Humphrey Jones a Diwygiad 1859/Ar y Mynyddoedd

Ymweled â Chymru Humphrey Jones a Diwygiad 1859

gan Evan Isaac

Ym Mhontrhydygroes

VI.
AR Y MYNYDDOEDD.

Tybiaf na warafun neb y sylw helaeth a roddwyd i Dre'rddol. Y mae'n haeddu mwy o sylw nag unrhyw le arall oherwydd bod yn gychwynfan y Diwygiad a effeithiodd ar Gymru i gyd. Aeth Humphrey Jones i Ystumtuen ddechrau Awst, 1858. Un o'r pentrefi lleiaf a welir yw Ystumtuen, yn cynnwys capel Wesleaidd, ac Ysgol bob dydd, a thŷ gweinidog a phedwar neu bum tŷ annedd. Y mae'r pentref ar uchaf mynydd noethlwm a thynnu caled iddo o bob cyfeiriad. Gwelir mân dyddynod yma a thraw â chryn bellter rhyngddynt. Defaid a fegir yno fwyaf, a'r rheini'n ddefaid Cymreig; y mae'n rhy noeth ac oer i fagu llawer o ddim arall yn y gymdogaeth. O fyned tros Droed-yr-henriw gall y cryf hir ei gam gyrraedd Ponterwyd mewn hanner awr fawr, a dwg pum munud o gerdded i gyfeiriad y De un i olwg Cwm Rheidiol â'r afon yn ei fynwes yn llifo'n hamddenol wedi naid arswydus tan Bont-y-Gŵr-drwg ym mlaen y Cwm. Yn uchel ar lechwedd draw y Cwm gwelir y dren fach â llwyth o ymwelwyr â'r Raeadr yn ymlusgo'n araf ar gledrffordd Mynach. Llwyd a dof yw'r pentref, eithr yn ei ymyl y mae un o'r golygfeydd mwyaf rhamantus ac ysblenydd ym Mhrydain Fawr. Yn 1859, ac am flynyddoedd wedyn, gweithiai llawer o ddynion yng ngwaith mwyn plwm Ystumtuen, a llenwid y capel mawr hyd ei ddrws, ond ers blynyddoedd bellach y mae'r gwaith yn segur a'r capel yn hanner gwag.

Ar brynhawn Sadwrn ym mis Awst, 1858,-yr ail ddydd Sadwrn o'r mis, mi a dybiaf,-marchogai Humphrey Jones ferlen Bwadrain, yn ei wisg Americanaidd, i gyfeiriad Ystumtuen. Adeg brysur cynhaeaf ydoedd, a gwair cwta'r mynyddoedd yn galw am ei ladd, ond gymaint ydoedd clod y Diwygiwr a'r disgwyl am dano fel y llanwyd y capel ymhell cyn adeg dechrau'r oedfa. Aeth i'r pulpud "a rhyw olwg nefolaidd arno," a phregethodd i geisio deffroi ysbryd yr eglwys. Drannoeth, pregethu i'r eglwys eilwaith, a chaed cyfarfod gweddi yn y prynhawn. Rheol y Diwygiwr ydoedd deffroi'r eglwys yn gyntaf peth. Ei gyngor i bregethwr ieuanc y tybiai ef y deuai'n fuan yn ddiwygiwr fel yntau ydoedd, "Os ydych am fod yn llwyddiannus, pregethwch bregethau llym i'r eglwys yn gyntaf. Ymdrechwch at ddeffroi Seion. Pa faint bynnag a bregethwch chwi i'r byd, ni fydd o fawr les heb gael Seion o'i chwsg yn gyntaf."[1] Nos Lun pregethodd yn rymus bregeth a apeliai bron yn gwbl at y gwrandawyr na phroffesai grefydd, a chaed dylanwad a ymddangosai i lawer yn anorchfygol. Ar ol ugain munud o bregeth gorchymynodd i John Jones a John Williams weddio, ac yna canwyd,-

O Arglwydd dyro awel,
A honno'n awel gref;

Ar derfyn y canu parodd wacau y Sedd Fawr a gofyn i bawb a deimlai awydd ffoi rhag y llid a fydd' ddyfod ymlaen i'r sedd honno; eithr yr oedd ffrwyth yr oedfa yn fwy na ffydd y cennad, oblegid yn ddiymdroi aeth ymlaen fwy na llond y Sedd Fawr. Caed hanner cant tan wylo a gweddio yn dymuno derbyn yr Arglwydd Iesu ac ymuno â'r â'r eglwys.[2] Pregethodd yn Ystumtuen bob Saboth a phob nos waith am fis cyfan, ac yn ystod y dydd ymwelai â phersonau na fynychai'r cyrddau Gwnaeth waith mor effeithiol trwy'r ymweliadau hyn oni lwyddodd i gael pawb i'w wrando, a chyn iddo ymadael â'r lle dychwelwyd at grefydd yr holl wrandawyr ac eithrio pump. Yn ôl tystiolaeth Humphrey Jones ei hun ni chafwyd nerthoedd llawer mwy hyd yn oed yn America ac wedi hynny yn Nhre'rddol nag a gaed yn Ystumtuen. " Y mae bys Duw i'w weled yn amlwg ya yr oedfa hon. Achubwyd y dynion caletaf a mwyaf anobeithiol eu cyflwr yn yr ardal. . . Cafwyd rhai cyfarfodydd nas anghofir gan neb oedd yn bresennol. Ni welsom ni mo'r dylanwadau yn llawer cryfach yn America y gaeaf diwethaf, ynghanol y gwres mwyaf."[3] Ysgrifennai Mr. Jones ymhen tair wythnos wedi dechrau'r genhadaeth yn Ystumtuen, ac yr oedd rhif y dychweledigion yn 76 ar y pryd.

Newidiwyd gwedd foesol yr holl gymdogaeth. Diflannodd oerni a diffrwythder eglwysi Ystumtuen a Goginan a Phonterwyd, a chollwyd o blith y mwynwyr bob syniadau materol ac arferion anfoesol. Gweddiai pawb, a llenwid y mynyddoedd â mawl. Ymunai'r gweithwyr ar eu ffordd i'r gwaith ac yn ôl i weddio'n gyhoeddus ym môn y cloddiau ac ar lwybrau defaid; sefydlwyd hefyd gyrddau gweddi tan y ddaear, a chefnogai Capten Paul, goruchwyliwr y gwaith, y cyf- arfodydd ag aidd; pwrcasodd Feibl a llyfr emynau a chist i'w cadw, a phenododd bersonau cymwys yn llywyddion.[4]

Hyd yr adeg hon, ac am beth amser wedyn, ystyrid y Diwygiad yn rhyw fath o gynhyrfiad neu symudiad Wesleaidd, ac â chilwg rhai di-ffydd yr edrychai amryw weinidogion a swyddogion blaenllaw yr enwadau arno. Diystyrent y Diwygiwr oherwydd ei ieuenctid a'i ddull anarferol o weithio, ac amheuent werth y Diwygiad oherwydd ei ddyfod trwy enwad cymharol fach a dinod yng Nghymru. Eithr y Diwygiad a orfu, a daeth pawb o'r diystyrwyr yn Ystumtuen cyn diwedd y mis i gydnabod ei fod o Dduw ac nid o ddynion.[5]

Bu Humphrey Jones yn Ystumtuen am fis. Felly, gan iddo ddechrau yr ail Sadwrn yn Awst, y tebyg ydyw iddo ymadael yr ail ddydd Sadwrn ym Medi. Er nad oedd mwy na dau fis er dechrau'r Diwygiad, ac i'r Diwygiwr ei gyfyngu ei hun i Dre'rddol ac Ystumtuen, yr oedd y tân eisoes wedi llosgi trwy Fachynlleth ar ei union i Lanbrynmair, ac ar y chwith i Ddinas Mawddwy a Dolgellau. Gwnaeth y Parch. Isaac Jones waith gwerthfawr ynglŷn â'r Diwygiad ar Gylchdaith Dolgellau, fel y dysg Glanystwyth yn ei gofiant iddo;[6] ond yn nechrau Medi yr aeth Isaac Jones i Ddolgellau, ac yr oedd y tân wedi cyrraedd yno, ac i lawer man arall o'i flaen. Y ffaith ydyw, mai'r peth pwysicaf ynglŷn â phob diwygiad crefyddol mawr ydyw ei gychwyn; ar ôl ei gychwyn ymlêd ac ymestyn lawer yn ei nerth ei hun. Ceir enghraifft drawiadol o'r nodwedd hon yn yr hanes a ddyry'r Parch. John Thomas, D.D., o Gymanfa Dair Sirol yr Annibynwyr a gynhaliwyd yng Nghendl yn haf 1859.

"Yr oedd Mr. Rees yn bryderus iawn ynghylch y Gymanfa, ac ofnai iddi fyned heibio heb i effeithiau grymus ei dilyn. Yr oedd ynghyd nifer o frodyr o Aberdâr a mannau eraill lle yr oedd y diwygiad yn ei lawn rym; ac yr oedd yn awyddus am i'r gynhadledd gael ei chyflwyno mor llwyr ag yr oedd yn bosibl i wrando adroddiad y brodyr hynny am waith Duw yn eu plith. Ofnai yn fawr rhag i bethau amgylchiadol fyned â gormod o amser, ac erfyniai'n daer na byddai hynny. Cafwyd awr o'r ymddiddan mwyaf cynnes a gwresog a glywsom mewn cynhadledd erioed. Yr oedd gan y brodyr, Meistri Williams, Hirwaun, ac Edwards, Aberdar, a Davies, Aberaman, a Griffiths, Llanharan, ac Ellis, Mynyddislwyn, bethau rhyfedd i'w mynegi. Yr oedd yr olaf newydd ddychwelyd o'i ymweliad â sir Abertefi, lle yr oedd y diwygiad ar y pryd yn ei lawn rwysg. Cododd y gynhadledd ddisgwyliadau uchel yn y rhan fwyaf, fel y credent nad ai'r Gymanfa heibio heb adael effeithiau grymus ar ei hôl. Nid oedd dim yn neillduol yn yr odfaon y prynhawn na'r hwyr cyntaf, na'r oedfa saith bore trannoeth, er bod pob peth yn bur ddymunol. . . Ond yr oedd yn hawdd deall bod yr awyr yn llawn gwefr, a'r ffurfafen yn ddu gan gymylau. Buasai yn hawdd i ni ddarlunio yr oedfa ddeg y bore hwnnw yn helaeth a manwl, ond ni byddai hyny yn weddus. Dechreuwyd yr oedfa gan yr Hybarch. Isaac Harris, o'r Morfa, ac os aeth gweddi erioed i'r nefoedd aeth gweddi yr hen frawd o'r Morfa y bore hwnnw. Siaradai â Duw fel gŵr â'i gyfaill. Clywsom ef fwy nag unwaith, ond ni chlywsom ef erioed mor nodedig a'r bore hwnnw; ac er na thorrodd y cwmwl yr oedd y taranau i'w clywed o bell; yr oedd y bregeth gyntaf beth bynnag arall a ddywedir am dani, yn amserol iawn, "Ti a gyfodi ac a drugarhei wrth Seion; canys yr amser i drugarhau wrthi, ie, yr amser nodedig a ddaeth; oblegid y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi." Yr oedd trwst llawer o law yn ymyl i'w glywed cyn y diwedd. Wedi i Mr. Stephens a Mr. Griffiths bregethu, cododd Mr. Hughes, Dowlais, i fyny i roddi anerchiad byr. Ni ddywedodd ond ychydig eiriau, ond yr oedd min ar y rhai hynny, ac yntau yn dweud mewn teimlad cyffrous; torrodd y cwmwl fel glaw taranau. Yr oedd yno ugeiniau yn gweiddi ar unwaith; daliodd Mr. Hughes i weiddi nes methu. Galwyd Mr. Jenkins, Bryn mawr, i derfynu trwy weddi, ond ni wnaeth hyny ond taflu olew ar y tân. Buont yno ar y maes am awr yn moliannu a gorfoleddu. Yr oedd Mr. Rees, er ei holl arafwch, wedi llwyr anghofio cyhoeddi yr oedfa ddilynol, a phob trefniadau gyda golwg ar y ciniaw i'r dieithriaid. Oedfa i'w chofio oedd honno gan bawb oedd yno."[7]

Nid yw hanes y Diwygiad yng Nghendl namyn engraifft o ugeiniau o ddigwyddiadau cyffelyb mewn mannau nad ymwelodd arweinwyr y Diwygiad â hwy o gwbl. Felly, o gysylltu Diwygiad '59 â dyn, a galw'r dyn hwnnw yn Ddiwygiwr, ei gysylltu a ddylid â Humphrey Jones fel cyfrwng ei gychwyn, ac nid ag Isaac Jones na Dafydd Morgan, Ysbyty.

Y tebyg ydyw mai erbyn yr ail Sul ym Medi yr aeth Humphrey Jones i Fynydd Bach, gerllaw Pont-ar-Fynach. Eithr aethai'r Diwygiad yno o'i flaen, wedi'i gludo gan bersonau a fuasai yng nghyrddau Ystumtuen. Bu'r Diwygiwr ym Mynydd Bach hyd ddiwedd y mis, a theimlwyd yr un dylanwadau nerthol ag a brof- wyd yn Nhre'rddol ac Ystumtuen. Yr oedd y tân a gludwyd ar draws Cwm Rheidiol wedi llosgi allan bob rhagfarn enwadol yng nghymdogaeth Pont-ar-Fynach, ac ymunodd Methodistiaid Trisant a Wesleaid Mynydd Bach yn ddiymdroi a chalonnog. Parhaodd y Diwygiwr y cynllun o weithio a ddewisasai ar gychwyn ei genhadaeth. Pregethai'n llym a chynhyrfus am bymtheg neu ugain munud, ac yna galw ar ddau neu dri i weddio, a pheri i bob un, trwy orchymyn pendant, weddio'n fyr a syml fel y gwnai ef ei hun. Deffrowyd yr eglwysi yn llwyr a chymhwyswyd hwy i goledd rhai newydd eu geni, a chyn diwedd y genhadaeth dychwelwyd at grefydd bob gwrandawr dibroffes a berthynai i'r ddau gapel.

Nodiadau golygu

  1. "Yr Herald Cymraeg," Medi 11, 1858.
  2. "Y Fwyell, Medi 1894, tud. 138.
  3. "Yr Herald Cymraeg," Medi 11, 1858.
  4. "Y Fwyell," Medi, 1894. tud. 186.
  5. "Y Fwyell," Medi, 1894. tud. 185.
  6. "Bywyd y Parch. Isaac Jones," tud. 93.
  7. "Cofiant y Parch. Thomas Rees, D.D., Abertawe," gan y Parch. J. Thomas. tud. 203, 204.