Pwy yw Hwn sy'n rhodio'r tonnau

Chwi, eneidiau, pam y crwydrwch Pwy yw Hwn sy'n rhodio'r tonnau

gan William Nantlais Williams (Nantlais)

Iesu, nid oes terfyn arnat
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

184[1] Crist ar y Môr
87.87.

1 Pwy yw Hwn sy'n rhodio'r tonnau,
Drwy'r ystorom ar ei hynt?
Dyma Lywydd y dyfnderau,
Dyma Arglwydd mawr y gwynt.

2 Er i oriau'r nos ei gadw
Ar y mynydd gyda'r Iôr,
Gŵyr am deulu'r tywydd garw,
A'i rai annwyl ar y môr.

3 Os yw gwedd ei ymddangosiad
Yn brawychu'r gwan eu ffydd,
Mae ei lais fel diliau cariad,
Mae ei wên fel bore ddydd.

4 Llywodraethwr mawr y moroedd,
A gostegwr ofnau'r fron,—
Edrych eto i lawr o'th nefoedd,
Gwêl yr eiddot ar y don.

William Nantlais Williams (Nantlais)


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 184, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930