Humphrey Jones a Diwygiad 1859/Dyddiau Bore'r Diwygiwr

Eglwys Tre'rddol Humphrey Jones a Diwygiad 1859

gan Evan Isaac

Y Diwygiwr yn America

III.

DYDDIAU BORE'R DIWYGIWR.

Nid oes wybodaeth sicr am y cyfryngau addysg a oedd yng nghymdogaeth Tre'rddol yn nyddiau bore Humphrey Jones. Yr Ysgol gyntaf y gwn i am dani ydoedd yr Ysgol Genedlaethol, yn Nhaliesin, a oedd tan ofal offeiriad y plwyf. Eithr prin y gallasai'r ysgol honno fod wedi'i chychwyn pan oedd Humphrey'n fachgen. Dywedai'r diweddar Evan Owen, cyfoed â Humphrey Jones, iddo ef fynychu am beth amser ysgol a gedwid mewn tŷ annedd, a Dafydd Taliesin Morris, mab Maria Morris, a gadwai dafarn "Y Frân," yn Nhaliesin, yn athro. Adnabum Dafydd Taliesin yn ei hen ddyddiau. Yr oedd yn gymeriad hynod, ac yn wahanol i bawb o ran nodweddion ei feddwl a'i ymddangosiad; gwisgai'n bregethwrol a chadwai wallt trwchus a llaes, a pheri i un feddwl am yr hen Dderwyddon. Pregethai'n gynorthwyol, a darlithiai â hwyl fawr ar "Y Rhyfel Cyntaf rhwng y Cymry a'r Rhufeiniaid." Yr oedd gandddo ddychymyg aflywodraethus, ac nid oedd ei ddarlith namyn dychmygion anhygoel o'i dechrau i'w diwedd. O ran ysgolheictod nid oedd gymhwysach i fod yn athro ysgol na phlentyn deng mlwydd yn y dyddiau hyn. Y mae'n debyg y bu Humphrey Jones ar y cychwyn tan addysg personau anghymwys ac answyddogol fel Morris; eithr dywaid ei gefnder, y Parch. John Hughes Griffiths, iddo dreulio peth amser yn ysgol Talybont, a gwelais grybwyll amryw droeon iddo fod am gyfnod yn ysgol enwog Edward Jones, yn Aberystwyth. Y mae hyn yn haws i'w gredu na pheidio gan fod ei berthynasau yn awyddus i roddi iddo'r manteision gorau, ac yn abl o ran moddion i wneuthur hynny.

Bachgen iach a hoyw a direidus ydoedd, a chanddo ddawn anarferol i ddefnyddio dryll; saethai bry' yn well na neb yn yr holl fro, a chadwodd y ddawn honno drwy wres a goleuni'r Diwygiad, a phan ddisgynnodd nos drom ar ei feddwl, ni chollodd y ddawn saethu. Clywais y diweddar Evan Thomas, a oedd yn gweithio yn Nôlcletwr, yn adrodd hanes y Diwygiwr cyn ei gyrchu'n ôl i America, â'i feddwl wedi ei amharu a'r gweision yn ei wylio. Taerai ei fod cyn iached ei feddwl ag y bu erioed ac i brofi hynny, gofynnai am ddryll a pheri iddynt daflu dernyn chwe cheiniog i'r awyr, ac y saethai ef fel na welent mo hono byth mwy. Y mae'n debyg y gweithiai beth rhwng oriau'r ysgol yng Ngwarcwm-bach, fferm ei dad, ac wedyn, ar y tir a berthynai i Half Way Inn, ac wedi gorffen ei ysgol, yn Nôlcletwr; eithr dechreuodd bregethu pan oedd yn ieuanc iawn, ac yn ôl yr hanes sydd iddo, ychydig o sylw a roddodd i ddim ond pregethu byth wedyn.

Derbyniwyd ef yn aelod yn eglwys Tre'rddol pan oedd yn ddeuddeg oed, eithr ni chafodd ymdeimlad o ddrwg ei bechod onid ydoedd yn bymtheg oed. Dywaid y Parch. J. J. Morgan,yn ei lyfr gwerthfawr,[1] iddo dderbyn oddi wrth y Parch. W. D. Evans, Carroll, Nebraska, America, brif ffeithiau ei ddyddiau bore, a gafodd Mr. Evans gan Humphrey Jones ei hun:—

"Derbyniwyd fi yn aelod o'r Eglwys," ebe Humphrey Jones, "pan nad oeddwn ond deuddeg oed. Pan oeddwn yn bymtheg oed bum dan argyhoeddiad dwys, cyffrous, ac ofnadwy, a barhaodd dros ddau fis ar bymtheg. Curwyd fi megis yng ngorweddfa dreigiau. Yr adeg hon cymhellwyd fi i bregethu, ac o ufudd-dod i eraill yn hytrach nag o'm ymdeimlad fy hun dechreuais, pan oeddwn yn un ar bymtheg oed, cyn dyfod allan o'r argyhoeddiad."

Bu'n boblogaidd a llwyddiannus fel pregethwr o'r cychwyn, ac wedi gwasanaethu Cylchdaith Aberystwyth fel pregethwr cynorthwyol am chwe blynedd, cyflwynodd y Parch. William Powell, arolygwr y Gylchdaith ar y pryd, ef a Mr. Richard Evans, y crydd, a Mr. Evan Jones, y Goetre, a aeth wedi hynny yn offeiriad, fel ymgeiswyr am y weinidogaeth Wesleaidd, yng Nghyfarfod Taleithiol Nantyglo, a gynhaliwyd yn 1854; eithr gwrthodwyd y tri, naill ai oherwydd diffyg cymhwyster neu oherwydd nad oedd gofyn am bregethwyr ychwanegol y flwyddyn honno. Un o reolau'r Wesleaid ydyw derbyn ymgeiswyr yn ôl y galw a fydd. Ni ellir bod yn bendant ar y rheswm am y gwrthod, oblegid ni cheir ef yn y Cofnodion o'r cyfarfod a gedwir yn Llyfrfa'r Wesleaid yn Llundain. Anodd fyddai meddwl mai anghymwyster oedd y rheswm. Adnabum Richard Evans, y crydd, yn dda; yr oedd ef yn ddyn eithriadol o ran gallu meddwl a chymeriad. Dysg hanes Humphrey Jones yntau na dderbyniwyd erioed i'r weinidogaeth ei gymhwysach ar rai cyfrifon. Yr oedd yn ddyn ieuanc o ddoniau naturiol anarferol, wedi ei addysgu'n well na'r cyffredin yn y dyddiau hynny, ac o dan arddeliad mawr fel pregethwr. Dywaid ef ei hun, "Dan y drydedd bregeth gyhoeddus o'r eiddof ar y geiriau, "Os braidd y mae y cyfiawn yn gadwedig, &c.," argyhoeddwyd dau ar bymtheg o eneidiau. Yn Ystumtuen dychwelwyd deuddeg; wyth neu naw ar ddiwedd oedfa ym Mynyddbach. Mae gennyf le i feddwl ddarfod i'r Arglwydd o'i ras fendithio fy ngweinidogaeth yr adeg hon i fod yn achubiaeth i rai cannoedd o eneidiau tua pharthau uchaf sir Aberteifi."[2] Rhydd yr eglwys Wesleaidd hyd yn oed yn yr oes ddysgedig hon bwys mawr ar "ffrwyth" pregethu ymgeiswyr am y weinidogaeth, ac nid yw'n debyg y gwrthodai yn 1854, pan nad oedd bri mawr ar ddysg a gwybodaeth fydol, un a fuasai'n offeryn achubiaeth rhai cannoedd o eneidiau yn ystod chwe blynedd. Credaf i'r Cyfarfod Taleithiol fethu â derbyn Humphrey Jones am nad oedd gofyn am bregethwyr ychwanegol ar y pryd, ac nid oherwydd diffyg cymhwyster yr ymgeisydd.

Nodiadau golygu

  1. "Hanes Dafydd Morgan, Ysbyty, a Diwygiad '59." Gan y Parch. J. J. Morgan.
  2. Hanes Dafydd Morgan, Ysbyty, a Diwygiad '59," tud. 19.