Humphrey Jones a Diwygiad 1859/Ei Gofio

Atgofion am y Diwygiwr Humphrey Jones a Diwygiad 1859

gan Evan Isaac

XIV.
EI GOFIO.

Y mae yn America a Chymru eto'n awr rai o "blant y Diwygiad," ac erys degau a gofia'r Diwygiwr ac a fendithia Dduw am dano. Eithr anodd yw taro ar neb a fedr fanylu llawer ar neilltuolion y Diwygiwr. Ceir yng Nghofiant y Parch. Dafydd Morgan a gyhoeddwyd dair blynedd ar hugain yn ôl hanes manwl cannoedd o oedfaon rhyfedd y Diwygiad yma a thraw trwy Gymru, ac nid oes ofyn am ychwanegu atynt, oblegid yr un nodweddion a berthynai iddynt oll—nerth a gwres a gorfoledd a deimlid ym mhob oedfa. Aeth yr awdur i drafferth hefyd i osod Humphrey Jones yn ei le priodol yn ei berthynas â'r Diwygiad, a sonia am dano â pharch ac edmygedd mawr; eithr ei destun ydoedd Dafydd Morgan a'r Diwygiad, a phrin oedd ei ddeunydd at draethu ar Humphrey Jones.

Efallai nad oes fodd gwell i weled mawredd Humphrey Jones a'n rhwymedigaeth ninnau i'w gofio na theithio hyd ato drwy'r Diwygiad. Dywaid llenor Seisnig mai'r dyn mawr yw'r sawl a wna beth am y tro cyntaf. Boed a fynno am hynny, y mae'n sicr y perthyn neilltuolrwydd gwerthfawr i gychwynnydd symudiad mawr fel Diwygiad 59,—digon o neilltuolrwydd i'w gofio'n hir onid am byth.

Yn ystod misoedd cyntaf y Diwygiad ysgrifennodd y Parch. John Thomas, D.D., Lerpwl,—"Y Parch. H. R. Jones, pregethwr gyda'r Wesleaid, a fu y prif offeryn i gychwyn y Diwygiad presennol. Nid yw ond dyn ieuanc 25ain ml. oed; genedigol o Dre'rddol, Sir Aberteifi. Dychwelodd o America yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, yn llawn tân diwygiad, gydag amcan i fod yn foddion i gyffroi ei genedl yn ei hen wlad.

Ymleda y tân dwyfol gydag angerddoldeb. Mae pob enwad a phob eglwys uniongred trwy y Sir oll wedi eu bedyddio â'r Ysbryd Glân. Mae yr awelon balmaidd. yn chwythu yn adfywiol ar yr eglwysi gyda glannau Teifi, ac o gylch Llanbedr-pont-Stephan, lle yr oedd anadl wenwynig Sociniaeth wedi gwywo pob gwyrddlesni crefyddol; y maent yn awr yn blodeuo fel gardd yr Arglwydd, yr oerni gaeafol wedi myned heibio, a gwanwyn a hâf ar grefydd wedi dyfod. Mae y Diwygiad mewn rhai manau yn gwisgo gwedd wahanol yn awr rhagor yr hyn oedd. Gwres a thanbeidrwydd yr hen ddiwygiadau gynt wedi dychwelyd-afradloniaid wedi dychwelyd, ac wedi eu gwledda, a'r teulu yn awr yn dechrau bod yn llawen. Mae Duw yma wedi gwneud pethau anhygoel. O Dre'rddol, y Borth a Thalybont, trwy Aberystwyth, gyda glan y môr hyd Aberteifi, ac yn groes trwy ganol y wlad heibio Y Glyn, Hawen, Castell Newydd, Horeb, hyd Lanbedr, trwy Langeitho a Thregaron hyd Bontrhydfendigaid-crefydd ydyw y testun cyffredinol, ac achub sydd ar feddwl pawb. Nid oes genym gyfrif cywir o nifer y dychweledigion drwy y sir oll; ond oddiwrth yr hysbysrwydd sicr a gawsom o nifer fawr o leoedd, a'r awgrymiadau am lawer yn ychwaneg, tybiwn ein bod islaw yn hytrach nag uwch y nifer pan ddywedwn fod pymtheng mil o eneidiau wedi eu hychwanegu at yr eglwysi yn Sir Aberteifi yn unig o fewn corff y flwyddyn hon; a gobeithio eu bod o nifer y rhai "a fyddant gadwedig." Mae pethau rhyfeddol yn cymryd lle yn sir Benfro-sir na bu erioed yn nodedig am ei gwres crefyddol. Mae y Dyfedwyr yn bwyllog a digynnwrf yn gyffredin,heb olygu fod arddangosiad o deimlad dwys yn hanfodol i grefydd; ond y mae y fflam wedi ymafael ynddi, ac yn llosgi o'i blaen. Mae y rhan fwyaf o'r eglwysi gyda phob enwad wedi profi pethau grymus. Una y gwahanol enwadau fel un gŵr i weddio; ac y mae rhai o eglwysi y Bedyddwyr yn y sir hon wedi cael adnewyddiad anghyffredin. Tua gwaelodion sir Gaerfyrddin, ac ymlaen hyd dref Caerfyrddin, y mae yr eglwysi yn blodeuo fel rhosyn. Rhifir y dychweledigion wrth yr ugeiniau a'r canoedd yn ardaloedd Blaencoed, Bwlchnewydd, Cana a Llanybri. . .

Mae awelon grymus iawn yn chwythu ar Pyle, Cefncribwr, Cwmafon, Rock, Abertawe, Glandwr, a'r wlad oddiamgylch. Nid oes hamdden gan y bobl i ddim ond gweddio. Mae cannoedd o'r cymeriadau mwyaf llygredig yn "ymwasgu â'r disgyblion."

Yn y Gogledd hefyd y mae effeithiau grymus iawn i'w canfod. Daeth rhagddo o sir Aberteifi i sir Drefaldwyn. Mae ychwanegiadau rhyfeddol tuag Aberdyfi, Towyn, Penal, Machynlleth, Aberhosan, a'r holl leoedd cylchynol. . . . . . Mae yr awelon yn chwythu tua Dolgellau, Abermaw a'r Bala. Mae diferynau breision yn disgyn mewn mannau yn sir Gaerynarfon, yn rhagddangos fod "glaw mawr ei nerth ef" ar ddyfod. . . .[1]

Nid yw'r hyn a ysgrifennwyd gan y Doctor John Thomas namyn y filfed ran o hanes y Diwygiad. Llosgodd y tân trwy Gymru gyfan—pob sir ynddi, ac i'r pentrefi mwyaf mynyddig a diarffordd. Ychwanegwyd ugeiniau o filoedd at yr eglwysi a newidiwyd llawer ar wedd foesol yr holl genedl; ac i'r Diwygiad yn fwy nag i ddim arall yr ydym yn ddyledus am lawer o gewri'r pulpud, megis, T. C. Edwards a John Evans, Eglwysbach.

Tybed na rydd symudiad mor anarferol fawr arbenigrwydd ar y gŵr a ddefnyddiodd Duw i'w gychwyn? Y mae'n ddiamau y gwna; eithr nid oes yng Nghymru na maen na llyfryn i'w gofio.

Yn 1914, trefnodd y Parch. R. H. Pritchard (W.), godi Colofn Goffa i'r Diwygiwr, o flaen capel Tre'rddol. Cymeradwywyd ei gynllun gan Gyfarfodydd Taleithiol a Chymanfa y Wesleaid yng Nghymru, a gwasgarwyd llyfrau casglu trwy'r wlad. Yr oedd arwyddion sicr y cefnogid yr ymgymeriad gan grefyddwyr Cymru'n gyffredinol; eithr daeth y Rhyfel Mawr a drysu bywyd yr holl deyrnas, ac ni chodwyd y Golofn byth. A ydyw yn anodd gwneuthur hynny eto yn awr? Aberthodd Humphrey Jones ef ei hun pan gychwynnodd y Diwygiad a fu yn foddion achub tros gan mil o bechaduriaid i fywyd tragwyddol, ac nid oes ddim i'w gofio; petai wedi cychwyn symudiad a fai'n foddion dinistr can mil o wrthwynebwyr Prydain mewn rhyfel codesid yn ddiymdroi golofn ddrudfawr i'w ogoneddu.

Nodiadau

golygu
  1. "Diwygiad Crefyddol: Yn cynnwys hanes y Diwygiad presenol yn Nghymru." Gan y Parch. J. Thomas, Liverpool. Llanelli, 1859.