Dacw gariad, dacw bechod

Mae fy meiau fel mynyddoedd Dacw gariad, dacw bechod

gan William Williams, Pantycelyn

Hyn yw 'mhleser, hyn yw f'ymffrost
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

191[1] Cariad yn Cario'r Dydd.
87. 87. 47.

1 DACW gariad, dacw bechod,
Heddiw ill dau ar ben y bryn;
Hwn sydd gryf, hwnacw'n gadarn,
Pwy enilla'r ymgyrch hyn?
Cariad, cariad
Wela'i'n perffaith gario'r dydd.

2 Dringa' i fyny i'r Olewydd,
I gael gweled maint fy mai;
Nid oes arall, is yr ŵybren,
Fan i'w weled fel y mae;
Annwyl f'enaid
Yno'n chwýsu dafnau gwaed.

3 Pechod greodd ynddo'r poenau,
Pechod roddodd arno'r pwn,
Pechod barodd iddo ochain;
F'unig haeddiant i oedd hwn:
O! na welwn
Fore fyth na phechwn mwy.

—William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 191, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930