Hynafiaethau Edeyrnion/Gruffydd ab Cynan
← David Hughes (Eos Ial) | Hynafiaethau Edeyrnion gan Hugh Williams (Hywel Cernyw) |
Owen Fychan → |
GRUFFYDD AB CYNAN, er ei eni yn yr Iwerddon, (yr hyn a gymerodd le tua dechreu yr unfed ganrif ar ddeg), sydd, o herwydd ei gysylltiad uniongyrchol mewn blynyddau dyfodol â'r rhanbarth hwn, yn haeddu cofnodiad yma. Yr oedd yn enwog fel rhyfelwr a thywysog yn Ngwynedd, a'i fri yn ddolur llygaid i'w elynion. Cyfeiriwyd mewn rhan arall o'r llyfr hwn at ei fradychiad anfad gan Meirion Goch yn Rug, ger Corwen, drwy yr hyn y trosglwyddwyd ef i garchar Caerlleon. Darfu iddo ddwywaith lwyddo i ymlid byddinoedd cedyrn Gwilym Goch (William Rufus) o Gymru i chwilio am nodded yn eu gwlad eu hunain. Yr oedd yn nodedig hefyd am ei nawdd i feirdd a llenorion. Yr oedd yn ddigon gwladgarol i wneud ymdrech egniol i adfywio a gloywi yr awen Gymreig, ac yn ddigon call i ddwyn gwyr enwog or Iwerddon i'w gynorthwyo yn y gorchwyl. Nid oedd felly mor ddall yn ei wladgarwch nes ei atal i sylwi ar ragoriaethau gwledydd eraill. Yr oedd hyny yn rhinwedd canmoladwy ynddo. Ei arwyddair, debygid, oedd, "Croesaw i'r goleuni o ba gyfeiriad bynag y daw." "Cymdeithion gwahanredol a ddywedynt ei fod yn wr cymedrol ei faint, â gwallt melyn amo, ymenydd gwresog, a wyneb crwn da ei liw; llygaid mawr gweddus, ac aeliau teg, barf hardd, mwnwgl (gwddf) crwn, a chnawd gwyn, ac aelodau grymus, a bysedd hirion, ysgeiriau union, a thraed teg; cywraint oedd, a hyawdl mewn amrafaelion ieithoedd; boneddig oedd yntau, a thrugarog wrth ei giwdawd (ei genedl), creulon wrth ei elynion, a gwychaf gwr mewn brwydr."—Gwel ei "Fuchedd."