O! anfeidrol rym y cariad
← Mae 'nghyfeillion wedi myned | O! anfeidrol rym y cariad gan Dafydd Wiliam, Llandeilo Fach |
→ |
690[1] Gorfoledd y Credadun yn Angau.
87. 87. D.
1 O! ANFEIDROL rym y cariad,
Anorchfygol ydyw'r gras;
Digyfnewid yw'r addewid,
A bery byth o hyn i maes;
Hon yw f'angor ar y cefnfor,
Na chyfnewid meddwl Duw;
Fe addawodd na chawn farw,
Yng nghlwyfau'r Oen y cawn i fyw.
2 Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau,
Nid oes neb a ddeil fy mhen
Ond fy annwyl Briod Iesu,
A fu farw ar y pren:
Cyfaill yw yn afon angau,
Ddeil fy mhen i uwch y don:
Golwg arno wna i mi ganu
Yn yr afon ddofon hon.
Dafydd Wiliam, Llandeilo Fach
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 690, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930