Nid oes pleser, nid oes tegan

Iesu, nid oes terfyn arnat Nid oes pleser, nid oes tegan

gan William Williams, Pantycelyn

Gwyn a gwridog yw fy Arglwydd
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

186[1] Rhinweddau Enw Iesu
87.87. 47.

1 NID oes pleser, nid oes tegan,
Nid oes enw mewn un man,
Er ei fri a'i holl ogoniant,
Fyth a lesia i'm henaid gwan,
Ond fy Iesu:
Ef ei Hunan yw fy Nuw.

2 Mae deng myrddiwn o rinweddau
Dwyfol yn ei enw pur;
Yn ei wedd mae tegwch ragor
Nag a welodd môr na thir,
A'i gyffelyb
Chwaith ni welodd nef y nef.

3 Mae E'n maddau beiau mawrion,
Mae E'n caru yn ddi-drai,
A lle caro, mae ei gariad
Yn dragwyddol yn parhau:
Nid oes terfyn
Ar ei 'mynedd, ar ei ras.

4 Ynddo mae afonydd mawrion
O ffyddlondeb ac o hedd;
Er fy mwyn dioddefodd angau,
A gorweddodd yn y bedd,
Fel y gallwn
Fynd i mewn i'r ddinas bur.

William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 186, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930