Mae 'nghyfeillion wedi myned
← | Mae 'nghyfeillion wedi myned gan William Williams, Pantycelyn |
O! anfeidrol rym y cariad → |
689[1] Cynnal wrth farw.
87. 87. D.
1 MAE 'nghyfeillion wedi myned
Draw yn lluoedd yn y blaen,
Rhai fu'n mynd trwy ddyffryn Bacca
Gyda mi tua Salem lân;
Yn y dyffryn tywyll garw,
Ffydd i'r lan a'u daliodd hwy;
Mae'r addewid lawn i minnau:
Pam yr ofna f'enaid mwy?
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 689, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930