Iesu, Iesu, 'r wyt Ti'n ddigon

Gwyn a gwridog yw fy Arglwydd Iesu, Iesu, 'r wyt Ti'n ddigon

gan William Williams, Pantycelyn

Iesu, gwyddost fy nghystuddiau
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

188[1] Iesu'n Ddigon
87.87.47.

1 IESU, Iesu, 'r wyt Ti'n ddigon,
'R wyt Ti'n llawer mwy na'r byd;
Mwy trysorau sy'n dy enw
Na thrysorau'r India i gyd:
Oll yn gyfan
Ddaeth i'm meddiant gyda'm Duw.

2 Y mae gwedd dy ŵyneb grasol
Yn rhagori llawer iawn
Ar bob peth a welodd llygad
Ar hyd ŵyneb daear lawn:
Rhosyn Saron,
Ti yw tegwch nef y nef.

William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 188, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930