Humphrey Jones a Diwygiad 1859/Atgofion am y Diwygiwr

Yn America Eilwaith Humphrey Jones a Diwygiad 1859

gan Evan Isaac

Ei Gofio

XIII.
ATGOFION AM Y DIWYGIWR.

Y mae deng mlynedd a thrigain er Diwygiad '59, ac o'r rhai sy'n fyw yn awr a welodd ac a glywodd y Diwygiwr ychydig sydd a fu'n ddigon sylwgar ar y pryd i allu tystiolaethu dim yn bendant am dano heddiw. Ysgrifennais at bedwar o brif weinidogion Cymru sy'n tynnu'n agos at y pedwar ugain a deg, sef, y Parchedigion D. Avan Richards (A.), Hugh Hughes (W.), J. Cynddylan Jones a T. Jones Humphreys (W.). Nid oes gan y ddau gyntaf ddim i'w ddywedyd am na'r Diwygiwr na chychwyn y Diwygiad, ac y mae'r ddau hynafgwr arall yn gynnil eu sylwadau a phrin eu geiriau. Praw hyn bod galw cryf, a galw buan, os galw o gwbl, am gasglu ar unwaith bopeth a ellir ei gasglu am Humphrey Jones. Dywaid y Doctor Cynddylan Jones:

Byddai yn dda gennyf allu eich cynorthwyo yn eich hymgais i ysgrifennu cofiant i'r diweddar Humphrey Jones. Yr ydych yn crybwyll y cwbl yr wyf fi yn ei gofio. Daeth o'r America â thân y Diwygiad yn llosgi ynddo; bu am ychydig ddyddiau tua Thaliesin. Aeth oddiyno i Bontrhydygroes, cynhaliodd gyfarfodydd diwygiadol yn ardal Ysbytty, catchodd y tân diwygiadol yn Dafydd Morgan, ac aethant eu dau i gynnal cyfarfod yn Nhregaron. Collais olwg ar Humphrey Jones o hynny allan. Awyddais yn fawr ei weled a'i glywed, ond ni chefais y fraint. Bu yn lletya yn Aberystwyth, ond ni chefais gyfle erioed i'w weled. Un peth sydd sicr—efe gychwynodd y tân yng Nghymru. Paham yr ymneilltuodd mor gynnar sydd ddirgelwch i mi."[1]

Ysgrifennodd yr Hybarch T. Jones Humphreys yntau y gair hwn:

"Ychydig yw fy adgofion am y Parch. Humphrey Jones. Clywais ef yn pregethu un waith, a hynny yn hen gapel Wesleaidd Ty Cerrig, Cylchdaith Machynlleth. Yr oedd hynny cyn iddo ymfudo i'r America. Gŵr ieuanc ydoedd y pryd hwnnw, tywyll ei bryd, a hardd ei ymddangosiad. Nid wyf yn cofio ei destun, nac ychwaith ddim o'i bregeth. Ond cofiaf yn dda ei fod yn traddodi ei genadwri gyd â gwres a brwdfrydedd neilltuol, a hynny nes peri cryn gyffro ym mhlith yr hen flaenoriaid a eisteddai dano yn y set fawr, ac yr oedd y dylanwad ar y gynulleidfa yn ddwys, a rhedai y dagrau i lawr dros aml rudd. Mawr oedd y ganmoliaeth iddo fel pregethwr gan y gwrandawyr wedi i'r oedfa fyned heibio.

"Tro arall, pan oeddwn ar ymweliad â'm perthynasau yn Aberystwyth yn y flwyddyn 1859, cefais amryw gyfleusterau i'w weled a'i glywed. Tynnodd fy sylw mewn modd neilltuol pan gerddai i fyny North Parade ar ei ffordd i hen gapel Queen Street. Cerddai ar ganol yr heol wrtho'i hun, a hynny yn ben isel, a golwg synfyfyriol arno. Yn ystod fy arhosiad yn y dref, mynychais y cyfarfodydd yn gyson; ond ychydig iawn o ran a gymerai ef ynddynt oddieithr fel arweinydd. Ni phregethai o gwbl, ac ni chaniatai i'r gynulleidfa ganu. Yn lle rhoddi emyn i'w ganu cyn gweddio yr arfer oedd darllen ychydig adnodau, a dyna drefn y moddion y naill noson ar ol y llall. Nodweddid y cyfarfodydd â gwir ddefosiwn a chryn fesur o ddwyster. Ni chlywais ddim o orfoledd y Diwygiad yn y cyfarfodydd hynny yn Aberystwyth, fel yn y cyfarfodydd a gynhelid yn ddiweddarach gan y Parch. David Morgan, Ysbyty. Aiff enw y Parch. Humphrey Jones i lawr yn hanes yr Eglwys yng Nghymru fel yr un a fu yn foddion yn llaw Ysbryd Duw i gychwyn Diwygiad Mawr 1859."[2].

Er imi eisoes wneuthur peth defnydd o ysgrifau'r Parchedigion H. P. Powell, D.D., a H. O. Rowlands, D.D., a ymddangosodd yn "Y Drych," America, wedi marw Humphrey Jones, tybiaf mai doeth fydd eu gosod ym mhennod yr Atgofion, oherwydd ceir ynddynt rai ffeithiau ynglŷn â bywyd y Diwygiwr yn America cyn ei ddyfod i Gymru, ac wedyn, nas ceir yn unman arall. Fel hyr y traetha'r Doctor H. P. Powell:

"Da y cofiaf am Humphrey Jones, y Diwygiwr, yn nydd ei nerth, pan oedd deheulaw y Goruchaf yn ei gynnal fel seren oleu a disglair yn y pulpud efengylaidd. Y pryd hwnnw yr oeddwn naill ai'n rhy ifanc neu'n rhy ddiallu, neu bob un o'r ddau, i'w bwyso a'i fesur o ran natur a graddau ei alluoedd. Yr oedd sôn mawr am y gwaith da a gyflawnai yn ardaloedd y Welsh Prairie a Praireville, Wisconsin, a chofiaf yn dda am y disgwyl mawr oedd am dano tua'r "Glannau." Mewn amser cyfaddas, wele y gwr hir-ddisgwyliedig i'n plith ninau, a mawr oedd y brwdfrydedd a'r tynnu i'w wrando gan bob enwad. Y pryd hwnnw yr oedd y Wesleaid Cymraeg yn lled flodeuog yn Cambria, Oshkosh, a Racine, Wisconsin, ond nid dyn ei enwad oedd ef, ond dyn ei genedl. Pregethai fel ei Athro mawr lle bynnag y cai ddrws agored a phechaduriaid i'w wrando. Yr oedd fel cannwyll yn llosgi ac yn goleuo. Tybiaf mai yn haf 1857 yr ymwelodd ag ardaloedd Racine, pan oedd yn graddol weithio'i ffordd i Gymru, gan fwriadu, yn llaw Ysbryd Duw, ddeffroi'r holl wlad o'i chysgadrwydd ysbrydol; a diau i Ddiwygaid grymus 1859 a '60, gael ei gychwyn ganddo ef fel offeryn. Y pryd hwnw daeth am rai wythnosau i gymdogaeth Pike Grove lle y mae capel Annibynnol ers blynyddoedd maith . . . .

"Yr oedd Humphrey Jones yn ddyn ieuanc glan ei bryd, tywysogaidd ei ymddangosiad, a phrydferth iawn ei holl ymddygiadau. Mewn llais clir a soniarus, a'i ysbryd yn wresog, gwnai apeliadau taer a difrifol oedd yn hynod effeithiol. Cariai ei wedd serchus, oedd ar yr un pryd yn ddifrifol, ddylanwad mawr ar y gwrandawyr gan nad oedd na rhodres nac uchelgais yn ei ymddangosiad. Ac am ei amenau uchel, llawn a chynnes, buont am flynyddoedd yn swnio yn fy nghlustiau. Ni flinai yr ardal sôn am ei dduwioldeb amlwg, ac am yr oriau maith a dreuliai ddydd a nos mewn ymbiliau gyda'i Dduw. Yn wir, tybiwn i fod ei wynepryd yn disgleirio fel eiddo Moses gynt.

"Ychydig o gôf sydd genyf am bregethau Humphrey Jones, heblaw eu bod yn agos ac eglur a llawn o gymariaethau a hanesion tlws a thrawiadol. Tri pheth yn arbennig a lynodd yn fy meddwl byth am dano-ei olwg brydferth a nefol, ei weddiau difrifol a thaer tros ei wrandawyr, a'i amenau a'i ddiolchiadau cynes a gorfoleddus. Yn ddiau, yr oedd Humphrey Jones yn fawr mewn ysbryd, yn gorchfygu anawsterau, yn plygu amgylchiadau at ei wasanaeth, yn llwyr ennill ei wrthwynebwyr, ac yn cael eneidiau i feddwl yn fwy am Grist a'i grefydd. Nid dyn diallu mo hono. Syniad cyffredin am "ddiwygiwr" ydyw, nad yw'n alluog o feddwl. Paham hyn, ni wn i, os nad tybio a wneir fod bod yn ymarferol yn anghydweddol â gallu mawr. Ond pa werth sydd mewn gallu oni fydd yn ymarferol?

"Pan welais ef ymhen ugain mlynedd neu ragor, rhyfedd y cyfnewidiad a aethai trosto er pan glywswn ef yn pregethu yng nghymdogaeth Racine, Wisconsin. Trwy orlafur a dirwasgiad ysbryd a losgai'n angerddol am flynyddoedd gildiodd ei gyfansoddiad cryf a hardd, ac ymdaenodd cwmwl prudd tros ei feddwl. Adferwyd ei iechyd i raddau ac enillodd gydbwysedd ei feddwl hefyd, ond ni ddaeth byth fel y bu yn y dyddiau gynt. Collodd ei hunanfeddiant a'i hyder ac ni fentrai i'r pulpud heb ei bapur, yr hwn a ddarllenai yn fanwl. Hawdd ydoedd gweled hyd yn oed y pryd hwn fod ganddo allu uwch na'r cyffredin. Fflachiai ei feddyliau ac yr oedd newydd-deb a nerth ynddynt. Am ei ysbryd yr oedd hwnnw yn dal heb golli dim o'i neilltuolrwydd. Byddai ei weddiau yn nodedig o wresog ac efengylaidd a huawdl hyd y diwedd. Nid dyn cyffredin oedd Humphrey Jones o ran dysg a gwybodaeth. Yr oedd yn ysgolhaig da, ac yn feistr ar yr iaith Saesneg, yn yr hon y pregethai yn huawdl. Bydd gan filoedd o Gymru ac America barch calon i Humphrey Jones ar gyfrif yr hyn fu ac a wnaeth. Tragwyddoldeb yn unig a ddengys ffrwyth ei lafur.

"Y mae rhyw ddynion wedi eu cymhwyso a'u bwriadu i wneuthur gwaith mawr mewn amser byr. Gwasgodd ein Gwaredwr waith oes fawr i ryw dair blynedd a hanner. Bu David Morgan yn gweithio'n galed am oes, ond gwnaeth waith ei oes mewn tymor byr iawn—dwy neu dair blynedd. Gwisgodd Duw ef ar gyfer yr adeg honno, ac wedi iddo gyflawni ei waith diosgodd ef o'i ogoniant, a daeth fel cynt. Wedi i Richard Owen, y Diwygiwr, orffen ei waith cipiodd Duw ef adref yng nghanol ei ddyddiau. Ond gwelodd Rhagluniaeth yn dda gadw Humphrey Jones ar y ddaear am flynyddoedd lawer, a'i waith wedi ei orffen pan oedd yn ieuanc. Huned ei hun yn dawel."

Nid oes yn fyw yn awr neb a gafodd well cyfleusterau na'r Parch. H. O. Rowlands, D.D., i adnabod Humphrey Jones. Adnabu ef yn ei ddyddiau bore fel Diwygiwr, ac wedyn, â'i haul tan gwmwl, hyd ddiwedd ei oes. Ceir yn ei ysgrif fer ddarlun da,—y gorau a welais, o'r Diwygiwr.

"Fe wnaeth y Parch. Humphrey Jones lawer iawn o ddaioni yn ei ddydd byr, a Llyfr y Bywyd yn unig a gynnwys gyfrif cyfan o hono. Yr oedd yn un o'r diwygwyr mwyaf grymus a gafodd y Cymry yn y ganrif ddiweddaf. Adwaenwn ef yn dda o'm plentyndod. Bu'n aros am wythnosau yn fy nghartref yn Waukesha, Wisconsin, pan oeddwn yn hogyn. Cyfarfum ag ef yng Nghymru, yn Aberystwyth, yn 1886, ac ar ol ei ddychwelyd o Gymru bum yn ei gyfeillach amryw weithiau yn fy nhŷ fy hunan. Yn Wisconsin y dechreuodd lewyrchu fel diwygiwr, ac yn nerth yr enwogrwydd a enillodd yn y Dalaith hono yr aeth trwy yrfa boblogaidd iawn yn Nhaleithiau Ohio, Pensylfania a New York.

"Cyfansoddai bregethau rhagorol, a chlywais rai ganddo oedd yn orchestol o ran cynllun ac iaith. Rhagorai o ran medr mewn homiletics, a thraddodai'n nodedig o rymus mewn ysbryd dwys a thyner. Yn ychwanegol at y pethau hyn yr oedd ganddo bersonoliaeth gref a gwefrol. Swniai'i bregethau yn llai fel cyfansoddiadau diwinyddol ac uniongredol nag fel apeliadau angerddol at bechaduriaid. Ond er yn rymus anghyffredin fel pregethwr, yr oedd yn rymusach fel gweddiwr. Treuliai'i amser mewn cymundeb cyson â Duw, ac i weddio yn y dirgel. Nid amheuai neb onestrwydd ei gymhellion, ac ni feiddiai ei gritics mwyaf miniog gyffwrdd â'i gymeriad fel dyn Duw. Yr oedd ei genadwri yn syml ac eglur, yn ddiaddurn a chyfan, ac fel Moody, byddai ganddo wmbredd o hanesion tarawgar a phwrpasol, ond nid oedd ganddo ddim chwareus ac ysgafn. Ni chlywais ef erioed yn awgrymu bôst oherwydd ei lwyddiant i droi pechaduriaid, fel y clywir yn rhy aml gan efengylwyr Americanaidd. Byddai'n ofalus i ddidwyllo dynion am eu sefyllfa o flaen Duw, ac ymdrechai i'w hargyhoeddi a'u dwyn i edifeirwch. Yr oeddwn ar y pryd yn rhy ieuanc i werthfawrogi'r pethau hyn, ond ni chlywais gan ei feirniaid a'i wrthwynebwyr—ac yr oedd ganddo lawer—awgrym gwahanol i'r gosodiadau uchod. Y mae'n debyg nad oedd bob amser yn ddoeth; dyn ieuanc ydoedd, rhwng 25 a 30 mewn oedran, a diamau iddo wneud camgymeriadau fel y gwnaeth Elias ac eraill; ond ni chlywais si o amheuaeth parthed ei gymeriad pur a'i fywyd duwiol.

"Pan y'i gwelais yn Aberystwyth yn 1866, yr oedd yn isel ei ysbryd, a dywedodd wrthyf lawer o'i brofiadau a'i siomedigaethau, ond ni welais un arwydd ar y pryd fod ei feddwl yn ffaelu. Pan ddychwelodd i'r Taleithiau yr oedd ei iechyd corfforol wedi ei adfer, ond y meddwl wedi gwanhau yn ddirfawr. Clywais ei bregeth gyntaf yn addoldy y T.C., ym Milwaukee; ... Ai i eithafion direol a didrefn. Nid oedd Wmffre Jones yn bresennol mwy.

"Ni wn am un Gennad i'r Goruchaf yr wyf yn fwy dyledus iddo am gynhyrfiadau crefyddol ac argyhoeddiadau am Dduw ac anfarwoldeb na'r Parch. Humphrey Jones, ac y mae canoedd fel mi fy hunan ar hyd a lled y Taleithiau yr un mor ddyledus iddo. Y mae'r ddaear yn well o'i fywyd arni, a'r nefoedd yn anwylach o'i fynediad iddi."

Cefais heddiw, Awst 9, 1929, yng ngeiriau'r Parch. G. Bedford Roberts, atgofion Mr. Thomas Jones, sy'n byw yn awr yng Ngharno, Sir Drefaldwyn, am oedfa a gafodd Humphrey Jones, yn Columbus, Ohio— "Yn Hydref, 1884, a'r Parch. Humphrey Jones yn gwella'n araf o'i gystudd maith a phoenus, cefais y fraint o'i wrando'n pregethu. Cynhelid yr oedfa yng nghapel yr Annibynwyr Cymreig, yn Columbus, Ohio. Pregethai'r Diwygiwr ar y geiriau, "Canys felly y carodd Duw y byd." Gorchymynasai'r meddyg iddo ei gyfyngu ei hun i'w bapur, ac ymdrechai yntau wneuthur hynny. Eithr caed arddeliad mawr a rhyfedd ar y gwasanaeth o'r cychwyn; gwresogai ysbryd y pregethwr ac anesmwythai'r gynulleidfa, ac yn fuan diflannodd y papur fel dail ar flaen corwynt, ac wedyn, llefarai'r Diwygiwr fel yn nyddiau'i nerth. Nid oedd na gwres nac ynni yng nghrefydd y wlad ar y pryd, ond yn yr oedfa fythgofiadwy honno bloeddiai'r gynulleidfa ei hamen a'i diolch nes peri yn fy enaid iasau fel tân.

"Ar derfyn y bregeth ceisiodd y Parch. Mr. Griffith, gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd yn Columbus, siarad. Yr oedd yntau tan deimladau rhyfedd, a methodd â llefaru. Yna, gweddiodd oni chodwyd pawb i awyrgylch Diwygiad '59, ar ei orau. I goroni'r oedfa soniodd Mr. Breeze, brodor o Lanidloes, am a glywodd gan Humphrey Jones yng Nghymru yn 1859. Bu hyn yn danwydd newydd, a fflamiodd y tân. Terfynodd yr oedfa mewn gorfoledd mawr."

Yn Awst, 1929, daeth imi lythyr oddi wrth Mr. Humphrey Richards, Des Moines, Iowa, gŵr pedwar ugain oed, a pherthynas i Humphrey Jones, yn dywedyd bod ganddo atgofion lawer ac annwyl am y Diwygiwr. Cofia ef yn dyfod trosodd i Gymru yn 1858, ac yn rhoddi gwlad oer ar dân; cofia ef hefyd ym mhen blynyddoedd, ar ôl ei ollwng o wallgofdy Winnebago, Wisconsin, yn treulio wythnos yn ei gartref yn Iowa, â'i gof wedi pallu a gogoniant y dyddiau gynt wedi ymadael Eithr er pob cyfnewidiad pery Mr. Richards i gredu na fu erioed ddiwygiwr yn rhagori arno o ran ymgysegriad ac awdurdod a dylanwad.

Nodiadau golygu

  1. Llythyr, Gorffennaf 16, 1928.
  2. Llythyr, dyddiedig Awst 2, 1928