Humphrey Jones a Diwygiad 1859/Y Diwygiwr yn America

Dyddiau Bore'r Diwygiwr Humphrey Jones a Diwygiad 1859

gan Evan Isaac

Ymweled â Chymru

IV.
Y DIWYGIWR YN AMERICA.

Cyn diwedd y flwyddyn 1854, ac ef yn ddwy ar hugain oed ar y pryd, ymfudodd Humphrey Jones i'r Unol Daleithiau. Yr oedd ei rieni a'i ddau frawd a'i chwaer yno ers saith mlynedd, a diau bod a fynnai hynny lawer â'i benderfyniad i ymweled â gwlad fawr y gorllewin; eithr tybiaf mai'r prif gymhellydd ydoedd y gobaith y cai yno well cyfle i fyned i'r weinidogaeth nag a roddid iddo yng Nghymru, oblegid dywedai tan loes y siom o'i wrthod gan Wesleaid Prydain, y mynnai bregethu er pob rhwystr. Teimlai fel Jeremiah,-"Ei air ef oedd yn fy nghalon yn llosgi fel tân wedi ei gau o fewn fy esgyrn, a mi a flinais yn ymatal, ac ni allwn beidio.'

Yn America ymunodd â'r Trefnyddion Esgobol, a chafodd ei le ar unwaith fel pregethwr cynorthwyol. Pregethodd i'r Cymry am flwyddyn, yn Nhalaith New York, yn bennaf, ac ar ben y flwyddyn ordeiniwyd ef yn ddiacon yng Nghynadledd Racine, yn 1855. Ni olygai'r ordeiniad hwn fwy na derbyn un yn weinidog ar brawf. Y mae yn Eglwys y Trefnyddion Esgobol dair urdd, sef, diacon a henadur ac esgob, yn cyfateb i weinidog ar brawf a gweinidog ordeiniedig a chadeirydd Talaith, yn yr Eglwys Wesleaidd ym Mhrydain. Tymor y prawf yn Eglwys y Trefnyddion yn America yn 1885, ydoedd dwy flynedd. Derbyniodd Humphrey Jones yr urdd gyntaf, eithr nid aeth drwy hanner ei brawf. Cefnodd ar y Trefnyddion Esgobol cyn pen y flwyddyn y gwnaed ef yn ddiacon. Dywaid Mr. N. J. Smith,- "The book History of Methodism in Wisconsin,' by P. S. Bennett, p.477, shows that H. R. Jones's relation commenced with the Wisconsin Conference in 1855, and that he was discontinued as a probationer the same year, 1855."[1] Cefais hefyd dystiolaeth Ysgrifennydd y Gynhadledd ar y mater,-"I have carefully examined the Conference Minutes beginning with 1855, and the only reference to Humphrey R.Jones that I can find is that he was admitted on trial in the Wisconsin Conference at the Racine Session, 1855. Since all later records are silent as to this brother, I take it for granted that he voluntarily withdrew before the end of the year, at least before the next session of Conference. He was, however, in 1855 stationed as pastor of the Welsh Mission at Oshkosh."[2] Dywaid Humphrey Jones yntau,-"Tua diwedd y flwyddyn 1856, torrais fy nghysylltiad â'r Gynhadledd, gan fyned i bregethu yn ôl fy nhueddiad fy hun at bob enwad pa le bynnag y cawn gyfleustra."[3] Dengys y tystiolaethau uchod nad ordeiniwyd y Diwygiwr yn weinidog gan y Trefnyddion Esgobol, a chyn belled ag y gwyddys, nid ordeiniwyd. ef gan unrhyw eglwys arall. Ni bu Humphrey Jones yn weinidog ordeiniedig erioed. Wedi ei wneuthur yn ddiacon yn Racine yn 1855,penodwyd ef gan y Gynhadledd yn genhadwr i'r Cymry yn Öshkosh, Wisconsin.

Sefydlwyd eglwys Wesleaidd o Gymry yn Oshkosh, Tachwedd 30, 1855, a Humphrey Jones oedd y prif offeryn yn ei chychwyn. Nid oes wybodaeth sicr am y tymor a dreuliodd yn Oshkosh a'r cylch; y tebyg ydyw na bu yno fwy na blwyddyn.

Bu'n ddiwygiwr nerthol yn America am yn agos i ddwy flynedd cyn dychwelyd ohono i Gymru yn 1858, ac yn America y rhoddwyd iddo'r enw "Humphrey Jones, y Diwygiwr." Yn Nhalaith Wisconsin y teimlwyd gyntaf rymuster mawr ei genadwri. Adfywiwyd holl eglwysi Cymraeg y Dalaith a dychwelwyd cannoedd o bechaduriaid. "Y lle," ebe fe," y dechreuais lafurio ynddo fel diwygiwr oedd Cambria, Wisconsin. Arhosodd un ar hugain ar ôl yn y cyfarfod cyntaf o'r gyfres, sef y cwbl yno ond un." Bu yn Cambria a'r gymdogaeth am fis. Bu wedi hynny am beth amser ym mharthau Oshkosh, ac yna aeth i Sefydliad Waukesha, ac yno, ebe ef ei hun, "y torrodd y wawr fawr a'r diwygiad nertholaf ynglŷn â'm gweinidogaeth yn America." Cafodd rai o'r oedfaon rhyfeddaf a welodd erioed ym Milwaukee, a dychwelwyd pump a deugain at grefydd. Teithiodd yn amlder ei rym trwy Ohio a Phensylfania a New York. Yn Oneida, New York, pregethai'n Gymraeg a Saesneg, a dychwelwyd tua saith gant trwy ei genhadaeth. Effeithiwyd llawer ar ysbryd Humphrey Jones gan y Diwygiad mawr a gychwynnwyd yn America trwy un o'r enw Lanphler, a oedd yn Genhadwr Trefol yn perthyn i'r Dutch. Aeth dylanwad y Diwygiad hwnnw trwy'r holl Daleithiau, a dychwelwyd 600,000 at grefydd; eithr nid cynnyrch y Diwygiad hwn oedd ef, oblegid ym Medi, 1857, y dechreuodd y Diwygiad a ddaeth trwy Lanphler, ac yr oedd Humphrey Jones yn Ddiwygiwr yn ei gyfarfod cyntaf yn Cambria, tua diwedd 1856.

Yr oedd i'r Diwygiwr a'i bregethu eu nodweddion arbennig. Yn fuan wedi marw Humphrey Jones caed yn "Y Drych," ysgrif goffa iddo gan Mr. G. H. Humphreys, cyn-olygydd y papur. Ceryddai'r ysgrif yn llym Gymry America, ac yn arbennig weinidogion Cymreig y wlad, oherwydd eu difaterwch ynglŷn â'i goffadwriaeth. Fel ffrwyth cerydd Mr. Humphreys caed yn "Y Drych," ddwy ysgrif werthfawr ar y Diwygiwr, y naill gan y Parch. H. O. Rowlands, D.D., a'r llall gan y Parch. H. P. Powell, D.D. Rhydd yr ysgrifau hyn y wybodaeth orau a feddwn am y Diwygiwr a'i waith yn yr Unol Daleithiau cyn iddo ymweled a Chymru yn 1858. Y mae'r ddwy ysgrif yn cydolygu, eithr y gyflawnaf o lawer ydyw eiddo'r Parch. H. O. Rowlands, ac oherwydd hynny, ynghyda'r ffaith i'r Parch. J. J. Morgan yn "Hanes Dafydd Morgan, Ysbyty, a Diwygiad '59," fanteisio ar dystiolaeth y Doctor Powell, defnyddiaf yn helaethach ysgrif y Doctor Rowlands nag ysgrif Powell.

Pan ddaeth Humphrey Jones yn amlwg fel Diwygiwr yr oedd yn ddyn ieuanc cryf o ran corff, ac yn hardd a diymhongar. Fel pob dyn sy'n llwyddo tuhwnt i'r cyffredin i symud ac arwain y miloedd, yr oedd ganddo bersonoliaeth anarferol gref, ac yn llawn gwefr a drydanai'r tyrfaoedd. Ceir arwyddion o hyn hyd yn oed yn ei ddarlun. Nid yw'n debyg y rhagorai ar ei gyfoedion o ran galluoedd meddyliol, eithr rhagorai ar y mwyafrif o honynt o ran diwylliant. Cafodd addysg elfennol dda, ac yn ôl tystiolaeth y Parch. John Hughes Griffiths, ei gefnder, gwyddai beth am yr ieithoedd Groeg a Lladin. Fe'i paratôdd ei hun ar gyfer y weinidogaeth yng Nghymru, a chymeradwywyd ef fel ymgeisydd cymwys gan y gweinidog poblogaidd, y Parch. W. Powell, a holl eglwysi Cylchdaith Aberystwyth. Golygai'r gymeradwyaeth honno fod ganddo wybodaeth gywir, onid eang, o wirioneddau sylfaenol ac athrawiaethau'r grefydd Gristnogol. Felly, pan safodd Humphrey Jones yn bedair ar hugain oed, i wynebu Cymry America, yr oedd yn gymwys i fod yn ddiwygiwr o ran corff a meddwl a gwybodaeth. Eithr nid yw hyn i gyd namyn deunydd i weithio arno. Y mae'n rhaid wrth gymwysterau moesol ac ysbrydol, oblegid gwyddys am gannoedd sydd ar yr un gwastad a Humphrey Jones o ran deall a diwylliant a gwybodaeth, nad ydynt yn ddiwygwyr o fath yn y byd. Tystia'r sawl a'i hadnabu ei fod yn gymeriad glân ac unplyg, a'i fryd yn llwyr ar bethau ysbrydol, ac y treuliai oriau bob dydd a phob nos mewn gweddi. Trwy ei weddiau dirgel y deuai i'w fywyd nerth, a thrwy ei weddiau cyhoeddus yr aethâi nerth i'w gynulleidfaoedd. Dysg pawb a'i hadnabu yn America a'r wlad hon mai dirgelwch ei gryfder ydoedd ei weddio. "Fel gweddiwr," ebe'r Doctor Rowlands, " yr oedd yn rymus- ach nag fel pregethwr; pan elai ar ei liniau i ymbil tros gadwediageth enaid . ymddangosai i mi fel pe'n ystormio'r nefoedd." "Ni allaf," ebe'r Parch. J. C. Jones, D.D., Chicago, "Ni allaf anghofio'i weddiau a'i amenau. Yr oedd mwy o ddylanwad ysbrydol yn ei amenau ef nag oedd yn fy mhregethau i." Nid oes ddadl nad oedd Humphrey Jones yn ddyn ysbrydol iawn, eithr nid ei ysbrydolrwydd a'i gwnaeth yn ddiwygiwr, er bod hynny yn hanfodol, oblegid bu eraill llawn mor ysbrydol ag yntau na fuont erioed yn ddiwygwyr. Duw a'i dewisodd. Yr oedd yn llestr etholedig. Paham y'i dewiswyd o blith ei gydradd ni wyddys, ond ei ddewis a wnaed, a'i eneinio i'w waith mawr. Cyn dechrau ar ei yrfa fel diwygiwr yr oedd yn gydradd â dynion ieuainc meddylgar a duwiolfrydig eraill, eithr y foment y gwnaed ef yn ddiwygiwr aeth yn fwy na phawb ac o flaen ei oes. "Yr oedd y drydedd ran o ganrif o flaen yr oes Gymreig yn ei amgyffredion o'r moddion effeithiolaf i ddeffroi eneidiau a'u hargyhoeddi o'u dyletswyddau. Petai'n ymddangos yn awr byddai i fyny ag ysbryd yr oes, ac efallai yn fath o Foody[4] arweiniol yn Seion. Y mae'n amheus gennyf a ymddangosodd erioed yn hanes crefydd y Cymry yn America un pregethwr a wnaeth argraff ddyfnach ar ei oes, na mwy o les i'w gyd-ddynion."[5]


Yr argraff gyffredin yn ardal Tre'rddol pan oeddwn i'n hogyn ydoedd mai pregethwr bach ac o nodwedd arwynebol, oedd Humphrey Jones. Addefid y rhagorai ar bawb o ran gwres ysbryd a dawn gweddi, ond pregethwr gwan ydoedd; eithr nid oedd hyn namyn dyfalu rheswm tros wrthod iddo le yn y weinidogaeth yng Nghymru. Y mae'n rhywyr dileu'r argraff gyfeiliorn hon. Yn ol tystiolaeth y sawl a'i clywodd yn America cyn ei ddychwelyd i Gymru yr oedd yn bregethwr gwych ac o fedr a grymuster mawr. Dywaid y Doctor Rowlands, "Yr oedd yn gyfansoddwr pregethau rhagorol. Clywais ganddo bregethau pan oeddwn fy hun yn weinidog oedd yn orchestol o ran cynllun ac iaith.. Yr oedd hefyd yn deimladwy a thyner, a'i ddawn llefaru yn gyfoethog... Yr oedd yn draddodwr nodedig o rymus."[5]

Ar gychwyn gyrfa'r Diwygiwr nodwedd bynciol oedd i bregethu Cymry America, a'r pynciau a'r damcaniaethau fynychaf yn astrus a diles, eithr apeliai Humphrey Jones â grym mawr at y gydwybod yn ogystal â'r deall, a pheri i'r gynulleidfa deimlo y deuai hen wirioneddau yn newydd iddynt oherwydd y sylw eithriadol a wnai o berthynas ysbrydol dyn â Duw, drygedd irad pechod a'i ganlyniadau, toster y farn ddiwethaf, cyni angerddol uffern, a'r galw mawr am edifeirwch. Byddai'i ysbryd a'i bregethu mor ddwys a difrifol, ac ar brydiau, mor gynhyrfus a brawychus, oni lethid y gwrandawyr yn llwyr. "Difrifol a dwys a llethedig oedd ei eiriau fel ei ymddangosiad. . . Yr oedd mor faterol a realistic ag Inferno Dante. Yn wir yr oedd yn echryslawn. Y pryd hwnnw dychrynwn gan ofn. Nid ar wragedd a phlant yn unig y dylanwadai, ond ar ddynion deallus a dysgedig hefyd. Toddai calonnau celyd dynion a oedd wedi clywed cewri Cymru, ac ildiodd cannoedd o honynt i ofynion Duw arnynt trwy weinidogaeth Mr. Jones."[5] Yr oedd iaith ei bregeth yn ddewisol a glân, a'i lais yn fawr a pheth swyn ynddo, a gwnai ddefnydd helaeth o gymariaethau a hanesion pwrpasol. Ymhlith testunau'i bregethau yr adeg hon yr oedd "Beth a wnewch yn nydd yr ymweliad?" "Pa hyd y cloffwch rhwng dau feddwl?" "Y drygionus a yrrir ymaith yn ei ddrygioni." Dengys y testunau hyn nodwedd ei bregethu fel diwygiwr yn America.

Pan oedd y Doctor H. O. Rowlands yn ŵr ieuancy mae'n awr yn bedwar ugain oed—treuliodd Humphrey Jones amryw wythnosau yn ei gartref yn Waukesha, Wisconsin, ac edmygai'r teulu ef y tuhwnt i bob mesur, oherwydd ei ddoniau a'i ysbrydolrwydd. Synia'r Doctor yn uchel am dano fel efengylydd,—"Yr oedd yn un o'r diwygwyr mwyaf grymus a adnabum i; nid oedd ei gyffelyb ymhlith y Cymry. Yr oedd ei bregethau wedi eu meddwl a'u gorffen yn dda; gallaf alw rhannau ohonynt i'm cof yn awr. Pregethai'n gwbl realistic cyn belled ag y mae canlyniadau pechod yn bod,—cyffyrddiad o Jonathan Edwards, ond yn odidog o gymhwysiadol at yr amseroedd a'r bobl a gyfarfyddai. Sylweddolai'r hyn a bregethai; yr oedd y bregeth yn fynegiant o'i argyhoeddiadau a'i deimladau dyfnion. Ond yr oedd ei weddiau yn hynotach ac effeithiolach na hyd yn oed ei bregethau. Meddai bersonoliaeth gref a gwefraidd iawn, ac mor drydanol oedd ei apeliadau ar brydiau nes y gorchfygai'r cynulleidfaoedd yn llwyr. . . Yr oedd yn ddyn mawr yn ei amser ef, yn ddyn duwiolfrydig, yn anrhydeddu Duw ac yn caru dynion."[6]

Y mae'r hanes a rydd y sawl a adnabu Humphrey Jones yn America yn peri credu bod chwe pheth yn cyfrif am ei ddylanwad a'i lwyddiant anarferol, sef, nerth corff a'i harddwch, praffter deall, huodledd naturiol, personoliaeth fagnetaidd ac ysbrydolrwydd meddwl, ac at y cwbl, ac yn bennaf, ei ddewisiad i'r gwaith gan Dduw. "Myfi a'th elwais mewn cyfiawnder, ymaflaf yn dy ddwylaw, cadwaf di hefyd." Nid oes dim a ysgrifennwyd yng Nghymru a rydd y pwys a ddylid ar waith Humphrey Jones fel diwygiwr yn America. O'r pedair blynedd a dreuliodd yno adnabyddid ef am ddwy ohonynt fel diwygiwr. Y mae'n amheus a oedd Cymro yn yr holl wlad na theimlodd ddylanwad ei gyfaredd ysbrydol. Teithiodd filoedd o filltiroedd, gweddiai a phregethai'n ddibaid, ac aeth ei ddylanwad fel gwynt nerthol yn rhuthro trwy'r holl Sefydliadau Cymreig. Pregethai mewn mannau i'r Saeson hwythau, â'r un effeithiau i'w bregethu a phan efengylai i'r Cymry. Trwy gydol y ddwy flynedd bu'n gweithio'n ddiatal mewn awyrgylch brwd a ferwai'n dawel gan dân anweledig; dyna nodwedd y Diwygiad,—dwyster distaw a llethol, ac nid llefain a gorfoledd; ddydd a nos am ddwy flynedd bu pob gewyn corff a phob egni ysbryd y Diwygiwr ar eu llawn gwaith,—yn dynn hyd dorri. Bydd yn ddoeth cofio'r dreth drom hon ar ei nerfau pan ddeuir i weled ei haul yn machlud.

Nodiadau golygu

  1. Llythyr oddi wrth Mr. N. J. Smith, Llyfrgellydd Cynorthwyol y Drew Theological Seminary, Madison, New Jersey, dyddiedig Ebrill 5, 1928.
  2. Llythyr oddi wrth y Parch. C. H. Wiese, Ysgrifenyndd Cynadledd Wisconsin, dyddiedig Ebrill 27, 1929.
  3. "Hanes Dafydd Morgan, Ysbyty, a Diwygiad '59," tud. 20.
  4. Dwight L. Moody
  5. 5.0 5.1 5.2 Erthygl y Doctor H. O. Rowlands yn "Y Drych."
  6. Llythyr y Doctor H. O. Rowlands, dyddiedig Rhagfyr, 1927.