Iesu, nid oes terfyn arnat
← Pwy yw Hwn sy'n rhodio'r tonnau | Iesu, nid oes terfyn arnat gan William Williams, Pantycelyn |
Nid oes pleser, nid oes tegan → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
185[1] Cyflawnder Crist
88. 88. D.
1 IESU, nid oes terfyn arnat,
Mae cyflawnder maith dy ras
Yn fwy helaeth, yn fwy dwfwn,
Ganwaith nag yw 'mhechod cas:
Fyth yn annwyl
Meibion dynion mwy a'th gâr.
2 Mae angylion yn cael bywyd
Yn dy ddwyfol nefol hedd,
Ac yn sugno'u holl bleserau
Oddi wrth olwg ar dy wedd;
Byd o heddwch
Yw cael aros yn dy ŵydd.
3 Ti faddeuaist fil o feiau
I'r pechadur gwaetha'i ryw;
Arglwydd, maddau eto i minnau—
Ar faddeuant 'r wyf yn byw:
D'unig haeddiant
Yw 'ngorfoledd i a'm grym.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 185, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930