 1720-1794) yn emynydd ac yn gynghorydd cynnar gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Gan ei fod wedi "ieuo'n anghymharus" (priodi â merch nad oedd o'r un daliadau crefyddol ag ef) cafodd ei ddiarddel o'r Methodistiaid a daeth yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr. Cyhoeddodd nifer o gasgliadau o emynau gan gynnwys

  • Golwg y Fyddloniaid ar Degwch
  • Gogoniant Jesu Crist
  • Gorfoledd ym Mhebyll Seion (cyfieithwyd i Joy in the Tents of Zion)
  • Diferion o Ffynnon Iechydwriaeth
  • Hymnau Priod-ferch y Brenin Alpha
  • Gwin i'r Diffygiol
  • Myfyrdod y Pererin

Erthyglau yn y categori "Dafydd Wiliam, Llandeilo Fach"

Dangosir isod y 6 thudalen sydd yn y categori hwn.