Humphrey Jones a Diwygiad 1859/Ymweled â Chymru

Y Diwygiwr yn America Humphrey Jones a Diwygiad 1859

gan Evan Isaac

Ar y Mynyddoedd

V.
YMWELED Â CHYMRU.

Yn aml, os nad fynychaf, daw terfyn i gyfnodau hir o ddifrawder crefyddol a materolaeth galed ym mywyd cyhoeddus Cymru trwy ddiwygiadau crefyddol nerthol. Yr awr dywyllaf yw'r agosaf i'r dydd. Gwelir hyn o fyned heibio'r diwygiadau lleol, megis eiddo Llangeithio a Beddgelert ac eraill, a meddwl am y rhai a effeithiodd ar fywyd cyfan y genedl. Dilyn cyfnod maith o syrthni crefyddol a bywyd moesol cyhoeddus ysgafala a marw a wnaeth y Diwygiad Methodistaidd yn y ddeunawfed ganrif. Er bod amryw weinidogion teilwng o ran eu bywyd a'u hymdrech yn yr hen eglwysi ymneilltuol, megis Edmwnd Jones, Pontypwl, Vasavor Griffiths, ym Maesyfed, a Philip Pugh, ac yn yr Eglwys Esgobol, ambell un fel Griffith Jones, Llanddowror, ac er nad ydyw pennill Pantycelyn yn llythrennol gywir,—

Pan oedd Cymru gynt yn gorwedd
Mewn rhyw dywyll, farwol hun,
Heb na Phresbyter na Ffeiriad,
Nac un Esgob ar ddi-hun;
Yn y cyfnos tywyll, pygddu,
Fe ddaeth dyn fel mewn twym iâs,
Yn llawn gwreichion goleu tanllyd,
O Drefecca fach i mâs,

eto, dysg yr Hybarch Joshua Thomas yn "Hanes y Bedyddwyr," mai anwybodaeth ac anfoesoldeb mawr oedd ymhlith y cyffredin bobl, pan ddaeth Howel Harris, "O Drefecca fach i mâs." Dilyn cyfnod ffurfiol ac oer a wnaeth Diwygiad 1905 yntau. Ni pherthynai i'r eglwysi yng nghyntefin 1905 anwybodaeth yr eglwysi y codwyd Howel Harris i'w goleuo, o'r hyn lleiaf, nid oedd y tywyllwch cyn ddued, ond yr oeddynt hwythau yn oer a diynni a diffrwyth. Crefyddwyr cymen oedd trwy'r wlad, yn gwario'u hamser ar ddyfalu moddion i' gynnal yr Achos.' Treulient hynny o frwdfrydedd a feddent ar fasârs a chymanfaoedd. Yn hytrach na bod yn ysbryd a bywyd dirywiasai crefydd yn organyddiaeth lem a chymhleth. Ni lefai neb "dyro i mi drachefn o orfoledd dy iachawdwriaeth," a digwydd anarferol oedd achub enaid. Nid oedd achos cwyno mawr ym mywyd cyhoeddus y wlad. Yr oedd y werin. yn llawer mwy diwair a sobr a geirwir a gonest nag y bu erioed. Eithr er bod yr wyneb yn lled lân a theg, yr oedd ysbryd cymdeithas yn fydol ac yn llawn gwanc am bleser arwynebol. Galwyd Evan Roberts i ysgwyd y wlad o'i syrthni moesol mall, a gosod ei bryd ar fuddiannau arhosol bywyd.

Cyffelyb ydoedd nodweddion crefyddol a moesol Cymru yn 1859. Yr oedd yr eglwysi mor oer a llesg, ac wedi parhau felly cyhyd, oni thybiai'r Parch. Abel Green, Aberaeron, nad oedd namyn gwyrth annisgwyliadwy a fedrai roddi ynddynt fywyd a gwres. Pan hysbysodd Humphrey Jones ef yn Lerpwl, ei ddyfod i roddi Cymru ar dân, chwerthin ynddo'i hun a wnaeth Mr. Green a theimlo awydd gofyn, "Wele pe gwnai yr Arglwydd ffenestri yn y nefoedd a fyddai y pethau hyn?"[1]

"Efallai," ebe'r diweddar Barch. J. Morgan Jones, Caerdydd, "na bu cyfnod is ar grefydd yn Sir Aberteifi oddiar gychwyn Methodistiaeth, na'r blynyddoedd 1856-1858."[2] Cyflwr crefyddol isel Ceredigion. ydoedd cyflwr holl Siroedd Cymru ar y pryd, a dyma'r cyflwr y galwyd Humphrey Jones o America i'w wynebu.

Tua therfyn ei ddwy flynedd o waith fel diwygiwr yn America aeth i feddwl Humphrey Jones y dylai ymweled â Chymru a gweithio yno hefyd. Gellir meddwl am amryw bethau a allai ei gymell i hyn. Yr oedd wedi gweithio'n hir ac effeithiol yn y mwyafrif o'r Sefydliadau Cymreig yn yr Unol Daleithiau, os nad ym mhob un, a dichon y teimlai nad oedd berygl mawr i'r tân a gyneuasai ddiffodd hyd oni wnai ei waith yn llwyr gan fod y Diwygiad ar ei nerth mwyaf trwy America. Dywedir nad oedd yr iaith Saesneg yn fagl i'r Diwygiwr, ond Cymraeg oedd ei iaith ef, a phregethwr Cymreig ydoedd, a hwyrach y teimlai fod yn y Taleithiau Saeson ac eraill, fel Lanphler, a wnai gyfryngau effeithiol i Dduw weithio'r Diwygiad trwyddynt mewn poblogaeth mor fawr a chymysg. Tybiaeth yw'r eglurhad hwn, ond y mae'n ddigon syml a naturiol i fod yn gywir. Eithr y mae sicrwydd am ei brif gymhellydd. Gwyddai am lesgedd a diffrwythder crefydd yng Nghymru, a theimlodd awydd angherddol gref am fudd ysbrydol eglwysi'r hen wlad ac iechydwriaeth yr annychweledig. Argyhoeddwyd ef yn America y dylai fod yn ddiwygiwr ymhlith y Cymry yn annibynnol ar bob enwad, eithr ei fwriad ynglŷn â Chymru ydoedd cyfyngu ei wasanaeth i'r Wesleaid yn fwyaf arbennig, oherwydd tybio y byddai iddo rwystrau yng Nghymru rhagor yn America oblegid culni enwadol. Y mae'n amlwg yr ofnai'r hen gulni sydd wedi ein nodweddu ar hyd y cenedlaethau, ond dyheai ef am lwyddiant ysbrydol a chyffredinol y genedl, a dywedai, "Buasai'n orfoledd anhraethol gennyf pe buasai yr Arglwydd yn codi diwygwyr ymhlith pob enwad. Yr wyf yn credu y gwnaiff Ef, a bod cyfnod dedwydd wrth y drws pan fydd Seion yn ben moliant ar y ddaear. Yr wyf yn credu bod diwygiad mawr i ym- weled â Chymru yn fuan."[3] Cyfiawnhawyd ei ffydd trwy sylweddoli ei broffwydoliaeth. Eithr ei gyfyngu ei hun i fesur i'r enwad Wesleaidd a wnaeth ef fel y gwelir ymhellach ymlaen yn ei hanes.

Cyrhaeddodd y Diwygiwr Lerpwl yn niwedd Mehefin, 1858. Arhosodd yn y ddinas tros y Sul yn nhy'r Parch. William Jones, gweinidog y Wesleaid. Pregethodd fore Sul yn lle'r gweinidog yn hen gapel Ben's Garden, ond gwrthododd bregethu yn yr hwyr oherwydd na theimlai'n gwbl iach. Dywedai wrth y Parch. William Jones y bwriadai gynnal cyrddau adfywiadol yn Aberystwyth a'r cyffiniau.[4]

Cyrraedd Tre'rddol.-Teithiodd Humphrey Jones o Lerpwl i Dre'rddol, yng ngogledd Ceredigion, yn y Coach Mawr, a disgyn wrth ddrws yr Half Way Inn, y tŷ y'i maged ynddo am rai blynyddoedd wedi myned o'i rieni. i America. Gwesty cadarn a diymffrost a bair feddwl am gewri'r hen oesoedd yw'r Half Way Inn. Ni bu ynddo na masnach na miri gwerth sôn am danynt, ac eithrio "Dydd Sadwrn Pen y Mis," ers mwy na dwy genhedlaeth. Y tebyg yw mai'r rheswm am westy mor fawr, a'i ystablau helaeth, mewn pentref mor fach ydyw, ei fod yn un o orsafoedd y Coach Mawr. Yno y newidid ceffylau ac y cai'r teithwyr luniaeth. Y fath fraint i ni fuasai gweled y pedwar ceffyl ffres a hoenus, clywed canu'r corn a chrac y chwip, a dilyn y cerbyd yn ymddolennu am y tro yn y ffordd hwnt i dŷ Mari Pritchard, a'i golli yn y pellter draw tros y Graig Fach! Da, mi wn, oedd gan y Diwygiwr weled yr Half Way eilwaith; ac anodd meddwl nad oedd ei fodryb Sophia, Dolcletwr, yno i'w groesawu. I Ddolcletwr yr aeth Humphrey, ac yno y bu hyd derfyn ei genhadaeth yn y gymdogaeth. Cyrhaeddodd y Diwygiwr Dre'rddol Mehefin 25, 1858, a thrannoeth i'w ddyfod cleddid William James, Llannerch,[5]. hen ŵr pedwar ugain a dwy. Pentref bychan yw Llannerch ar fin y ffordd rhwng Tre'rddol a Chraig y Penrhyn; ac yno yn angladd yr hen ŵr, y gwnaeth Humphrey Jones ei waith cyhoeddus cyntaf trwy offrymu gweddi. Dywaid Mrs. John Morris Davies, Tre'rddol, a'i cofia'n dda, iddo esgyn i ben y mur a oedd o flaen y tŷ a gweddio. Gwyddai pawb a oedd yn yr angladd am y gweddiwr; clywsent ef yn gweddio a phregethu cyn ei fyned i America; eithr ni chlywsent ddim fel hyn; ni chlywsent weddio erioed fel y gweddio hwn. Yr oedd tyfiant Humphrey Jones mewn pedair blynedd yn anfesuradwy. Teimlent y cyffyrddai â'r nefoedd a pheri ei hagor oni ddisgynnai bendithion yn gawodydd ar y ddôl lonydd. Dechreuodd Diwygiad 59 mewn angladd.

Y Sul yn dilyn yr angladd yn Llannerch pregethodd y Diwygiwr deirgwaith yng nghapel Tre'rddol; am ddeg yn y bore ar, "Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Seion," Amos vi. 1 ; ac am ddau ar, " Hwy a aethant yn ôl, ac nid ymlaen," Jer. vii. 24; a'r hwyr ar, "Am nad ydych nac oer na brwd," Dat. iii. 15.[6] Eithr dywaid Cofiant y Parch. Dafydd Morgan bregethu ohono brynhawn y Sul yn Eglwysfach ar yr olaf o'r tri thestun a nodwyd. Dichon nad oes fodd gwybod o'r pellter hwn pwy sydd gywir. Byddai'n ddigon naturiol iddo fyned i Eglwysfach, dair milltir i'r gogledd o Dre'rddol, a naturiol hefyd fyddai i rywrai oddi yno a oedd yn yr angladd yn Llannerch, ac a deimlodd eneiniad y weddi, geisio ganddo eu gwasanaethu y Sul dilynol. Ond nid yw'r peth o bwys mawr. Am yr wythnos a ddilynai'r Sul cyntaf hwn cynhaliwyd cyrddau gweddi, ac ar ddiwedd pob cyfarfod cymhellid pechaduriaid i ymddiried yn y Gwaredwr. Ymhen ychydig nosweithiau ildiodd amryw i'r cymhellion, ac adfywiwyd yr holl eglwys.[7] O hyn allan, am fis cyfan, pregethodd Mr. Jones deir- gwaith ar y Sul a phob nos o'r wythnos. Pregethai'n fyr a diwastraff a dirodres, heb amcanu o gwbl at yr hwyl Gymreig boblogaidd, eithr llosgai ei eiriau yn oleuni yn neall ac yn dân yng nghydwybod y gynulleidfa, a chynhyrchid ofn dwys a dieithr. Ar ôl pregethu disgynnai i'r allor a gweddio, a pheri i eraill weddio, ac yna clywid ocheneidiau'n dianc a sŵn wylo uchel. Nid oedd ym misoedd cyntaf Diwygiad '59 ddim o'r gwylltio a'r gorfoleddu nwydus a geid yn fynych yn Niwygiad 1904-5. Nodwedd amlycaf Diwygiad 1859, yn Nhre'rddol, ac mewn lleoedd eraill, yn y misoedd cyntaf, ydoedd wylo a dwyster llethol. Cynhyrchid ofn hyd fraw, oblegid cenadwri gyffrous oedd gan y Diwygiwr,-cyhoeddi gwae i'r sawl a oedd esmwyth arnynt yn Seion, cymell yr annuwiol i ffoi rhag y llid a fydd, a son am farn galed ar y gwrthnysig; cynhyrchid braw mewn miloedd, eithr nid torri allan mewn llefain cryf a wnai, ond peri iddynt blygu mewn dagrau dwys.

Yr oedd y diweddar Thomas Jones, y Post, Taliesin, yn ddyn meddylgar a phwyllus, ac yn arfer pwyso'i eiriau, ac yn un o'r cymeriadau mwyaf a adnabum i; ef hefyd oedd prif ddyn yr eglwys ar y pryd, a bu'n dyst o holl ddigwyddiadau pum wythnos gyntaf y Diwygiad, ac ni phetrusaf roddi ei dystiolaeth heb ofni bod y mesur lleiaf o ormodiaith ynddi,—"Y mae adfywiad. crefyddol grymus wedi torri allan yn y lle uchod, (Tre'r— ddol), yn bennaf trwy weinidogaeth y Parch. Humphrey R. Jones, diweddar o America. . . . Dechreuodd gynnal cyfarfodydd diwygiadol, a pharhaodd am bum wythnos felly yn ddidor, ar y Sabothau a phob nos o'r wythnos, a'r canlyniad i'r ymdrech oedd chwanegu 60 at nifer yr eglwys. Hefyd y mae'r gynulleidfa wedi lluosogi yn fawr, ac amryw yn bwrw eu coelbren i blith pobl yr Arglwydd yn barhaus. Nid peth bach oedd cael cynulleidfa ar y fath adeg brysur, ond y mae'n dda gennym ddywedyd fod y capel yn orlawn bob cyfarfod, a'r dylanwadau mor rymus nes y bydd pechaduriaid yn codi o ganol y gynulleidfa ac yn dyfod ymlaen at yr allor i ofyn i'r eglwys weddio gyda hwy am drugaredd, ac, O! y fath ddylanwadau oedd yn canlyn. Y nos Saboth olaf y bu Mr. Jones yma gofynnodd i'r dychweledigion ieuainc a oedd yn benderfynol o ddilyn yr Oen roddi eu llaw iddo ef fel arwydd o hynny, a dyna'r gynulleidfa yn ferw drwyddi, a phob un yn dyfod ymlaen at yr allor yn un foddfa o ddagrau, a'r holl gyn— ulleidfa yn wylo gyda hwy."[8]

Rhydd yr hynafgwr Capten Richard Jones, Hopewell, Borth, rai ffeithiau a brawf fawredd dylanwad y Diwygiad ar drigolion Tre'rddol a'r amgylchoedd. Tynnai'r bobl yn finteioedd o bob cyfeiriad i'r pentref, —pentrefwyr Talybont a Thaliesin o du'r De, a gwerinwyr Eglwysfach o du'r Gogledd, bugeiliaid ac amaethwyr y mynyddoedd, a thyddynwyr Mochno o Ddyfi i'r mynydd. Trwy haf 1858 cydforiai y Capten Richard Jones â Dafydd Owen, y Commercial Inn, Tre'rddol, a phan darient yn Stetten, Germany, daeth i Ddafydd lythyr o'i gartref â hanes y Diwygiad, ac yr oedd yn y llythyr hwnnw eneiniad a aeth i ysbryd y ddau forwr oni hiraethent am brofi'r dylanwadau newydd. Ymhen peth amser hwyliwyd am y wlad hon a chael y Coach Mawr o Amwythig i Aberystwyth. Wedi cyrraedd Tre'rddol yn gynnar y prynhawn caed yr anhawster mwyaf i yrru'r cerbyd heibio i'r capel gan faint y dorf. Yr oedd y capel yn orlawn a'r heol o bobtu iddo am tua hanner milltir yn dynn o bobl, hen ac ieuainc, yn addoli, rhai yn gweddio ac eraill yn moliannu, a phawb yn hunanfeddiannol a threfnus. Caed y Commercial Inn yn wag a than glo, a bu'n rhaid i Ddafydd Owen aros rai oriau i gael drws agored. Yr oedd y teulu a'r hen ddiotwyr i gyd yn y capel yn gaethion ewyllysgar i nerthoedd mawr y Diwygiad. Bedair blynedd wedyn, gwelodd y Capten Richard Jones dân y Diwygiad yn cynnau yn y West Indies, wedi ei gludo yno o Gymru gan forwyr o draethau Bae Ceredigion.[9]

Yn ystod pum wythnos ei genhadaeth yn Nhre'rddol pregethodd y Diwygiwr rai troeon mewn mannau eraill cyfagos, megis Eglwysfach a'r Borth a Phontgoch. Nid oes hanes iddo bregethu o gwbl yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, yn Nhaliesin, y pentref agosaf. Clywais ddywedyd ddengwaith na fynnent, mohono yno am mai Wesle ydoedd, a bod culni enwad yn fur trwchus ac uchel rhwng dwy eglwys y ddau bentref. Y mae'n hawdd gennyf gredu hyn, oblegid yr oedd y culni annuwiol yn aros fwy na chenhedlaeth wedi'r Diwygiad, a'r bai i'w rannu rhwng y ddwy eglwys; nid oedd ddau yn yr holl blwyf a ŵgai fwy ar ei gilydd nag eglwysi Tre'rddol a Thaliesin. Dichon nad oedd hyn namyn effaith y dadlau brwd a fu ar y "Pum Pwnc" ymhell yn ôl; darfuasai sŵn magnelau'r frwydr fawr, ond arhosai'r mwg i dywyllu'r wybren. Eithr ciliodd y mwg yn raddol, ac ers blynyddoedd bellach cydaddola'r ddwy eglwys ar brydiau mewn awyr glir a chynnes.

Wythnos cyn terfynu'r genhadaeth yn Nhre'rddol cynhelid gwyl bregethu ym Mhontgoch, pentref bach disyml yng nghanol y mynyddoedd, ryw bum milltir o Dre'rddol, a galwyd ar Humphrey Jones i roddi pregeth yn oedfa'r hwyr. Gwasanaethwyd yn y bore a'r prynhawn gan y Parch. Rowland Whittington a Mr. T. Rees, Aberdyfi. Yr oedd y ddau yn bregethwyr da, ac yn arbennig Rowland Whittington. Cyraeddasai hefyd swn y Diwygiad a llanw'r mynyddoedd, a disgwylid pethau mawr yn yr ŵyl; ond er pob ymdrech a disgwyl, awyr drom a naws oer a gaed yn y ddwy oedfa. Ymgasglodd tyrfa fawr, llond y capel a'r fynwent, i oedfa'r hwyr. Yr oedd tair pregeth yn yr oedfa hon. Pregethodd Rees a Whittington ar eu gorau heb ddyfod dim newydd namyn ambell amen fawr gan Humphrey Jones. Teimlai'r gwrandawyr bod yr "awyr yn blwm." Yna aeth y Diwygiwr i'r pulpud a darllenodd i'w ganu yr hen emyn-

Bywyd y meirw, tyrd i'n plith,
A thrwy dy Ysbryd arnom chwyth;

ac ar drawiad aeth dylanwad dieithr fel trydan trwy'r gynulleidfa, a chanwyd yr emyn drosodd a throsodd. Pregethodd Mr. Jones am ugain munud ar "Deffro di yr hwn wyt yn cysgu." Yr oedd Mr. Thomas Williams, Ystumtuen, a chyfaill iddo yn yr oedfa, a dyma'i dystiolaeth ef,-"Yr oedd y capel wedi ei orlenwi, a mwy o bobol y tuallan nag oedd y tumewn; ond yr oedd y ffenestri wedi eu hagor, felly yr oedd y rhai oedd allan yn uno yn yr Amenau.' Dyma'r cyfarfod mwyaf ei ddylanwad y bum ynddo erioed; rhyw ail Bentecost oedd hi. Ar ôl gorffen y bregeth, aeth y pregethwr i weddi cyn canu. Gweddiodd yn syml iawn, ond O! y fath effaith oedd ar y gynulleidfa. Cyn iddo orffen yr oedd ugeiniau yn gweddio'n gyhoeddus, nes boddi llais y pregethwr. Gan fod gennym o bedair i bum milltir i fyned adref, gwelem fod yn hen bryd cychwyn. Cawsom gryn drafferth i fyned allan o'r capel, ac ar ôl cyrraedd y drws, trafferth fwy i gyrraedd yr heol, gan fod y lle wedi ei gramio y tuallan rhai yn canu, eraill yn gweddio, a'r lleill yn moliannu. Wedi cyrraedd pen y bryn troesom ein hwynebau'n ôl, ac yr oedd sŵn cân a moliant yn dadseinio drwy'r cwm cul. Yr oedd yn anodd peidio â throi yn ôl er ei bod yn hwyr."[10] A fedr y sawl a wâd yr ysbrydol yn niwygiadau crefyddol Cymru, ac a broffesa esbonio'r cwbl heb gyfrif ar y goruwchnaturiol egluro paham yr effeithiwyd pethau mor fawr a rhyfedd trwy ychydig eiriau syml Humphrey Jones rhagor trwy bregethau cryfion y ddau bregethwr arall?

Er i'r Diwygiwr ei gyfyngu ei hun a'i waith bron yn gwbl i Dre'rddol am y pum wythnos gyntaf, llosgodd y tân a gyneuwyd trwyddo i'r pentrefi cyfagos, sef, Eglwysfach a Thalybont, ac o'r rheini i Fachynlleth a Chorris a Llanbrynmair, ac i fyny'n uwch ac ymhell i'r Gogledd, ac o du'r De, i'r Borth ac Aberystwyth a mannau eraill. Y gwaith mawr ydoedd cynnau'r tân; llosgai ar bob llaw wedyn, oblegid yr oedd yr holl wlad yn barod, ac yn galw,—"Tyrd ymlaen, nefol dân, cymer o honom feddiant glân"; ac yn Nhre'rddol a thrwy Humphrey Jones y cyneuodd Duw ef. Teimlwyd nerthoedd mwyaf y Diwygiad mewn ugeiniau o ardaloedd nad ymwelodd na Humphrey Jones na Dafydd Morgan â hwy o gwbl. Nid oedd gwres y tân lawer llai yn Nhalybont nag yn Nhre'rddol, er na weithiodd y Diwygiwr ei hun ddim yno. Dywaid y Parch. O. Thomas, gweinidog yr Annibynwyr yn Nhalybont, "Y mae rhywbeth yn hynod yn yr adfywiad hwn. Y mae popeth yn bur ddistaw, nid oes yma ddim sŵn, dim haint na phla yn y wlad, na dim yn wasgedig yn yr amgylchiadau, dim byd oddi allan yn gwasgu, ond eto, y mae rhyw deimlad dwys, dwfn, a distaw, nes bod hen bobl yn llefain fel plant. . . . Mae cyfnewidiad mawr yn y wlad; y mae'r tafarnau yn gwacau! a'r capeli yn myned yn rhy fychain i gynnal y cynulleidfaoedd trwy'r gymdogaeth."[11] Yn ystod dau fis ychwanegwyd 170 at aelodau eglwys yr Annibynwyr yn Nhalybont.

Y mae ym mhlwyf Llancynfelyn o ddyddiau bore'r eglwys Wesleaidd ddynion ag iddynt flas mawr ar ddiwinyddiaeth. Bu dadlau brwd am fwy na chenhedlaeth rhwng y Calfiniaid a'r Arminiaid, ac ofnaf y rhoddai'r ddwyblaid bwys mwy ar gredo nag ar grefydd. Unai pawb yn y dadlau-gwyr a gwragedd, pechaduriaid a saint. Trwy y dadlau dygn hwnnw rhoed awch gloyw ar feddyliau'r trigolion, ac ystyrid gwybod diwinyddiaeth uwchlaw pob gwybod. Dywaid y Parch. David Young, a fu'n weinidog yn Nhre'rddol, fod yr Ysgol Sul yn debyg i goleg diwinyddol.[12] Ni thalai pregeth ddim oni fyddai'n braff a phynciol â naws dadlau arni. Eithr parodd nodwedd pregethu Humphrey Jones syndod ar bawb; pregethai ef Efengyl fyw yn syml a syth a dirodres. Anghofiwyd y dadlau tros dro a chafodd y gwirionedd noeth ei gyfle. Peth arall a wnaeth argraff ddofn ac arhosol ar feddwl y sylwgar ydoedd, nerth anarferol personoliaeth y Diwygiwr. Yr oedd yn ei berson allu magnetaidd a wefreiddiai'r gwrandawyr a'u dal yn gaeth. Syllai â her yn ei drem ar y gynulleidfa drwodd a thro ac eilwaith, ac yna craffu ym myw llygaid rhywun cryf oni theimlai hwnnw'n wan a dyfod fel clai yn ei ddwylo. Perthyn y gallu cyfrin a phrin hwn i bob diwygiwr mawr. Yn 1859, yr oedd ym Meddgelert amaethwr annuwiol nad ofnai Dduw ac na pharchai ddyn, a ymffrostiai yn ei allu i wladeiddio a gwneud yn ddirym bob pregethwr a esgynnai i bulpud trwy lygadrythu arno. Cyhoeddwyd y Parch. Dafydd Morgan i bregethu nos Fawrth, Hydref 1, ac ymffrostiai'r gŵr cryf yn nhafarn y pentref yr âi ef i'r oedfa a thaflu'r Diwygiwr oddi ar ei echel. Yn ôl ei arfer taflodd y Diwygiwr gipdrem â thân ynddi trwy'r gynulleidfa a daliodd lygaid yr amaethwr hyf. Craffodd arno a dal i graffu, oni syrthiodd wyneb yr heriwr, eithr ni bu fwy nag eiliad heb herio'r pregethwr eilwaith. Gwyliai'r gynulleidfa'r ornest mewn pryder. Ni thynnodd Dafydd Morgan ei lygaid oddi arno, ac yn y man aeth cryndod cryf i gorff yr heriwr a gwelwder i'w wedd, a syrthiodd ei wyneb eilwaith i astell y sedd o'i flaen, ac ni ddyrchafodd ef mwy hyd derfyn yr oedfa.[13] Cafwyd degau o enghreifftiau o effaith yr un gallu yng ngwaith Evan Roberts yntau yn Niwygiad mawr 1904-5. Rhysedd ydyw credu y dewis Duw gyfryngau bach a distadl i weithio trwyddynt i'r diben o amlygu ei fawredd ei hun. Ei arfer ef ydyw dewis personoliaeth fawr.

Yr oedd Humphrey Jones yn bregethwr da ac yn bersonoliaeth gref, ond yr oedd yn fwy mewn gweddi nag mewn dim. Sonia hen Gymry'r America a'r wlad hon hyd yn awr am ei weddiau. Am y pum wythnos y bu yn Nhre'rddol llanwai'r wlad â'i weddiau. Gweddiai yn y capel fin nos nes toddi calonnau'r gynulleidfa, a gweddiai yn y maes a'r goedwig liw dydd oni ddaliai drigolion yr holl fro yn gaeth i bethau ysbrydol. Arferai godi cyn dydd a thynnu i fyny trwy feysydd Dolcletwr i allt o goed ar lechwedd sydd ychydig bellter i'r dde o waith mwyn plwm Bryn yr Arian, ac yno tan y deri, gweddiai, â'i lais mawr yn llanw'r ddau bentref. Adroddai Mrs. Margaret Edwards, gweddw Lewis Edwards, Taliesin, y cofiai hi Wmffre Jones yn dda,-ei gofio'n gweddio. Arferai ei thad, William Jones, y gof, godi'n fore iawn, ac ar droeon âi at droed y grisiau a gweiddi, "Codwch, blant, i chwi glywed Humphrey Jones yn gweddio." Cynhyrchai'r gweddio yn y goedwig fraw a dwyster dieithr yn yr holl fro.

Nodiadau golygu

  1. Cofiant Dafydd Morgan, tud. 21.
  2. Cofiant Dafydd Morgan, tud. 82.
  3. Cofiant y Parch. Dafydd Morgan, tud. 26.
  4. "Y Fwyell," Mai, 1894. tud. 61.
  5. Gelwid ef hefyd yn William Jones, eithr yn ôl Coflyfr Claddu Eglwys Llancynfelyn, ei enw bedyddiedig oedd William James
  6. Ysgrif y Parch. J. Hughes Griffiths, M.A., yn "Y Fwyell," Tach., 1894
  7. Ysgrif Humphrey Jones yn "Yr Herald Cymraeg," Awst, 15 1858.
  8. "Yr Eurgrawn Wesleaidd," Hydref, 1858. tud. 356.
  9. Llythyr dyddiedig Awst, 1926.
  10. "Y Fwyell," Medi, 1894. tud. 182.
  11. "Y Diwygiwr," Ebrill, 1859.
  12. "The Origin and History of Methodism in Wales" tud. 339.
  13. "Dafydd Morgan a Diwygiad '59," tud. 459.