Hyfryd lais efengyl hedd
← O! Arglwydd galw eto | Hyfryd lais efengyl hedd gan Peter Jones (Pedr Fardd) |
Eheded iechydwriaeth → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
300[1] Cyflawnder yr Iechydwriaeth.
76. 76. D.
1 HYFRYD lais efengyl hedd
Sydd yn galw pawb i'r wledd;
Mae gwahoddiad llawn at Grist,
Oes, i'r tlawd newynog trist:
Pob cyflawnder ynddo cewch:
Dewch a chroeso, dlodion dewch.
2 Talodd Crist anfeidrol Iawn
Ar y croesbren un prynhawn;
Llifodd ar Galfaria fryn
Ddŵr a gwaed i'n golchi'n wyn:
Iechydwriaeth sydd heb drai:
Dewch i'r ffynnon, aflan rai.
Galwad yr Efengyl.
- Peter Jones (Pedr Fardd)
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 300, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930