Iesu, gwyddost fy nghystuddiau
← Iesu, Iesu, 'r wyt Ti'n ddigon | Iesu, gwyddost fy nghystuddiau gan William Williams, Pantycelyn |
Mae fy meiau fel mynyddoedd → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
189[1] Cydymdeimlad Crist
87. 87. 47.
1 IESU, gwyddost fy nghystuddiau, '
R wyt yn rhifo pob yr un;
Pob rhyw wradwydd, pob rhyw groesau,
Dioddefaist hwynt dy Hun;
Dal fi i fyny
Man bo 'meichiau'n fwyaf trwm.
2 Er dy fod Di heddiw'n eistedd
Yng ngogoniant nef y nef,
Mewn goleuni cyn ddisgleiried
Na ellir nesu ato ef,
'R wyt yn edrych
Ar d'anwylaf yn y byd.
—William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 189, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930