I'r Aifft ac yn Ol/Cairo wedi'r Dydd

Yn y Tren i Gairo I'r Aifft ac yn Ol

gan D Rhagfyr Jones

Cairo wedi'r Nos

PENOD XVI.

CAIRO WEDI'R DYDD.

 CYMRO o'r un enw a mine ddaeth i'm gwaredu o ddwylo'r Arabied y'ngorsaf Cairo, ac i mi yr oedd fel angel Duw. 'Does dim dwyweth nad oedd y giwed haerllug wedi ffroeni diniweidrwydd cyfleus o gwmpas fy mhersonolieth i, a fy mod wedi cael fy marcio allan ganddynt fel aderyn hawdd i'w blyfio; ac er fy mod yn ceisio gwneud gwep gâs, gwyddwn yr un pryd taw methiant cywilyddus ydoedd. Haws genyf gredu fy mod yn edrych yn debycach i ddafad ar goll, nag i lew wedi ei yru yn erbyn y wàl. Gwn fod mwy o'r ddafad nag o'r llew yn f'esgyrn. Bachgen o Gynarfon oedd y Moses hwn, ac aelod yn Salem; ac er na fydde'i weinidog byth yn ymwel'd ag e', yr oedd ganddo ef "olwg" ryfeddol ar ei weinidog, a siarade am dano hyd at ei addoli bob tro y cai gyfle. Cynorthwywr ydoedd y'ngwasanaeth brawd fy nghymwynaswr o Alecsandria; ac er i hwnw fod mor garedig i mi ag oedd modd, synwn i ddim na thynodd ei frawd yn Cairo'r "shein" o hono,

—————————————

—————————————

Hwyrach iddo gael gwell cyfleusdra. Yr oedd y ddau'n gyfranog yn y gwaith o anfon "Jones bach" i'm cyfarfod; a bendith ar eu pene.

Mi fydde'n dda gen i fod yn help i roi anfarwoldeb i'r bechgyn o Gairo. Ni wyddwn am danynt cy'myn'd yno, ond nid aeth diwrnod heibio wed'yn nad y'nt wedi bod yn fy nghôf ac yn fy nghalon. Yr oedd yna wahanieth dybryd rhyngddynt, ond yr oedd pob un o honynt yn garedig yn ei ffordd ei hun, ac am y caredica'. Jones oedd yn cael ei ollwng amla' hefo mi, am ei fod yn "Sentar" fel fine. Bachgen glân ei groen a'i siarad oedd efe—gwisgi ar ei droed a'i dafod—ei bersonolieth yn f'adgofio o Towyn a'i "arian byw"—y'medru siarad â'r brodorion fel un o honynt hwythe—ac yn gwybod am bob "twll a chornel" yn y ddinas cystal a'r trempyn o gi mwyaf afradlon y tu fewn i'r lle. Bu'n waredwr i mi ragor nag unweth ar ol y tro hwnw'n yr orsaf, ac ni f'aswn iached fy nghroen na llawned fy llogell yn gadel Cairo oni bai am dano ef. Un o ardal Gwrecsam oedd Roberts, ac ni che's ei gwmni ef ar ei ben ei hun, fel y ddau arall, ond bob tro'n un o'r tri. Dipyn yn dỳn ar ei 'piniwn oedd Roberts, ac mi a'i gweles siwrne agos a d'od a ni i drybini go gâs oherwydd yr elfen amlwg hono yn ei natur. Ac eto, fe ddeue i fyny fel corcyn i wyneb y dw'r pan fydde pobpeth y'myn'd i brofi ei fod i lawr yn y gwaelod er's meityn. Collasom y ffordd un noson, ac er y myne Jones a'r brawd arall taw i'r cyfeiriad yma y dylasem fyn'd, yr oedd ewyllys Roberts yn gryfach na'r ddau, ac i'r cyfeiriad acw'r aethom. Wedi bod yn crwydro "drwy leoedd geirwon, enbyd iawn," yn chwŷs ac yn lludded—Roberts yn ei brasgamu o'n blaen, Jones a mine'n tuchan ar ei ol, a Huws yn murmur anatheme wrth ein sodle—am awr o amser, cawsom afel ar ein lledred o'r diwedd; ac ebe Roberts mor hunan-feddianol a bricen—

"Fi oedd yn reit, boys, drwy'r cwbwl!"

—yr un fath yn union a phe na baem wedi bod wrthi bum' munud. Yr oedd ganddo allu rhyfeddol i ddisgyn ar ei draed o bob d'ryswch yn y byd. Yr olaf, ond nid y mwya' dibwys o'r tri, oedd Huws—hamddenol, 'smala, gogleisiol ei sylwade, a mwy o stoicieth y Gorllewin yn perthyn iddo nag o nwyd y Dwyren. Ni weles ef yn cael ei gynhyrfu ond siwrne, pan y rho'wd iddo ychydig o dybaco'r Hen Wlad ar ol bod "yn haner starfio'i hun ar sychddail llwydwyn yr Aifft." Mi gredes yn siwr y b'asai'n cael ffit y pryd hwnw. Dyna'r "tri llanc" wnaethant i mi deimlo'n rhydd a chartrefol y'nhir y caethiwed, ac y mae iddynt le cysurus yn ymyl y tân ar aelwyd gynes fy nghalon.

I ddychwelyd i'r orsaf. Ni fu Jones chwinciad cyn gwasgaru fy mhoenwyr, a myn'd a mi mewn "bus" reit gyffredin i'r gwesty lle'r o'wn i aros. Yr oedd hwnw'n cael ei alw ar enw Bryste—pa'm, nis gwn: Hotel Bristol, yn ol dull Ffrainc o siarad. Groegwr oedd yn ei gadw, a'i enw yn cynwys y rhan fwya' o lyth'rene'r wyddor. Ar ol ymolchi, ac ymdrwsio, ac ymborthi, aeth fy ffrind a mi i wel'd ychydig o'r lle, ac yr oedd genym brydnawn cyfan wrth ein cefne.

I gychwyn, croesasom bont hir-lydan oedd wedi ei bwrw dros y Nile, oblegid nid oedd yr afon eto wedi fforchogi'n saith tafod. Cewch gip ar y bont yn y darlun gerllaw. Pwysasom am dipyn ar wàl y barracks, lle'r oedd nifer fawr o filwyr y'myn'd dan ddysgyblaetb. Yna troisom i'r dde, a cherddasom dan gysgod y palmwydd, allan o dwrw a gwres yr heolydd, y'nghanol y golygfeydd mwyaf atdyniadol i lygad gŵr o wlad machlud haul. Draw gwelwn dẁr o Ewropied yn chware' cricket, a'u dillad gwynion yn disgleirio'n yr haul, heb hidio botwm am Rudyard Kipling na neb. A pha'm lai? Ar bob llaw ini yr oedd y "gamŵs" yn talu treth am ei fodoleth. Y "gamŵs" sy'n gwneud pobpeth ar y tir i'r llafurwr Aifftedd. Yr enw sydd ar y dosbarth yma yw'r fellaheens, meibion y tir; a d'wedir taw hwy yw hen frodorion y wlad. Mae'r "gamŵs" i'r fellaheen fel mae'r ych neu'r ceffyl i ffermwr Cymru; 'does dim pall ar ei adnodde. Crëadur onglog, afrosgo ydyw; ei ddefnyddioldeb, ac nid ei brydferthwch, sy'n ei wneud yn werthfawr. Mae traddodiad gan yr Arabied am dano. Pan wnaeth Duw y fuwch, cenfigenodd Satan wrtho, ac aeth ynte i geisio gwneud un debyg; ond be' ddaeth allan o'i law e' ond y "gamŵs!" Wel, gwnaeth beth salach ganweth. Dyna haid o adar yn codi o ymyl rhyw furgyn, ac yn rhuthro dros ein pene.

"Beth yw rheina, Jones?" meddwn.

"Brain," ebe ynte. A dealles nad yw brain yr Aifft yn dduon, ond brithion, hyd at fod yn wynion, rai o honynt. Mi dybies yn union taw dyma lle'r oedd genesis yr "hen frân wen" y canodd Emrys am dani! Hawyr! oes yma "rasus dynion" heddyw? Beth yw'r ddau slimin main hyn sy'n rhedeg mor gyson ochr-yn-ochr, a'u gwisg fel pe wedi tyfu am danynt fel crwyn? Rhedegwyr o flaen cerbyde gwŷr mawr ydynt hwy, druen; a chyda'r gair, dyma gerbyd gwych yn dilyn, a dau o fonedd y wlad ynddo. Neges y rhedegwyr ydyw clirio'r ffordd i'r cerbyd, a d'wedid wrthyf y rhedent ugen milldir yn aml heb aros. Derbyniant gyfloge uchel, ond nid ydynt byth yn byw yn hir. Pa ryfedd? Rhedant eu hunen allan o wynt cyn haner eu dyddie. Ond dyma gerbyd heb redegwyr iddo, ac ebe'm cydymeth wrthyf:

"Craffwch ar y dyn nesaf atoch." Mi graffes, ac mi dynes fy het iddo, yn ol yr esiampl a gefes. Cydnabyddodd y cyfarcbiad yn siriol, a gofynes i Jones pwy ydoedd.

"Arglwydd Cromer," medd ynte. Edryches ar ei ol nes aeth o'r golwg, oblegid teimlwn yn falch o gael cipolwg ar y dyn sy'n llywodraethu'r Aifft yn enw Pryden, ac wedi gwneud y wlad yr hyn ydyw heddyw. Gwelwn adeilad aruthrol o'm blaen, yn cael ei gylchynu gan erddi ardderchog. Hen balas i un o'r teulu brenhinol ydyw, wedi ei droi'n westy, a gelwir ef y Ghezireh. Troisom i fewn i'r gerddi, a buom yno'n eistedd am awr neu ddwy yn gwrando ar un o'r seindyrf milwrol yn chware'. Yr oedd y lle'n llawn o ymwelwyr—Americanied gan mwya'.

Yn lle dychwelyd i'r ddinas yr un ffordd ag y daethom, croesasom yr afon mewn bad bychan, a glaniasom mewn cẁr arall o honi. Drwy ran o'r hen ddinas y daethom yn ol. Heolydd culion a phelmynt culach, yn llawn o bobl, ac yn llawnach o nwydde. Bu raid i mi wasgu fy nhrwyn rhwng bys a bawd bron ar hyd y daith hono—yr oedd yr arogliade mor apeliadol. Cawsom dipyn o waith pigo'n llwybr o'r afon i'r 'sgwar lle'r oedd y cerbyde trydanol. Yn ymyl yr afon mae pob bryntni'n byw; a chryn orchwyl oedd osgoi'r clêr gwenwynig a garient hade marwoleth gyda hwy i bobman, a'r begeried a ffroenech o draw, a'r cryts a'r crotesi haner noethion a waeddent "Backsheesh!" yn eich gwyneb egred ag Arabied y 'strydoedd yn eu man perffeithia'. Yr oedd y gwiberod bychen yn pigo'ch sodle bob cam a roech, a bu raid ini droi arnynt yn sydyn a sarug ragor na siwrne; a cheid digrifwch nid bychan wrth edrych arnynt yn cwympo draws eu gilydd yn eu hymgais i ddïanc. Chwardde rhai o'r edrychwyr yn iach am eu pene, ond cilwgu'n ofnadwy wnai'r lleill.

Erbyn ini gyredd y man y cychwynasom o hono, yr o'em ein dau yn chwys dyferol, ac yn chw'thu fel dau ddromedari.