Hyn yw 'mhleser, hyn yw f'ymffrost

Dacw gariad, dacw bechod Hyn yw 'mhleser, hyn yw f'ymffrost

gan William Williams, Pantycelyn

Clywch leferydd gras a chariad
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

192[1] Tragwyddoldeb i ryfeddu Crist a'i Ras
87. 87. 47.

1 HYN yw 'mhleser, hyn yw f'ymffrost,
Hyn yw 'nghysur yn y byd—
'Mod i'n caru'r addfwyn Iesu;
Dyna 'meddiant oll i gyd:
Mwy yw 'nhrysor
Nag a fedd y byd o'i fron.

2 Ac ni allaf fyth fynegi
Ped anturiwn, tra fawn byw,
Pa mor hyfryd, pa mor felys,
Pa mor gryf, ei gariad yw:
Fflam ddiderfyn
Ddaeth o ganol nef i lawr.


3 Yn y bywyd byth a bery,
Caf fi ddwfwn chwilio i maes
Faith ddyfnderoedd cariad dwyfol,
A changhennau nefol ras;
Ehengir f'enaid
I 'nabod datguddiadau'r nef.

4 Derfydd awyr, derfydd daear,
Ac a grewyd is y ne',
Derfydd haul a sêr a lleuad,
Daw tywyllwch yn eu lle;
Fyth ni dderfydd
Canu iechydwriaeth gras.

—William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 192, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930