Mae fy meiau fel mynyddoedd
← Iesu, gwyddost fy nghystuddiau | Mae fy meiau fel mynyddoedd gan William Williams, Pantycelyn |
Dacw gariad, dacw bechod → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
190[1] Rhinwedd Gwaed Crist
87.87. 47.
1 MAE fy meiau fel mynyddoedd,
Amlach hefyd yw eu rhi'
Nag yw gwlith y bore wawrddydd,
Nag yw sêr y nefoedd fry:
Gwaed fy Arglwydd
Sydd yn abli olchi 'mai.
2 Golchi'r ddu gydwybod aflan
Lawer gwynnach eira mân;
Gwneud y brwnt, gan' waith ddifwynodd
Yn y domen, fel y gwlân:
Pwy all fesur
Lled a dyfnder maith ei ras?
3 Ei riddfannau ar y croesbren
Oedd yn pwyso beiau'r byd;
Poenau pechod oedd ofnadwy,
Poenau f'Arglwydd oedd fwy drud;
'N awr mae cariad
Yn concwerio dwyfol lid.
—William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 190, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930