Hynafiaethau Edeyrnion/Owen Fychan
← Gruffydd ab Cynan | Hynafiaethau Edeyrnion gan Hugh Williams (Hywel Cernyw) |
Owain Gwynedd → |
OWEN FYCHAN, yr hwn a adnabyddir yn gyffredin wrth yr enw Owain Glyndwr, oedd fab i Gruffydd Fychan ap Gruffydd o'r Rhuddallt, ap Madog Fychan ap Gruffydd ap Madog ap Gruffydd Maelawr, ap Meredydd ap Bleddyn ap Cynfyn. Ei fam oedd Helen, merch Thomas ap Llywellyn, yr hwn a briododd Elinor Goch. Dengys Gwallter Mechain, drwy gynllun achyddol cywrain, ei fod yn disgyn trwy ei dad o dylwyth tywysogol Powys:—
"Bleddyn ap Cynfyn bob cwys,
Ei hun br'oedd hen Bowys;"
ac o du ei fam o Rhys ap Tewdwr, a Gruffydd ap Cynan, dan sefydlydd llwythau brenhinol Deheubarth a Gwynedd. Ganwyd Owain Glyndwr yn y flwyddyn 1364, naill ai yn Nglyndyfrdwy, yn mhlwyf Corwen, neu ynte yn Sycharth, yn mhlwyf Llansilin. Aeth saith dinas i ymryson am yr anrhydedd o fod yn fan genedigaeth Homer, ac felly dadleuir rhwng y ddau le hyn fel man genedigaeth yr arwr Cymreig. Yn mhen blynyddau lawer ar ol hyny, taenwyd chwedlau rhyfedd am ddygwyddiadau synfawr wedi cymeryd lle ar enedigaeth Owain. Gafaelodd y bardd mileneidiog Shakespeare yn y traddodiadan hyn, ac yn y ddrama ardderchog Henry IV. dywed, gan roddi y geiriau yn ngenau "Glendower:"—
"At my nativity
The front of heaven was full of fiery shapes
Of burning cressets, and at my birth
The frame and huge foundations of the earth
Shak'd like a coward:
The goats ran from the mountains, and the herds
Were strangely clamorous to the frighted fields;
These signs have marked me extraordinary,
And all the courses of my life do show
I am not in the roll of common men."
Cyfeithir y rhan ddiweddaf yn Hanes y Brytaniaid a'r Cymry fel hyn :—
"Ar fy ngenedigaeth
Yr oedd wyneb nen yn llawn o ddelwau tanllyd:
Rhuthrai'r geifr o'r bryniau, a'r deadelloedd
A ddadyrddent yn ddychrynedig yn y meusydd;
Dynodai'r arwyddion hyn fi fel un hynod,
A phrawf holl yrfa'm bywyd mai felly'r wyf,
Ac nad wyf fi ar lechres gwŷr cyffredin."
Cafodd ddygiad i fyny fel ag oedd yn gweddu i fab pendefig, a gosodwyd ef i ddysgu y gelfyddyd gyfreithiol, nid er mwyn bywoliaeth, mae'n debyg, ond er mwyn dysgyblaeth feddyliol, a mantais i'w fywyd yn ol llaw. Y mae Shakespeare braidd yn hoff o wawdio dull y Cymry o siarad Saesonaeg, fel y rhydd eiriau chwithig yn ngenau Syr Hugh Evans, yr hen offeiriad Cymreig, ac y gwna i Fluellen (Llywelyn), y milwr Cymreig, alw Alexander Fawr yn "Alexander the pig," &c.; ond rhydd iaith gywir a choeth yn ngenau y pendefig Glendower, a gesyd ef i ddweyd wrth Hotspur:—
"Medraf siarad Saesonaeg, Syr, cystal a chwithau,
Canys dygwyd fi i fyny yn y llys Seis'nig.
Nid oes genym ddim hanes credadwy arall, hyd y gwyddom, am ein gwron hyd ei briodas. Ei ddewisedig wraig oedd Margaret, merch Syr David Hanmer, o Hanmer, yn sir Fflint. Os ydym i gredu fod Iolo Goch yn dweyd ffaith wirioneddol, ac nid yn llechu yn nghysgod rhyddid y bardd i orliwio, yr oedd y foneddiges hon yn ymyl perffeithrwydd o ran ei chymeriad:—
"A gwraig orau o'r gwragedd,
Gwyn y myd o'i gwin a i medd;
Merch eglur 11in marchoglyw,
Urddol hael o reiol ryw."
Yr oedd gan Owain dyaid o blant, y rhai hefyd a ganmolir gan y bardd. Ymddengys fod Llys Owain yn Sycharth yn hynod am ei ardderchogrwydd a'i urddas. Dyma ddarluniad o hono gan y bardd a enwyd:-
"Tai Napl"[1] ar folt deunawplas,
Tai nawplad fold deunawplas,
Tŷ pren glân mewn top bryn glas.
Ar bedwar piler eres
Ei lys ef i nef yn nes.
Ar ben pob piler pren praff,
Llofft ar dalgrofft adeilgraff,
Ar pedair llofft, o hoffter,
Ynghyd gydgwplws lle cwsg cler.
Aeth y pedair disgleirlofft,
Nyth lwyth teg iawn, yn wyth lofft.
To teils ar bob tŷ talwg,[2]
A simnai lle magai mwg.
Naw neuadd gyfladd gyflun,
A naw wardrob ar bob un.
Siopau glân, gwlys gynnwys gain,
Siop[3] lawndeg fel Siop Lundain.
Croes eglwys gylchlwys galchliw,
Capelau a gwydrau gwiw.
Pob tu'n llawn, pob ty'n y llys,
Perllan, gwinllan, gaer wenllys.
Parc cwning[4] meistr pôr cenedl,
Erydr a meirch hydr mawr chwedl.
Garllaw'r llys, gorlliwio'r llall,
Y pawr ceirw mewn parc arall.
Dolydd glân gwyran[5] a gwair,
Ydau mewn caeau cywair.[6]
Melin deg ar ddifreg ddŵr,
A'i golomendy gloyw maendwr.
Pysgodlyn, cudduglyn cau,
A fo rhaid i fwrw rhwydau;"
mewn nodiad ar y Cywydd hwn: "Mae y 'Bryn glas,' ar dop yr hwn y safai y ty pren glan, yn cael ei adnabod hyd heddyw. Mae olion y pysgodlynoedd i'w canfod, y parc, a'r felin, ond eu bod yn rholdy a phandy erbyn hyn; ac y mae y ty cynswllt yn cael ei alw Pentre'r cwn o hyd eto. Ond gan mai ty pren ydoedd, mae pob olion o'r adeilad wedi llwyr ddiflanu er's oesoedd bellach." Mae traddodiad yn ardal Glyndyfrdwy hefyd fod hen balas Owain yno yn gladdedig yn "Pwllincyn"—Pwll llynclyn (?), yn agos i'r Mound, sef y domen isaf o'r tair sydd rhwng Corwen a Glyndyfrdwy. Ceir yr enwau Parc, a Llidiart y Parc, yn yr ardal o hyd, ond nid oes garw cyflymdroed i'w weled bellach, os buont yma fel yn Mharc Sycharth—"Pawr ceirw mewn parc arall." Tybiwn mai nid anmhriodol yn y fan hon fydd dyfynu y llinellau canlynol o waith y bardd medrus Iorwerth Goes Hir, y rhai oeddynt fuddugol mewn cyfarfod llenyddol a gynelid yn Llansantffraid:—
"Ar lanerch dlos lle heibio rhed
Y Dyfrdwy ar el hynt,
Fe saif hen olion ar ei glan,
Gweddillion amser gynt:
Hen lys traddodiad noda'r fan
Ynglyn a'r enwog wr,
Gan ddweyd mai dyma garchar gynt
Hon arglwydd dewr Glyndwr.
"Hen lafar benill ddaeth i lawr
Ar dafod llawer oes,
Gan adrodd hen ddygwyddiad fu,
I ni fel hyn y rhoes:
Tri chant neu fwy o flwyddi'n ol
Aeth Dyfrdwy fawr ei naid,"
Yn un o'i gorlifladau gynt,
'Ag Eglwys Llansantifraid."
"Gerllaw y carchar safai hon,
Lle 'nawr mae gwely'r lli;
A chwery y brithylliaid yn
Lle bedd ein tadau ni;
Tyst golofn ydyw ef o'r fan,
Hwnt, hwnt, i ddydd fy nhaid,
Y safai yn yr amser gynt
Hen dreflan Llansantffraid.
"O fewn dy furiau, garchar hen,
Bu'n gaethion wyr o fri;
Traddodiad wel yr Arglwydd Grey
O fewn dy furiau di;
A llawer tost bendefig balch,
A llawer grymus wr,
Arweiniwyd i'ch gynteddau gan
Alluog law Glyndwr.
"Os aeth ei gapel gyda'r lli,
Os aeth el lys yn llyn,
A'i her domenydd gwylio, fel
Galarwyr yn y glyn:
Goroesodd yr hen garchar llwyd
Gadernid llawer tŵr,
A dwg i ni ryw gofion hoff
O arwr mawr, Glyndwr."
Ond er mor gysurus y gallasai Owain dreulio ei amser yn ei
balasau, ac yn mwynhau ei etifeddiaethau, credai ef fod dyledswydd yn galw arno ddadweinio y cleddyf, a dyfod allan yn
rymus dros anrhydedd ei genedl. Yr oedd yr iaith Gymraeg yn
cael ei siarad y pryd hwnw "a'r afon Gaer hyd afon Gwy,"
a phob ymdrech i'w lladd wedi profi yn aneffeithiol. Yr achlysur
i dynn egnion milwrol Owain allan oedd, cweryl a gyfododd
rhyngddo a Reinallt, Arglwydd Grey o Rhuthyn, yn nghylch
llain o dir o'r enw Croesau, rhwng Glyndyfrdwy a Rhuthyn. Yr
oedd Owain wedi enill cyfraith ar y mater yn amser Richard II.,
ac felly cadwai Reinallt lid byw yn ei fynwes tuag ato. Pan
benderfynodd Henry IV. gychwyn allan mewn cadgyrchiad yn
erbyn Ysgotland, yn y flwyddyn 1400, anfonodd drwy Grey wys,
a gwahoddodd i Glyndwr ymuno gyda barwniaid eraill yn yr
osgordd. Cadwodd y bradwr mewn modd bwriadol y wys hon
am cyhyd o amser fel nad oedd yn ddichonadwy i Owain ufuddhau. Y canlyniad fu i'r anufudd, fel y tybid ef, gael ei gyhoeddi
yn fradwr, a'i feddianau yn fforfed! Rhoddodd hyn gyfleusdra
i'r digofaint oedd wedi hir groni yn mynwes ein gwron at y brenin
i dori allan yn rhyferthwy. Cynullodd nifer o Gymry dewrion
ac aethant yn fintai er mwyn adenill y tiroedd a anrheithasid.
Fel hyn torodd allan yn raddol wrthryfel cyhoeddus, a lluoedd
o bob parth a ddeuent allan yn ewyllysgar i wisgo arfogaeth, ac
i ymladd dan luman "Tywysog Cymru," fel yr ymhyfrydent alw
Glyndwr.
Tybir mai ar Gaer Drewyn, yn agos i Gorwen, lle y buasai gwersyllfa Owain Gwynedd yn flaenorol, yr oedd gwersyllfa Glyndwr y pryd hwn. Ond yn fuan yr oedd ganddo amryw wersyllfaoedd eraill mewn gwahanol barthau o Gymru, a chymerodd ran mewn brwydrau lawer na chaniatai gofod i ni eu holrhain yn y cylch hwn. Llechai weithiau yn nghalon bryniau Eryri, bryd arall cawn ef ar goryn balch Plumlumon, drachefn ar wastadedd y Faelor Seisnig, ac wedi hyny yn nghanol Ceredigion. Ymosododd yn ddiarbed ar lawer o gestyll a geid yn Nghymru perthynol i'r Saeson, a llwyddodd i ddinystro rhai, a gosod gwarchodwyr yn y lleill.
Dywedir fod pob peth yn gyfreithlon mewn rhyfel, ac ymddengys fod gan lawer o'r rhai sydd yn selog dros y cleddyf gydwybodau digon ystwyth i gredu unrhyw beth. gellir cyfiawnhau llawer o ymddygiadau Glyndwr yn ei gadgyrchoedd, ond mae yn amlwg ddigon nad oedd y Saeson fymryn gwell, beth bynag. Yr oedd cryn lawer o gyfrwysdra yn nodweddu gweithrediadau ein gwron, ac nid yw yn annhebygol nad oedd ef ei hun, er mwyn llwyddiant ei arfau, yn ceisio dylanwadu ar ei filwyr, ac ar y byddinoedd estronol, fod yn gweithredu dan ddylanwad swyngyfaredd, a'i fod mewn cynghrair gyda deiliaid y byd ysbrydol. Fel y dywed Bardd Avon—
"Where is he living?—clipp'd in with the sea
That chides the banks of England, Scotland, Wales,
Which calls me pupil, or hath read to me;
And bring him out that is but woman's son
Can trace me in the tedious ways of art,
And hold me pace in deep experiments;
I can call spirits from the vasty deep."
Ac y mae yn bur sicr fod llawer nid yn unig yn credu y gallai "alw ysbrydion o'r dyfnder," ond hefyd y deuent i fyny pan y galwai arnynt. Bu ymddangosiad y seren wib yn 1402 yn llawer o fantais iddo. Nid oedd Whitaker's Almanac yn d'od allan y pryd hwnw i oleuo trigolion y wlad, nac hyd yn nod y Cyfaill gan Sion Robert Lewis; ac yr oedd y werin hygoelus yn hawdd iawn eu perswadio i gredu unrhyw beth. Bu Iolo Goch yn ddiwyd i wneud y goren o'r amgylchiad—
"Am eu lliw y mae llawer
O son am anian y ser,
Er eu sud eres ydynt
O radd nef arwyddion y'nt.
"Ond y seren eleni
Y sydd o newydd i ni,
Gem yn arwain in' gymod
Can Dduw glan, gwn iddi glod:
Uchel y mae uwchlaw Mon,
Yn ngolwg yr angylion;
Duw a ddyg fo'n diddigia
Gwynedd i gael diwedd da."
Ymddengys fod Owain yn gallu bod yn benderfynol iawn pan y tybiai fod angen am hyny, ac hefyd yn gallu cadw ei deimlad milwrol dan gudd weithiau, gan ymheulo yn mwyniant lletygarwch a charedigrwydd. Dodwn yma ddau draddodiad am dano sy'n egluro hyn. Y cyntaf a gyfeiria at ei ymddygiad efo ei gefnder Hywel Sele o Nannau:-"Ar ol hir gweryl fod rhwng y ddau, ceisiodd abad Cymer, gerllaw Dolgellau, eu cymodi, trwy eu dwyn at eu gilydd i gydymddyddan yn wladgarol; ac ymddangosai iddo lwyddo yn ei gais rhesymol. Aeth Owain, ar anogaeth yr abad, i lys Hywel gyda bwriad heddychol. Fel yr oedd y ddau yn rhodio yn y parc, Owain, with weled ewig yn pori gerllaw, a ddywedodd yn ddifeddwl drwg wrth Hywel, yr hwn a ystyrid y saethydd goreu yn ei oes, 'Dyna i chwi nôd ardderchog,' Yna tynodd Hywel yn ei fwa, gan gymeryd amo anelu yr ewig; ond trodd yn ddisyfyd a gollyngodd y saeth at galon Glyndwr, yr hwn, yn ffodus, a wisgai hurig ddur dan ei ddillad, ac am hyny ni chafodd niwaid. Ffyrnigodd Glyndwr gymaint oblegid y brad yma fel y rhwymodd Hywel yn y fan; ac wedi llosgi ei dŷ, cludodd yntau ymaith na wyddai nebi ba le. Ymdrechodd câr iddo, a'i enw Gruffydd ab Gwyn o'r Ganllwyd, yn Ardudwy, ei achub o law Glyndwr; ond gorchfygwyd yntau, ac wedi lladd llawer o'i wŷr, llosgwyd dau o'i dai, sef y Berth- lwyd a'r Cefn Coch. Yn mhen deugain mlynedd wedi hyny cafwyd ysgerbwd dyn mawr, o fath Hywel, yn ngheudod hen dderwen, lle y bwriwyd ef gan Glyndwr, fel y tybid, yn wobr am ei fradwriaeth. Yr oedd adfeilion hen dy Hywel Sele i'w gweled yn mharc Nannau yn amser Pennant, yn un pentwr o farwor a lludw." (Pennant's Tours, v. iii., p. 336). Yr ail a'i gesyd allan mewn agweddiad arall ar ei gymeriad. Dywedir iddo dramwyo y wlad unwaith yn null gwr boneddig dyeithr:- "Yn ol y chwedl hòno, tramwyodd Owain y wlad yn null gwr boneddig dyeithr, er mwyn gwybod tuedd y trigolion, heb ond un cyfaill gydag ef, yn rhith gwas iddo; a chan nad dyogel neb dan arfau yr amser hwnw, aeth y ddau'n anarfog at gastell Syr Lawrence Berclos (Lawrence Berkrolles), a gofynodd Owain am lety noswaith, yn Ffrangeg, iddo ef a'i gyfaill; cael hyny yn rhwydd iawn, a chael croeso mawr a goreuon o bob peth yn y castell; a chan mor foddlawn oedd Syr Lawrens i'w gyfaill, bu'n daer arno aros rhai diwrnodau gydag ef; a dywedyd ei fod ar fyr o ddyddiau yn dysgwyl gweled Owain Glyndwr yno; am ei fod wedi danfon allan ei holl ddeiliadon a'i weision, a llawer eraill o ffyddloniaid iddo, yn nghyrch pob rhan o'r wlad, yn wŷr twng iddo i gyd, i ddala Owain, yr hwn a glywsai fod wedi dyfod i'r rhanau byny o Gymru; a'i fod hefyd dan dwng ei hunan i roddi gwobrwyon anrhydeddus i'w wŷr, os hwy a ddelaint âg Owain Glyndwr yno, y naill neu'n fyw neu'n farw. 'Da iawn,' ebai Owain, 'y byddai diogelu'r gwr hwnw, a bod gallu yn rhywrai i wneuthur hyny.' Gwedi bod yn nghastell Syr Lawrens bedwar diwrnod a thair noswaith, yn fawr ei barch a'i roeso, meddylws Owain mai call fyddai myned i ffordd; a chan roi ei law yn llaw Syr Lawrens, dywedyd wrtho fel hyn:—'Y mae Owain Glyndwr yn gâr cywir, heb na digofaint, na brad, na thwyll yn ei galon, yn rhoi llaw yn llaw Syr Lawrens Berclos, ac yn diolch iddo am y groeso, a'r caredigrwydd, a'r syberwyd boneddigaidd gafodd ef a'i gyfaill, yn rhith gwas iddo, yn ei gastell; a chan addaw ar law yn llaw, a llaw ar galon, na ddaw byth ar feddwl iddo ddial. yr hyn a feddyliodd Syr Lawrens Berclos iddo; ac nas goddefai i hyny fyw ar ei gof, nac ar wybod iddo, hyd y bai yn ei allu, yn meddwl ac ar gof nebun o'i geraint a'i gymhlaid:' ac ar hyny, Owain a'i was a gyrchasant eu ffordd, a myned ymaith." (Hanes y Brytaniaid a'r Cymry, tudal. 285, 286).
Bu Owain farw Medi 20, 1415.—
"Mil a phedwar cant nid mwy—cof ydyw
Cyfodiad Glyndyfrdwy;
A phymtheg praff ei safwy,
Bu Owain hen byw yn hwy."
Pa le y terfynodd ei einioes, a pha le oedd y llecyn gafodd dder byn ei ran farwol, sydd dra anhysbys. Rhai a ddywedant mai yn sir Henffordd, yn nhy un o'i ferched, y tynodd yr anadl olaf. Eraill a ddywedant mai yn Nglyndyfrdwy y gosodwyd ei gorff i orwedd yn y pridd. Terfynwn ein cofnodion am dano yn ngeir— iau Hanes y Brytaniaid a'r Cymry, Dos. IV., tudal. 298:—
"Ymddengys i ni, ar y cyfan, nad oes neb, yn ystod holl hanes ein cenedl, yn deilwng o edmygedd uwch nag Owain Glyndwr. Efe ydyw'r unig wron Cymreig a ymddyrchafodd yn ysbaid ychydig fisoedd i radd tywysog pendefigol, ac a adferodd annibyniaeth a hen derfynau ei wlad. Er bod ei bobl wedi eu darostwng er's mwy na chan' mlynedd gan en treiswyr, ac felly'n llwyr anghyfaddas i enill llwyddiant milwrol, eto mynych yr arweiniodd efe hwy dros y terfynau, ac y gorfododd i luoedd mawrion encilio o'i flaen, er iddynt gael eu cefnogi gan bresenoldeb eu brenin coronog. Tra yr oedd yn amddifad o adnoddau ond a grewyd ganddo ei hun, er hyny enillodd oddiar ei elynion, neu cafodd gan ei gynghreirwyr, drysorau, arfau, milwyr, ac amddiffynfeydd, trwy gyfrwng y rhai y llwyr drechodd gyfrwysder a galluoedd yn nod Henry IV. ei hunan, a bu gyfartal i athrylith filwrol Henry o Fynwy; a hèriodd holl allu Lloegr yn ddiarswyd. "Y mae ei glod fel swyngyfareddwr, a'r gred mai efe oedd gwrthddrych yr hen ddaroganau Cymreig, yn ddigon i brofi y dylanwad hynod a gynyrchai ei athrylith goethedig a nerthol dros feddwl ei gydoeswyr, yn nghydag effaith rymus ei lwyddiant tra rhyfeddol. A mwy fyth, er ei glod, tynerid ei wroldeb gan ddoethineb dyngarol; cedwid ei uchelgais heb ei lychwino gan hunanoldeb; ac nis gellir profi ddarfod iddo erioed, yn yr un o'i ymdrechiadau gwladol, gynyg aberthu annibyniaeth ei wlad er mwyn dyrchafu ei hun a'i deulu, yr hyn nis gellir ei ddywedyd ond am ychydig iawn o dywysogion a rhyfelwyr. Am hyny, naturiol ydyw i bob Cymro diledryw ymfalchio mewn arwr o'i genedl ei hun y methodd gorchfygwyr y Saxoniaid, yr Ysgotiaid, y Ffrancod, a llawer cenedl arall, ei ddarostwng dan iau eu gormes; a'r hwn, mewn gwirionedd, oedd y Cymro olaf, o waed coch cyfan, a fu'n dywysog Cymru oll."
Nodiadau
golygu- ↑ Napl-(Naples).
- ↑ Talwg-Tal-gwe, uchelfalch. Ty uchel a tho ceryg yn gyferbyniol i'r bythod isel a tho gwellt.
- ↑ Ai nid "siap (shape) landeg," ddylai fod yma?
- ↑ Cwning-Cwning-gaer, (a rabbit warren)
- ↑ Gwyran-Porfa fras.
- ↑ Rhaid fod lle ardderchog iawn yn Sycharth y pryd yr oedd Owain yn ei rwysg a'i gyfoeth. Yr oedd ei lys, ei eglwys, a'i diroedd o gylch y llys, mewn trefn odidog.