Hynafiaethau Edeyrnion/Tarddiad Enwau

John Jones (Sion Brwynog) Hynafiaethau Edeyrnion

gan Hugh Williams (Hywel Cernyw)

Eisteddfodau Edeyrnion

PENOD III.
TARDDIAD ENWAU.

RHODDODD Meirion ab Tybiawn ab Cunedda Wledig ei enw ar Meirionydd. I Edeyrn y rhoddwyd Edeyrnion, a dyna sydd yn cyfrif am enw y cwmwd hwn. Gyda golwg ar yr enw Dyfrdwy mae amrywiol farnau yn ffynu. Ymddangosodd dau lythyr dyddorol ar y mater yn y Bygones, perthynol i'r Oswestry Advertizer, yn ddiweddar, y rhai a ddodwn i mewn yma, gan ddefnyddio y cyfieithiad a ymddangosodd yn ngholofn "Cymru Fu" yn y. Genedl Gymreig. Yr ysgrifenwyr ydynt y Canon Williams, awdwr yr Eminent Welshmen, a'r Parch, R. Jones, Rotherhithe, golygydd gwaith Goronwy Owain:—

"DYFRDWY (Dee).—Mae golygydd Y Cymrodor, tudal. 199, yn amheu y tarddiad o enw yr afon hon, yn y Gossiping Guide to Wales, o 'Dwfr du,' ac yn hòni yn awdurdodol ei fod yn tarddu o dwfr, a dwy neu dwyfol. Megys yr wyf yn meddwl mai myfi a gynygiodd y tarddiad cyntaf, felly yr wyf eto yn myntumio ei fod yn gywir, a rhoddaf fy rhesymau am dano. Nis gallaf dd'od o hyd i dwy (dwyfol) mewn unrhyw eiriadur, ac y mae pob geiriadur o'r iaith Gymraeg genyf. Y rhai penaf ydynt Salesbury, Dr. Davies, Edward Llwyd, a Dr. Owen Pughe. Nid ydynt hwy yn dweyd dim mai 'dwyfol' yw 'dwy,' er fod Dr. O. Pughe yn rhoddi 'Dyfrdwy, y dwfr dwyfol,' yr hyn nid yw yn ddim ond haeriad, ac oddiyma y cafodd Y Cymrodor ei wybodaeth. Nid oes, pa fodd bynag, ddim awdurdod dros y tarddiad hwn. Gelwir yr afon bob amser gan breswylwyr presenol ei glànau yn 'Dwrdu,' neu y Dwfr du, ac enw tra dysgrifiadol o honi ydyw. Felly y gelwid hi yn amser ein gwron Cymreig, yr hwn a ysgrifenai ei enw Owen de Glendourdy. Yr Hen Gymraeg am ddwfr ydoedd dubr, a dobr, a'r Hen Wyddelaeg oedd dobur. Yna trwy feddaliad rheolaidd b i bh, dobhr yn Gymraeg a dobhar yn y Wyddelaeg; yn awr, ynganid bh fel v, oddiwrth yr hyn y daeth dwfr yn Gymraeg, a thrwy gwtogiad dour neu dur; a dur yn y Wyddelaeg. Dobhra, dur, yn Gaelaeg, a dour yn y Fanawaeg. Hen ffurf du, yn y Gymraeg a'r Wyddelaeg, oedd dub, a dyna y ffurf a arferai yr Hen Frutaniaid pan oresgynasant yr Iwerddon. Cedwir y ffurf yn ei burdeb yn Dublin, sef Dulyn yn ol y Cymraeg presenol. Aeth y dub Gymreig a Gwyddelig drwy y treigliad arferol i dubh, a daeth y llythyren olaf, yn dwyn sain , yn aneglur, megys y gwelir yn tre am trev, plwy am plwyv, a lluaws o engreifftiau eraill, a'r diwedd fu ei gadael allan yn hollol. Mae afon fawr yn yr Iwerddon a elwir Blackwater neu Dwr—du. Mae dwy afon yn Ysgotland a elwir Dee, a dwy eraill a elwir Dye, ac un arall Duv neu Duff, oddiwrth eu lliw; a chadarnheir hyn oddiwrth ddwy afon yn swydd Ayr a elwir Dow-uisk, unig ystyr yr hyn yw Dwfr du, heb unrhyw gyfeiriad at ddwyfoldeb. Yr enw Rhufeinig ar y ddwy Dee oedd Deva, ac oddiwrth yr enw hwn y mae yn ddiau genyf y cafwyd dwy yn Gymraeg, gan fod wy yn air cyfystyr â'r Lladin e, fel y mae yn amlwg oddiwrth y geiriau Cymraeg rhwyd, cwyr, eglwys, &c., oddiwrth rete, cera, ecclesia. Mae y syniad o ddwyfoldeb yn nglŷn â'r Ddyfrdwy yn perthyn i gyfnod cymhariaethol ddiweddar, megys i amser Spencer a Drayton. Yr awdwr boreuaf a ddyfynir yw Giraldus Cambrensis, a'r cwbl a ddywed ef yw-Trigolion y parthau hyn a haerant fod dyfroedd yr afon hon, y Douerdwy, yn newid eu rhydau bob mis; ac fel y tueddo yn fwy tua Lloegr a Chymru, hwy a allant ddarogan gyda sicrwydd pa genedl fydd yn llwyddianus neu yn anffodus yn ystod y flwyddyn.'-R. WILLIAMS, Rhydycroesau.

"Wele yn canlyn atebiad y Parch. Robert Jones, a gwelir mor ddeheuig y mae yn cyfarfod â'r holl wrthddadleuon:-'Mae Canon Williams o Rydycroesau yn gwadu cywirdeb fy nharddiad o'r gair 'Dyfrdwy.' Myn ef mai ystyr yr olddod dwy yw 'du' ac nid 'dwyfol' neu 'gysegredig,' megys yr hacrais i yn y Cymrodor; a dymuna ef gael clod am y darganfyddiad. Haera yn mhellach mai oddiwrth Dr. Owen Pughe y cefais i fy ngwybodaeth ar y mater. Mae efe yn gyfeiliorus ar bob pen. Wrth drafod ei haeriadau, mi a'u cymeraf o'u gwrthol. Nid wyf hyd yr awr hon wedi ymgynghori â'r geiriaduron a nodir ganddo. Nid efe, ychwaith, yw darganfyddwr y ddamcaniaeth mai ffurf arall ar du yw dwy. Os try efe i Pennant's Tours in Wales: Llundain, 1810, cyf. ii., tudal. 215, efe genfydd fod Pennant, ganrif yn ol, yn dadleu yn erbyn y tarddiad neillduol hwnw: diau ei fod wrth wneud hyny yn dadleu yn erbyn y tarddiad a dderbynid yn gyffredin yn ei oes ef. Os trown i'r mater mewn dadl, y mae geirdarddiad fy ngwrthwynebydd yr un mor anghywir. Er mwyn gwrthbrofi golygydd Y Cymrodor, y mae efe yn troi i'w eiriaduron, Gresyn braidd ei fod wedi aflonyddu ar yr hyn ag y mae ysgolheigion yn ddiweddar wedi ei ganiatau i'r gweddillion hyn o'r amser a fu. Oddieithr, efallai, gasgliadau cyfyngedig Dafis a Llwyd, ni ddaeth allan o'r wasg erioed lyfrau ag y gellid dibynu llai arnynt. Nid wyf yn dweyd eu bod yn ddiwerth. Buont, ac y maent eto, yn ateb rhyw bwrpas. Ond pan gyfyd unrhyw fater gwir bwysig, nis gellir dibynu ar eu hawdurdod. Er pan ymddangosasant hwy yn y byd, mae y wyddor o ieitheg gymhariaethol wedi dyfod i fodolaeth, a hyny gydag egni sydd yn diffodd y goleuadau llai hyny ger ei bron, er mai ychydig iawn o oleuni sydd yn angenrheidiol i egluro y pwnc dan sylw. Yn awr dwy neu dwyfol yw gwreiddair 'dwyfol,' cysegredig. Y mae yn gyd—darddedig â deva y Sanscrit, dea y Lladin, thea y Groeg, dia y Wyddelaeg, doué y Llydawaeg, a dwyw yr hen Gymraeg neu Frutanaeg. Ceir ef yn gyfansawdd na Gwasdwy, neu Gwasduy fel y mae yn y Record of Carnarvon, ac yn meudwy; ac yn y ddwy engraifft hyn yr ystyr yw 'dwyfol.' Ond gan nad wyf yn chwenych cyhoeddi golygiadau ieithyddol yn ex cathedra, mi a ddyfynaf o awdwr ag y mae ei gyrhaeddiadau ieithyddol yn meddu enwogrwydd Ewropeaidd. Os try Canon Williams i Rhys's Lectures on Welsh Philology, tudal. 325, efe a dderllyn yr hyn a ganlyn:—'The Dee, Deva, probably means the goddess, (that is, in contradistinction to the masculine god); and as the river is still called in Welsh Dyfrdwy or Dyfrdwyf,— the water of the Divinity,' &c. Felly yr ysgrifena. Mr. Rhys. Ond myn y Canon blygu dwy neu dwyf i du er mwyn ategu ei ddamcaniaeth. Mae y geirdarddiad uchod yn cael ei gadarnhau yn yr Archeologia Cambrensis gan ysgrifenydd a ymgyfenwa 'Cereticus,' a gallwn dybio fod ei olygiadau yn cael eu derbyn gan y golygydd, y Parch. D. Silvan Evans, onide nid ymddangosasent yn y cyhoeddiad hwnw. (Cyf. v. o'r 4edd gyfres, tudal. 86). Mae y ffurfiau Dwyf a Dayw (ll., dwyfau a dwywiau) i'w cyfarfod nid yn anfynych, a gwahanol ffurfiau ydynt ar yr enw Duw; ac mewn geiriau fel Dwyf arferiad nid anfynych yw gadael allan yr derfynol with yngan y gair. Oddiwrth dwyf y daw dwyfol megys y ffurfir duwiol oddiwrth Duw. Arferir Dyfrdwy a Dyfrdwyf am yr afon Dee yn yr iaith frodorol. Ond pa beth a ddywed tystiolaethau hanesyddol? Y maent i gyd yn ei erbyn. Ni wna efe gyfrif o Giraldus Cambrensis, fel yn byw mewn oes ddiweddar; ac eto ysgrifenai Giraldus wyth gan' mlynedd yn ol. Drayton a Spencer, er eu bod yn canu yn yr unfed ganrif ar bymtheg, a ystyrir ganddo fel caws llyffant. A oes arno eisieu cyfnod o'r amseroedd cyn y diluw? Dywedir fod y cyfryw gofnodiad i'w gael yn achyddiaeth un o'n tywysogion Cymreig, sef 'Oddeutu yr adeg yma y crewyd y byd!' Mae yn wir nad oes un son am y traddodiad yn ein hen farddoniaeth Gymreig; ond y mae y neb sydd yn gynefin â'r hen feirdd yn gwybod nad ydynt yn ymwneud ond ychydig â chwestiynau dychymygol a chwedlonol o'r fath yma. Pa beth, ynte, yr wyf yn ail ofyn, yw y dystiolaeth hanesyddol a gawn gan yr hen ysgrifenwyr hyn? Cyhoedda Giraldus fod Deverdoeu, yr hyn yn ein hoes ni a fyddai Dyfrdwy neu Dyfrdwyf, wedi ei donio â dwyfoldeb, neu y rhagwybodaeth a'i galluogai i ragfynegi llwydd neu aflwydd i'r Celtiaid neu y Saeson. Michael Drayton, yn y nawfed caniad o'i Polyolbion, a wna i Feirionydd ddadgan gydag ymffrost—

"The pearly Conway's head, as that of holy Dee,
Renowned rivers both, their rising have in me.'

Yn y degfed caniad efe a ddywed:—

'Twice under earth her crystal head doth run;
When instantly again Dee's holiness begun.'

"Yr oedd hanesiaeth neu chwedloniaeth wedi argraffu yr un meddylddrych ar feddwl Spencer. Yn ei amser ef yr oedd yn hen nodwedd i'r afon. Efe a ddywed :—

'And following Dee, which Britons long ygone
Did call divine, that doth by Chester tend,'

"Nid oedd Milton a'i ddysgeidiaeth enfawr heb wybod am ei hanes, pan y llefarai am dir yn yr hwn

'Deva spreads her wizard stream.'

"A pha beth yw iaith ein Bardd Breiniol, yr hwn a gânt mor anwyl ac mor dda ein rhamantau Arthuraidd? A ydoedd efe yn anwybodus yn nghylch chwedloneg a llên gwerin y Celtiaid pan yn canu—

"As the South—west that blowing Bala lake
Fills all the sacred Dee.'

"Yr wyf yn hyderu y bydd i hyd yn nod y sylwadau brysiog hyn argyhoeddi Canon Williams ei fod wedi camgymeryd yn y mater hwn, ac na cheisia efe eto ddinystro geirdarddiad sydd yn gosod ar gof a chadw un o'r tarddodiadau mwyaf dyddorol a rhamantus yn nglŷn â'n gwlad ac a'n hiaith."—GOLYGYDD Y Cymrodor, Ficerdy All Saints, Rotherhithe.

Mae, o leiaf, ddau ddyfaliad arall am darddiad y gair. Un ydyw, y dybiaeth fod y gair yn deilliaw oddiwrth y fan lle y cychwyna mewn dwy ffynon yn mhlwyf Llanuwchllyn. Dyna yr ystyr a geir mewn traddodiad braidd yn gyffredinol yn y plwyf a enwyd. Bu yn gred gan lawer hefyd unwaith mai ystyr y gair yw y drydedd afon. Fel hyn:—Y Gyn-wy (Conwy)—yr afon gyntaf; yr El-wy—yr ail afon; y Dryd-wy—yr hwn a lygrwyd mewn amser yn Ddyfrdwy, Yn y modd hwn yr ydym yn rhy gyfoethog mewn dyfaliadau, nes y mae yn anhawdd penderfynu pa rai i'w gwrthod, a pha un i'w dderbyn. Y mae y dysgedig Pennant yn gwrthod y Dwr—dwy, am nad oedd, meddai ef, yn tarddu o ddwy ffynon; ond ystyriwn bobl Llanuwchllyn yn uwch awdurdod ar fater o'r fath nag estron fel efe, na bu, efallai, erioed yn y fan. Ychydig o gyfathrach oedd rhwng trigolion pen uchaf Penllyn, lle y cychwyna y ffrwd ei rhawd, â gwaelod Edeyrion yn yr hen ganrifoedd, yr hyn, dybiwn, a aiff yn mhell yn erbyn tybied i enw lleol felly gerdded mor bell. Tybiwn mai y peth goreu a allwn ni wneud ydyw gadael y mater i'r darllenydd ei benderfynu, os gall, a dweyd fel esboniad yr hen bregethwr ar "y swmbwl yn y cnawd," mai ein barn ydyw na wyr neb pa syniad sydd yn fwyaf cywir. Nid oes genym un gwrthwynebiad, hyd nes y daw yr afon ei hunan i ddweyd ei bam ar y mater, i'r darllenydd gymeryd ei ddewis.


Nodiadau

golygu