Humphrey Jones a Diwygiad 1859/Yn America Eilwaith

Dyddiau Tywyll Humphrey Jones a Diwygiad 1859

gan Evan Isaac

Atgofion am y Diwygiwr

XII.
YN AMERICA EILWAITH.

Ar y seithfed o Ragfyr, 1870 aeth y Diwygiwr o Gaerfyrddin i Ddolcletwr, ffermdŷ hen gerllaw Tre'r- ddol, yng ngogledd sir Abertefii. Derbyniwyd ef yno'n llawen gan ei ewythr, Mr. Owen Owen, a'i fodryb Sophia, chwaer ei fam. Dyn tawel a dwys a charedig oedd Owen Owen, a hanner addolai Humphrey Jones. Gwraig fawr o ran corff a meddwl oedd Mrs. Sophia Owen, ac ystyrid hi y gywiraf ei barn a'r fwyaf ei doethineb yn yr holl blwyf, ac edrychai'r plant arni fel yr edrych un ar frenhines urddasol. Un o hen gartrefi cefnog a thangnefeddus Cymru ydoedd Dolcletwr gynt. Ni allesid dwyn y Diwygiwr yn ei ddyddiau blin i well man na'r ddôl deg hon ar fin llif esmwyth Cletwr, ac yng ngolwg y goedwig y gweddiai ynddi ar ddechrau'r Diwygiad oni ddeffroai'r holl gymdogaeth. Eithr ni bu tegwch y fro a chysur cartref ac atgofion am lwyddiant dyddiau bore'r Diwygiad yn foddion i adfer nerth ei feddwl. Dywedai Evan Thomas, a weithiai yn Nôlcletwr pan ddaeth Humphrey Jones adref o Gaerfyrddin, nad "oedd fawr o niwed arno," a'i fod yn dawel a di-ddrwg, ac y soniai'n aml am y gwn a fu yn ei ddwylo ganwaith pan oedd fachgen. Nid oedd," ebe'r hen ŵr, "fawr o le arno, ond nid oedd yn gwbl fel dyn arall."

Yn y flwyddyn 1871, yn gynnar, mi a dybiaf, daeth ei frawd John o America i ymweled ag ef a'i berthynasau eraill yng Nghymru, a phan ddychwelodd dug Humphrey gydag ef i Wisconsin. Ymddengys y pregethai'n achlysurol yn Oshkosh a Sefydliadau Cymreig eraill cyfagos; eithr prin y dylid caniatau iddo wneuthur hynny a chyflwr ei feddwl cynddrwg. Dywaid y Doctor H. O. Rowlands iddo glywed y Diwygiwr, yn fuan wedi ei ddychweliad o Gymru, yn pregethu ar nos Sul yng nghapel y Trefnyddion Calfinaidd ym Milwaukee, ac iddo deimlo ar unwaith nad yr Humphrey Jones a adnabu gynt ydoedd mwyach. Aeth gofid i'w galon o'i weled yn y pulpud, a dywaid, "Trafodai'n wasgarog ddamcanion awyrol yr ail-ddyfodiad, ac âi i eithafion direol. Gofidiai pawb o'i herwydd. Cofiai liaws o honom am ei bregethau cyfeiriol a dylanwadol, a'u hunig bwrpas i argyhoeddi pechaduriaid. Wele ei gorff, ac ambell nodyn o'i lais, a dyna rai o'r hen aceniadau swynol, ond nid yw y dyn yno mwyach. Cododd hiraeth dwfn yn fy nghalon."

Gwaethygu'n raddol a wnaeth iechyd meddwl y Diwygiwr, ac yn 1873, bu rhaid ar ei frodyr ei roddi yng ngwallgofdy Winnebago, Wis. a bu yno am bum mlynedd a thri mis. Ymddengys oddi wrth adroddiad Arolygwr yr Ysbyty fod ei gyflwr yn un drwg iawn:—

He was admitted June 6, 1873. Age 41. Cause given: Overwork. Diagnosis: Chronic Mania. Mental condition at time of admission: Noisy, talkative, egotistical, untidy in habits, and disposed to be violent toward others, especially those in authority. . . . The last note concerning him, November, 13, 1878, is as follows:—

"Has been quiet since last note, plays cards on the ward and reads books and papers, writes upon every scrap of paper he can beg or find; has gained flesh; was to-day removed on order of Judge Paulson to make room for a more hopeful case."

October 28, 1880, he visited the institution and stated that he was preaching in a church near Nekimi.... that he had preached regularly since last April

The notation was made that "he looks well and when talking upon religious topics shows some enthusiasm, says he writes all his sermons and does not become at all excited but controls himself by his will."[1]

Yn ddiymdroi wedi ei ryddhau o'r Sefydliad ymroddodd eilwaith i bregethu. Bu'n gwasanaethu am beth amser yn Oshkosh a Waukesha, Wisconcsin, ac yn gofalu am eglwys Gymraeg yn Remner. Tybiaf mai'r adeg hon, yn 1880, y priododd, yn Oshkosh, wraig weddw, merch i'r diweddar Mr. John Owen, Corris, Meirionnydd, a chwaer i'r Parch. John Morris Owen, gweinidog Wesleaidd. Bu gofal a thynerwch ei briod yn fendith amhrisiadwy iddo; diflannodd ei bryder ac adnewyddodd ei ysbryd, a disgwyliai'i gyfeillion ei weled yn fuan yn rhodio yn amlder ei rym fel yn y dyddiau a fu; ond er siom i bawb a cholled annisgrifiol iddo yntau, bu farw'i briod ddechrau Ebrill, 1882.

Am y deuddeg mlynedd olaf o'i oes bu'r Diwygiwr yn teithio trwy'r Taleithiau i bregethu i'r Cymry. Arhosai weithiau mewn lle am fisoedd neu flwyddyn, yn ôl y gofyn, i ofalu am eglwys wan, neu eglwys gref nad oedd iddi weinidog sefydlog. Bu yn San Francisco am lawer o fisoedd a phregethai yno oni ddaliwyd ef gan gystudd trwm a'i dug yn agos i angau. Treuliodd dymor gweddol hir ymhlith Cymry Oakland, California, yn pregethu iddynt, ac yn mwynhau eu caredigrwydd dibrin.

Dengys tystiolaeth ei gefnder, y Parch. John Hughes Griffiths, syniadau ei gyfeillion am dano a'u teimladau tuag ato yn y cyfnod hwn : "Yn y Cambrian Hall, San Fransisco, ar fore Saboth yn niwedd 1888, y gwelais fy hen gefnder annwyl gyntaf ar ol iddo adael Cymru gyda'i frawd. Yr oeddwn yn falch iawn i gyfarfod ag ef. Yr oedd yn ddigon gwael ei iechyd y pryd hwnnw. Yr oedd pawb yn ei hoffi. Byddai weithiau yn dyfod i'r moddion ar y Saboth, ac yn dechrau'r oedfa'n fynych iawn. Ystyriai cyfeillion San Fransisco mai braint oedd ei glywed yn gweddio. Nid oedd yn bosibl iddo ddechrau'r oedfaon yn rhy fynych."

Ym mlynyddoedd olaf ei fywyd symudai'r Diwygiwr ar yr un gwastad â phregethwyr cyffredin America, ac ni thynnai fwy o sylw na hwythau, na chymaint â rhai ohonynt. Ýmhell yn ôl ataliwyd y goleuni a'r gwres, a disgynnodd y cymylau yn isel ar ei fywyd, ac aeth yntau fel gŵr dinerth. Oherwydd hyn anghofiodd. y lliaws ef, ac ni ofalwyd am gofnodi manylion ei hanes yn fuan wedi ei farw. Byr yw cof gwlad o'i dyled i'w chymwynaswyr. Gwna'r esgeulusdra hwn ddilyn ei lwybrau yn anodd. Dywaid Miss Anna E. Jones, merch i gefnder iddo, a deimla ddiddordeb mawr yn ei hanes ef a'i pherthynasau eraill a fu farw yn America, i'r Diwygiwr yn ddiymdroi ar ôl ei ryddhau o'r gwallgofdy yn Oshkosh ymroddi am ysbaid i wasnaethu'r Cymry yn y Sefydliad Cymreig yn Wisconsin, ac yna teithio trwy Oregon, a thario am gyfnod yn y Sefydliad Cym- reig a oedd gerllaw dinas Oregon. Symudodd oddiyno yn araf i lawr y Pacific Coast gan ymdroi ymhlith y Cymry yma a thraw a phregethu iddynt oni ddaeth i San Francisco ac Oakland, California.[2]

Pan ddychwelodd y Diwygiwr o'r daith hon dewis- wyd ef yn weinidog eglwysi Annibynnol Cambria a South Bend, Minnesota, a gwasanaethodd hwy am ychydig dros bedair blynedd, o haf 1889 hyd Ionawr 1, 1894.[3] Rhydd y Parch. John C. Jones, D.D., Chicago, mewn llythyr, beth o hanes y Diwygiwr yn ystod tymor ei weinidogaeth yn Cambria a South Bend.:

"O Chwefror, 1884, hyd Chwefror, 1894, ac eithrio'r flwyddyn 1888, a dreuliais ym Minnesapolis, Minnesota, yr oeddwn yn weinidog ar eglwysi Mankato, Seion a Charmel, Swydd Blue Earth, Minnesota, lle'r oedd Sefydliad Cymreig cryf gydag wyth o eglwysi Methodistaidd, a dwy eglwys Annibynnol. Yn ystod y deng mlynedd uchod daeth y Parch. Humphrey Jones i'r Sefydliad a chartrefu gyda'i berthynasau, sef teulu Mr. David Lewis, mewn ffermdy ar y ffordd rhwng Mankato a Seion. Yr oedd capel Annibynnol yn South Bend o fewn dwy filltir neu lai i'w arhosfan, ac yno pregethai Mr. Jones bob prynhawn Sul i nifer bychan o Gymry, yn cynnwys dau deulu lluosog, a oedd yn berthynasau iddo, sef teuluoedd David ac Evan Lewis. Os cofiaf yn iawn, daethai Mr. Jones yno o Clay County, Iowa, lle buasai'n gwasanaethu Sefydliad newydd o Gymry. Yr oedd o ymddangosiad hardd, gyda llais cyfoethog. Clywais ef yn pregethu unwaith neu ddwy. Darllennai bob gair o'i bregeth, ac ni feiddiai godi ei lygaid oddiar y papur heb ddrysu. Ond pan gaeai ei lygaid i weddio yr oedd ei barabl yn groyw, ei ddawn yn llithrig, ei lais yn beraidd, a'i oslef yn swynol a thra chynhyrfiol. Llifai adnod ar ôl adnod, addewid ar ôl addewid, o drysorfa'i gof i'w wefusau, a phlethai hwynt yn eu erfyniadau, a hofrent ar adenydd ei lais organaidd nes creu teimlad o lawenydd a hyfrydwch addolgar yn y cyfarfod.

Gadawodd ef Sefydliad Blue Earth Co. o'm blaen i, ond ar ôl symud i Chicago, yn nechrau 1894, gwelais ef drachefn yng nghapel bach Bethania, Swydd Waukesha, lle y cynhelid cyfarfod chwarter Dosbarth Waukesha. Arhosai yn yr ardal gyda'i berthynasau, sef teulu Mr. John Evans, Cruglas. Galwyd arnaf i bregethu brynhawn y dydd olaf, ac eisteddai yntau dan y pulpud, a bu ei amenau perseiniol yn foddion i galonogi'r pregethwr gwan, ac i ddyblu nerth a gwerth y bregeth i'r gwrandawyr. Testun y bregeth oedd Terah yn cychwyn i Ganan, ac yn aros ar hanner y ffordd, a marw cyn cyrraedd Canan. Credaf mai dyna'r olaf a gafodd ar y ddaear, oblegid deellais iddo gyrraedd pen y daith yn fuan wedyn. I mi y mae ei goffadwriaeth yn felys a hyfryd. Ni allaf anghofio ei weddiau a'i amenau. Yr oedd mwy o ddylanwad ysbrydol yn ei amenau ef nag yn fy mhregethau i."[4]

Yn y flwyddyn 1893, tua'i diwedd, rhoddodd heibio ofalu am eglwysi Cambria a South Bend ac aeth i Crugglas, Wales, Wisconsin, cartref Mr. John a Mrs. Ann Evans, rhieni Mr. W. Jarmon Evans, sydd yn awr yn Oshkosh, Wisconsin. Yr oedd Mrs. Ann Evans yn gyfnither i'r Diwygiwr. Er nad oedd Humphrey Jones ond ychydig dros drugain oed, teimlai'n hen a llesg; daethai oerni mawr gaeafu America, a chyfrifoldeb y gofal am y ddwy eglwys fach yn ormod iddo, ac ymneilltuodd i orffwys a marw. Bu yng Nghrug-glas am chwe mis, o Ionawr hyd Mehefin, 1894, ac yn ystod yr amser hwnnw trawyd ef ag ergyd o'r parlys. Gofalodd Mr. a Mrs. Evans am dano â thynerwch mawr, a charent ef fel petai'n fab annwyl iddynt. Ym Mehefin, 1894, symudwyd ef i gartref ei frawd John, yn Chilton, Wisconsin, ac wedi dihoeni am ychydig tros flwyddyn, bu farw dydd Mercher, Mai 8, 1895, a'i oedran yn ddwy flwydd a thrigain, chwe mis, a saith niwrnod ar hugain. Y dydd Gwener dilynol, Mai 10, claddwyd ef heb na rhwysg na rhodres, yn Brant, Wisconsin.[5] Ddiwrnod ei farw, draw, y tuhwnt i'r llen, yn nhŷ ei Dad, bu gorfoleddu a moli mawr.

Nodiadau

golygu
  1. Llythyr dyddiedig Medi 18, 1929, oddi wrth Adin Sherman, M.D., Superintendent of the Northern Hospital for the Insane, Winnebago, Wis.
  2. Llythyr Miss Anna E. Jones, Mankato, Minn., dyddiedig Medi 30, 1927.
  3. "History of the Welsh," pub. at Mankato, Minn., 1895
  4. Llythyr y Parch. J. C. Jones, D.D., Chicago, Rhagfyr 2, 1927.
  5. "The Chilton Wisconsin Times," May 11, 1895.