O! Arglwydd galw eto
← O'r nef mi glywais newydd | O! Arglwydd galw eto gan Dafydd Jones o Gaeo |
Hyfryd lais efengyl hedd → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
299[1] Galwad yr Efengyl.
76. 76. D.
1 O! ARGLWYDD, galw eto
Fyrddiynau ar dy ôl,
A dryllia'r holl gadwynau
Sy'n dal eneidiau'n ôl;
A galw hwynt o'r dwyrain,
Gorllewin, gogledd, de,
I'th eglwys yn ddiatal—
Mae digon eto o le.
Dafydd Jones o Gaeo
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 299, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930