Gwyn a gwridog yw fy Arglwydd

Nid oes pleser, nid oes tegan Gwyn a gwridog yw fy Arglwydd

gan William Williams, Pantycelyn

Iesu, Iesu, 'r wyt Ti'n ddigon
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

187[1] Tegwch a Chadernid Iesu
87.87.47.

1 GWYN a gwridog yw fy Arglwydd,
Gwyn a gwridog yw ei wedd;
Brenin y brenhinoedd ydyw
Yma a thu draw i'r bedd;
Mae dy degwch
Wedi f'ennill ar dy ôl.

2 Can' ffarwél i bopeth arall,
'R wyt Ti'n ddigon mawr dy Hun;
Derfydd nefoedd, derfydd daear,
Derfydd tegwch ŵyneb dyn:
Hwn a'th gaffo,
Caiff y cwbwl oll yn un.

3 Mae dy wedd yn drech na byddin
O elynion mawr eu grym;
Nid oes yn y nef a'r ddaear
Saif o flaen dy ŵyneb ddim:
Gair o'th enau
A wna'r dywyll nos yn ddydd.

William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 187, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930