I'r Aifft ac yn Ol/Anturiaethus
← Cairo wedi'r Nos | I'r Aifft ac yn Ol gan D Rhagfyr Jones |
Byd ac Eglwys → |
PENOD XVIII.
❋
ANTURIAETHUS.
ID wyf wedi d'wey'd ond y nesa' peth i ddim eto am y merched a'r gwragedd yn yr Aifft. Gwir nad wyf wedi d'we'yd ond ychydig am neb. Ond gwn y dylase'r boneddigese fod wedi cael y sylw cynta' a'r sylw pena', am eu bod bellach yn arfer ei gael, ac, o ganlyniad, yn ei hawlio y'mhob cylch a safle. Nid yw cyment ag wyf wedi ei dd'we'yd am danynt yn òd o flasus, a rhyw betruso'r wyf sut y cymerant yr hyn fyddaf yn ei dd'we'yd am danynt yn y benod hon. Bid fyno, rhaid ei dirwyn i ben ar ol dechre'.
Mae'r gwragedd Mahometanedd oll yn cuddio'r darn isa' o'u gwynebe â math o hugan, yr hwn a sicrheir y tu ol i'r pen â rhwymyn; sicrheir ef hefyd ar ganol y talcen â darn o fetel gloew. Y ddau lygad yn unig sydd yn y golwg, a sylla'r rhai hyn arnoch yn felancoledd i'w ryfeddu. Mae'r merched ieuenc yn cerdded allan â gwyneb agored; ond gynted y prïodant, yr hyn gymer le'n aml pan nad y'nt ond deuddeg oed, ymneillduant y tu ol i'r llen y sonies am dani, ac nid oes neb yn cael gwel'd eu gwynebe mwy y tu allan i gylch uniongyrchol y teulu. Gorchwyl go beryg' yw syllu mwy na mwy arnynt, yn enwedig os bydd y gwŷr yn digwydd bod gerllaw. Mi glywes am un, oedd a'i gywreinrwydd yn fwy na'i synwyr, fentrodd lygadrythu'n sarhaus i wyneb un o'r gwragedd gwyledd hyn, ac a aeth mor bell ac estyn ei law at y gorchudd. Buasai'n well iddo beidio. Bu raid iddo adel y wlad ar ffrwst mewn canlyniad. Dilynid ef i bob man lle'r ele, a phrin y dïangodd a'i fywyd ganddo ragor na siwrne. Achwynodd ei gŵyn wrth un o gynrychiolwyr awdurdodedig ei wlad; a chynghorodd hwnw ef, ar ol deall yr amgylchiade, i ddychwelyd adre' y cyfle cynta' gaffe. Nid gorchwyl pleserus hyd y'nod y'Nghymru yw tynu gwg y "rhyw deg" arnoch; ond yn y Dwyren y mae yn ymgymeriad difrifol. Cuddiant eu gwynebe rhag dyeithried er yn eu tai eu hunen, ac y'nghanol eu pobl eu hunen.
Ce's achlysur i fyn'd i dri o anedde'r Arabied—un yn Alecsandria, un yn Cairo, ac un yn ymyl y Pyramidie. Cy'myn'd i'r ddau gynta', yr oedd yn rhaid rhoi rhybudd mewn pryd; ac yr oedd hyny'n anfantes i wel'd y gwreiddiol yn ei wreiddiolder. Ond aeth fy ffrind a mine i mewn i'r llall heb ganu'r gloch, yn syth ar ein cyfer. Ac nid anghofiaf yr olygfa. Yr wyf yn meddwl taw Huws oedd hefo mi, ac yr oedd yn ddatguddiad i ni'n dau. Ni ddigiwch wrth destyn y benod pan adroddaf i chwi sut yr ymdarawsom.
'Roedd yr haul mor danbed oddiallan, a'r goleuni mor brin oddifewn, fel y cymerodd ychydig eiliade ini fedru gwel'd ein hamgylchoedd. Bob yn dipyn, fel tomen ludw ar doriad gwawr, daeth i'r golwg y ddynes hagraf a weles yn fy nydd, heb orchudd dros ei gwyneb, ond y synedigaeth hyotlaf yn ei llyged. A'r fath lyged! 'Ro'ent mor fawrion a chrynion a dwy soser dê gymedrol! P'run o honom oedd wedi cael mwya' o ddychryn, ai hi ynte Huws a mine, mae'n anodd d'wey'd. Sut bynag, pan ddeallodd yr hen chwaer ei sefyllfa, trodd ei chefn arnom, a gweles hi wrthi'n prysur wneud rhywbeth â'i dwylo o gwmpas ei phen—yn debyg fel y gweles rai o foneddigese ieuenc Treorci'n maldodi eu gwallt o'r tu ol, mewn trefn i gael allan wrth synwyr y fawd os yw'r gyrlen yn ei lle, a'r pine ar eu gwyliadwrieth! Mi dybies i taw 'molchi oedd y genawes, oblegid 'doedd dim dadl nad oedd hyny'n ddyledswydd a esgeulusid ganddi; ond gynted y gwynebodd ni drachefn, gwelsom taw wedi bod yn gosod y gorchudd i fyny'r oedd. A phe b'asech yn gwel'd y ddau lygad mawr, byw, a duon rheiny oedd yn bwrw tân dros ben y gorchudd, heb eich bod wedi cael cip ar y wyneb yn gyflawn cyn hyny, awn ar fy llw, pe bydde raid, y b'asech yn d'od i'r penderfyniad ei bod yn un o'r merched glanaf yn y byd. Ah! fel y medr y veil dwyllo dyn! Yn siwr i ch'i, mae iddi ei mantes yn y Dwyren. A pha ryfedd fod y dych'mygol mor berffeth y'mysg y Dwyreinwyr, pan mae'r llyged gloewen hyny sy' fel y wenlloer yn 'sbïo arnoch o'r tu ol i'r cwmwl yn pregethu prydferthwch cyffredinol mor onest a hyodl!
Garech ch'i glywed sut fu arnom yn y mwd-gaban wrth draed y Pyramidie? Dïau i'r hen wraig deimlo dïogelwch arbenig y'nghysgod y gorchudd; ac fel milwr wedi codi gwrthglawdd rhyngddo a'r gelyn, dechreuodd danio'n union. Nis gwyddwn beth a dd'wede, ond barnwn wrth ei llyged a'i hoslef ei bod yn trin ei thafod yn erwin. Ac erbyn y cymerwch bobpeth i ystyrieth, 'doedd o ryfedd yn y byd. Dealle fy nghyfell un gair am bob dwsin, a dyfale'r unar-ddeg erill oddiwrth yr un hwnw. Ond bu raid iddi yn y diwedd ymatal i gymeryd ei hanadl; ac yn y saib byrhoedl hwnw, amcanodd Huws dd'we'yd wrthi beth oedd ein neges, taw d'od i wel'd y tŷ y daethom, ac nid ei gwel'd hi. Ac fel prawf ymarferol o hyny, a ystyrie 'fe yn anwrthwynebol, dangosodd iddi ddarn bychan o arian ar ei law.
Mae'n ddrwg genyf orfod d'we'yd yn y fan yma i'r hen dafotreg gamddeall geirie fy nghyfell, a chamddeall cenadeth y darn arian. Hwyrach nad oedd ei Arabeg cystal ag yr arfere dybio ei fod, neu hwyrach fod y darn arian yn rhy fychan; nis gwn am hyny, ond cofiaf y
—————————————
—————————————
canlyniade tra b'wyf byw. Cododd wythod ar ei thôn, nes eich cyfiawnhau i gredu fod ganddi glôch dan bob dant; a chauodd ei dyrne, gan eu chwyfio fel pe b'ai wedi ymdrawsffurfio'n felin wynt. 'Doedd dim posib' cael gair i fewn ar ei ochr. Wrth wel'd Huws y'methu, treieis ine hi'n Gymraeg; ond och fi! yr oedd yr hen iaith fel olew ar y tân, yn peri iddi losgi'n fwy. Erbyn hyn, yr oedd nifer o blant wedi ymgasglu o gwmpas y drws, a haner dwsin o fenywod. 'Roedd yn hawdd gwel'd fod rhein yn deall y cwbl, a rhagor, a chlebrent fel gwydde â'u gilydd.
"Gwell ini gym'ryd y goes," meddwn wrth fy nghyfell, yr hwn oedd wedi ei gythruddo'n fawr am na b'ase'r ddynes yn ei ddeall yn siarad. Mi gyfeiries tua'r drws gyda'r gair, a dilynodd ynte mor barchus ag oedd modd. Ond hyd y'nod wedi ini osod y Sphinx rhyngom â'r lle, yr oedd ei chlôch yn ein clustie'n barhaus. Ar ol cyredd Cairo, adroddasom yr helynt wrth gyfell arall. Wedi chwerthin yn iachus am ein trybini, trodd atom ein dau, ac ebe fe'n ddifrifol:
"Wel, 'roedd yn dda i ch'i nad oedd gŵr y ddynes gartre'."
"Sut f'ase pethe wed'yn?" gofynwn yn gyffrous.
"O," ebe ynte, a'i ddifrifoldeb yn chwyddo, "caech fedd yn y tywod am ddim, a neb i adrodd yr helynt. Mae claddu'n y tywod dan amgylchiade neillduol yn y ffasiwn ffordd yma byth er amser Mosus, pan wnaeth o'r gymwynas hono â'r Aifftiwr 'slawer dydd."
Ein tro ni'n awr oedd chwerthin.
Ond wedi hilio'r cwbl, cawsom taw dyna oedd ein pechod mawr—dala'r
faeden heb ei gorchudd, a chynyg arian iddi os tyne'r gorchudd i ffwrdd
eilweth, er mwyn ini gael syllu ar ei gwyneb glân, a'i thegwch
cynddiluwedd. Dyna fel 'roedd hi wedi esbonio pethe; a dyna lle gadawaf
hi'n awr i ddawnsio ar ei thomen ei hun.