I'r Aifft ac yn Ol/Cairo wedi'r Nos

Cairo wedi'r Dydd I'r Aifft ac yn Ol

gan D Rhagfyr Jones

Anturiaethus

PENOD XVII.

CAIRO WEDI'R NOS.

 GORCHWYL blinedig yw cerdded yno'n hir iawn. Un peth sy'n peri hyny yw, fod y gwres gyment. Peth arall, nid yw'r dynion sy'n myn'd i'r dwyren am dro yn gwneud fawr wahanieth yn eu gwisgoedd: o ganlyniad, teimlant yn fwy oddiwrth y gwres. Temtasiwn i mi oedd gwisgo "mwfflar" yn yr Aifft, yn unig am ei fod yn bechod parod imi y'Nghymru. A pheth arall, ar amsere neillduol ar y flwyddyn, yn enwedig cyn i'r haf dd'od i fewn, disgyna gwlaw lled drwm; a rhwng y gwlaw a'r deunydd meddal sy'n cyfansoddi'r ffyrdd, gadewir swm cyfrifol o fẁd trwchus ar ol. Dyma'r adeg y mae pobl y Gorllewin yn ymwel'd â'r Aifft fynycha'; ac y mae cerdded ar wadne llyfn o ledr yn y mẁd Aifftedd hwn yn orchwyl sy'n tynu'r chwŷs ac yn trethu'r dymer. Bron nad ydych y'myn'd gyment yn ol ac y'mlaen, fel mai ychydig o gynydd ymarferol a wnewch drwy'r dydd. Nid yw'r brodorion yn teimlo dim oddiwrth yr anhawsder yma, am eu bod yn droednoeth; a thra byddwn i'n cosbi 'nghorff i gadw 'nghydbwysedd, yn eu blaen yr elent hwy fel pe baent wedi eu geni mewn mẁd, ac mor gartrefol ynddo a chŵn yr heolydd. Erbyn pob hwyr, yr o'wn fel un o'r "German Band" a welir weithie'n cerdded o fan i fan, mor glunhercyn a phe bydde geny' gorn dan bob bys.

Ond os am wel'd, a sylwi, a chraffu, a marcio'n fanwl, yr unig ffordd am dani yw ar draed. Mi wnes rai o'm pererindode mwya' dyddorol yn y modd hyn. Os na fyddwn wedi blino gormod ar ol bod yn crwydro'r dydd, yr oedd myn'd am dro gyda'r hwyr, wedi i'r haul fachlud, yn talu am bob anhwyldeb. Ar draed, rhwng cinio a gwely—cinio gwŷr mawr, cofiwch!—y gweles ochr seimlyd dinas Cairo; ac os oedd rhyw gyment o gariad ynof tuag at bechod yn flaenorol, yr wyf yn meddwl iddo ddiflanu i gyd y noson hono. Mi adroddaf i chwi'r helynt.

Yr o'em yn bedwar gyda'n gilydd—pedwar Cymro. Yr oedd y bechgyn yn f'aros tra'r o'wn i'n mwynhau pryd ola'r dydd, ac yr oedd golwg ddoniol arnynt. Capie cochion ar eu pene, a ffyn yn eu dwylo, eu lwyne wedi eu gwregysu, a'u lampe wedi — na, gan gofio, nid oedd lampe ganddynt: ond parodd eu hymddangosiad i mi feddwl yn gry' am blant Israel yn cychwyn o'r wlad y sangwn ei daear y funud hono. Gan mai prin y mae'n ddïogel i Sais fentro allan yno heb ffon wedi'r dydd, chwaithach wedi'r nos, cymeres ine un brâff ei gwala; a chan ei bod yn fantes i gydffurfio â dull y bobl o wisgo hyd ag y mae'n weddus, mi 'stwffies ine 'mhen i gap coch; a dyna ni'n barod i gychwyn. Gwydde'r bechgyn am bob careg yn y ddinas, ac yr o'ent y'myn'd a mi y noson yr wy'n sôn am dani i ranbarth neillduol lle'r oedd Satan yn ben a Phechod yn teyrnasu. Chware' teg iddynt, rhoisant i mi fy newisiad i fyn'd neu beidio. D'wedent wrthyf ei fod yn lle garw, ac y byddem yn gosod ein bywyde mewn enbydrwydd—ond y lleihaem y peryg' wrth gadw gyda'n gilydd, a taw myfi fydde'r Cymro cynta' i fyn'd hefo hwy y ffordd hono, os mentrwn. Ac yn y blaen. Gan fod y Crëawdwr Mawr wedi rhoi dogn da o ysbryd anturiaethus yn fy natur, mi es hefo hwy: a'r hyn a weles â'm llyged, a glywes â'm clustie, ac a deimlodd fy nghalon y noson hono, yr wyf y'myn'd yn awr i'w fynegi i chwi.

Enw'r lle'r aethom iddo ydoedd "Wassa," ystyr yr hyn yw cul. Mae'r 'strydoedd mor gulion fel nad oes eisie breichie Phineas Fletcher o ddyn i gyffwrdd y ddwy ochr yr un pryd. Y maent hefyd mor llawn o ddynion, fel y cymer i chwi haner awr i fyn'd gwarter milldir; a chyda'r anhawsder mwya' y llwyddem i gadw gyda'n gilydd. Dyma'r darn isela'i foese yn yr holl ddinas. Yma'r ymgynull lladron a llofruddion: ac yma y cedwir puteinied o dan nawdd y Llywodreth Aifftedd, a chymeradwyaeth y Llywodraeth Brydeinig—merched ieuenc o bob lliw, a bron o bob gwlad a chenedl, wedi eu cau i fyny fel anifeilied gwylltion mewn ffeue, ac yn llygadu arnoch drwy fare'r ffenestri. Ceir hwy'n yr oedran tyner o bymtheg, ïe, a deuddeg, ïe, a deg, yn gosod eu hunen yn ebyrth gwirfoddol i raib a nwyd y crëadur y gelwir "dyn" arno! Yr oedd yn dda geny' glywed nad oes byth eneth Brydeinig yn eu plith. Gynted y clyw Llysgenadwr Pryden Fawr fod yn Cairo neu Alecsandria ferch o'r hen wlad wedi gadel ei gwasaneth, ae mewn peryg' o fyn'd ar ddisberod, ymofynir am dani'n union, a thelir ei llong-lôg yn ol i'w gwlad ei hun gyda'r cyflymdra cynta'. Gwaedu wnai 'nghalon bob cam wrth wel'd golygfeydd mor ofnadwy. Ferched ieuenc fy ngwlad! gwerthfawrogwch gymeriade da, a pheidiwch byth a gwerthu'ch diweirdeb am bris yn y byd—oblegid pa beth a ro'wch yn gyfnewid am dano?

Yn sydyn, collasom un o'r cwmni.

"B'le mae Roberts?" gofyne'r naill i'r llall. Gyda hyny, dyma sŵn chwibanogl yn disgyn ar ein clustie. Chwibanogl Roberts ydoedd, a thystio'r oedd fod ei pherchen mewn peryg', ac y'mofyn ein help. Yn ol a ni, a buan y cawsom ein cydymeth dewr yn dal pen rheswm a 'beitu haner dwsin o'r tacle mwya' digymeriad yr olwg arnynt a welsoch mewn blwyddyn, y rhai a'i rhwystrent i dd'od yn ei flaen. Nid wy'n meddwl eu bod ar y cynta'n golygu dim ond direidi, nes iddynt wel'd Roberts yn dechre' dangos y "bluen wen." Troisant yn gâs wed'yn; a phan y daethom atynt, mae'n rhaid cyfadde fod pethe'n edrych dipyn yn ddifrifol yno. Edryche Roberts ei hun can wyllted a phe b'ase wedi cael ei hun yn y lleuad. Clebre â hwynt mewn amryw ieithoedd, a digri' oedd clywed ambell i air Cymraeg yn cael ei seinio mewn lle ac amgylchiade mor anghartrefol. Ond 'doedd dim yn tycio. Os dealla'r gwehilion hyn fod arnoch eu hofn, hwy sydd ben; ond os trowch arnynt heb fenyg ar eich dwylo, hen gywardied o'r fath waela' ydynt, a pharotach ydynt i'ch llyfu na'ch llarpio. Gwelodd Roberts ni'n d'od, a dechreuodd ymwroli: cododd ei ffon, a dygodd hi i wrthd'rawiad â, chymale duon dau neu dri o honynt—gwnaethom nine'r un peth â'r lleill; wedi cael Roberts o'u gafaelion, bygythiasom hwy eilweth, a ehawsom yr hyfrydwch o'u gwel'd yn slincio'i ffwrdd fel corgwn, a'u cynffone rhwng eu coese. Eto, tybiasom taw doetnineb ynom oedd cefnu ar y diriogeth hono gynted y gallem.

Ar y ffordd, troisom i fewn i ffau Ffawd, i wel'd yr hap-chwareuwyr. Pregeth ar drachwant gaed yma—trachwant aur ac arian: a phregeth effeithiol dros ben ydoedd. Mi sylwes yn arbenig ar un dyn, yr hwn oedd yn colli'r cwbl a roe ar y bwrdd, a'r hwn oedd wedi colli llawer cyn i ni fyn'd yno. Yr oedd ei lyged bron a chwympo allan o'i ben—yr oedd mor welw a'r galchen, ac eto, rhede'r chwŷs yn ddiferyne mawrion dros ei dalcen, y naill ar ol y llall—ei ddanedd a rincient yn erbyn eu gilydd—yr oedd ei law'n crynu fel taw prin y gallase osod ei arian ar y lliw—a phob tro y colle, fe ollynge'r fath ochened nes cynyrchu crechwen drwy'r ffau.

"Dowch allan, hogie," meddwn; "mae pum' munud mewn lle fel hwn fel pum' mlynedd." Ac allan yr aethom. Ni wnaethom ond yn hrin gyredd y 'stryd, nag y rhuthrodd rhywun heibio i ni, heb het ar ei ben, ac fel pe bydde lleng o gythreulied wrth ei sodle.

"Dyna'r dyn oedd yn colli," ebe Roberts. Cauodd y dyrfa am dano, a synwn i ddim na chollodd o 'i gorff a'i ened cyn haner nos.

Wedi gwel'd rhagor, a chlywed mwy, y rhai a ferwinent eich clustie pe'r adroddwn hwynt i chwi bob yn un ac un, tynasom tuag yn ol; ac erbyn imi gyredd f'ystafell wely, ac edrych arna' fy hun yn y drych, mi dybies am foment fod un o boenwyr Roberts wedi fy nilyn! Breuddwydies lawer cyn y bore' am lewod a theigrod ar lun dynion. Nid wyf wedi edifaru imi fyn'd i wel'd Cairo wedi'r nos; ond mae'n amheus genyf a chwenychwn y profiad eto.