Hynafiaethau Edeyrnion/John Jones (Sion Brwynog)
← Peter Llwyd | Hynafiaethau Edeyrnion gan Hugh Williams (Hywel Cernyw) |
Tarddiad Enwau → |
JOHN JONES (Sion Brwynog), yn blodeuo tua diwedd y ganrif o'r blaen. Dywed J. Roberts, Llandrillo, mai yn agos i'r Ddwyryd yr oedd yn preswylio. Gwelir cywydd i'r Haf o'i waith yn Almanac Cain Jones am 1792. Ceir cryn gywreinrwydd yn nodweddu y cywydd, megys y gair haf yn terfynu bob yn ail linell ar ei hŷd, a chynwysa ambell darawiad hapus. "Gyda Gwen y rhodienaf, rhy fyr fydd hirddydd haf," meddai. Gobeithio fod yr hen frawd, er na wn nemawr o'i hanes, wedi cael yn ol ei ddymuniad, "yr ail fyd yn hyfryd haf."