I'r Aifft ac yn Ol/Fy Nyddiadur
← Ar y Daith | I'r Aifft ac yn Ol gan D Rhagfyr Jones |
Dalen arall o'm Dyddiadur → |
PENOD VII.
❋
FY NYDDIADUR.
R draul ail-adrodd fy hun—yr hyn yw fy "mhechod parod" wrth siarad a 'sgrifenu—gosodaf yma ddarne o'm dyddiadur. Mae hwnw'n siwr o fod mor agos i'w le o ran cywirdeb a dim sydd wedi ymddangos, ac a ymddengys eto. I dreulio'r uwd a'r pytatws a gawswn i frecwast, y peth cynta' wnawn oedd 'sgrifenu ar fy nyddiadur, oni fydde'r hen long yn bechadurus o ansefydlog; ac af yn feichie dros y nodiade sydd ynddynt, eu bod yn adlewyrchiade gonest o'r hyn a weles, a glywes, ac a deimles drwy'r holl helyntion. Chwi gofiwch fy mod yn 'sgrifenu ddiwrnod ar ol y dyddiad a geir.
DYDD SADWRN, CHWEF. 23AIN.—Y'nghanol y Bê Bisce. Wedi myn'd drwy ran o hono neithiwr, dïolch am hyny. Yn weddol o dawel drwy'r bore', ond ar ol haner dydd dechreuodd y tone guro ar y llong, a'n hanes wed'yn oedd ymsuddo ac ymrolio hob yn ail—weithie o ben i ben, bryd arall o ochr i ochr—a'r dw'r yn golchi dros y dec yn gyfrole trwchus. Felly am y gweddill o'r dydd, ac ar hyd y nos—ond nid oedd blas gennyf i ganu'r hen alaw. Bwyta mewn gefyne. Pawb fel wedi meddwi, a'r hen long y'nghanol ei bloddest. Lle rhyfedd yw'r bau hwn: y mae fel pytae pobpeth o chwith yma. Pysgod y'neidio allan o'r dw'r, ac adar y'myn'd dros eu pene iddo. Porpoesied yw'r naill, a gwylanod yw'r lleill. Mor falch yw'r gwyliedydd i wel'd yr haul yn d'od i'r golwg pan y mae'n gymylog! Mae'r haul yn cadarnhau'r cyfeiriad. Ond pan na bo haul, na lloer, na seren yn y golwg, mae'r cwmpas ganddo o hyd. Gŵyr y mordeithwyr ysbrydol am rywbeth tebyg.
"Tywydd da yw hwn," ebe'r ail swyddog.
"O'r anwyl! beth am y drwg, ynte?" meddwn wrtho.
Ofn nad oes dim llawer o gysgu heno eto. Dim gogwydd at selni mor belled. Dywed y cadben wrthyf fy mod yn un o fil. Mỳn y 'stiward fy mod wedi camgymeryd fy ngalwedigeth—taw morwr ddylaswn fod. Yr wyf o'r un farn ag e' weithie' am y cynta', ond yn ame'r ola'n fawr. Beth dd'wede pobl Bethania, tybed?
DYDD SUL, Y 24AIN.—Codi am saith. Y llong yn chware'i phrancie o hyd, y môr yn tori drosti, a phawb ar y dec yn wlyb dyferu. Eto, dyma dywydd cyffredin y Bê Bisce! Fel hyn y budrwy'r bore'; ond erbyn canol dydd yr o'em wedi dianc o'i grafange. Ysgyrnygu ei ddanedd arnom yr oedd y crëadur yn y bore'n ddiame genyf, wrth ein gwel'd yn ffoi o'i derfyne. Gobeithio'r anwyl na cheidw'i ddialedd nes y dychwelwn. Wedi cael tir Sbaen rhyngom a nerth y gwynt, aeth yn dawelwch mawr. Ac O! brydnawn Sul. Haul clir, tanbed, ffurfafen ddigwmwl, môr didone, a'r llong yn cerdded drosto fel boneddiges y'nhraed ei 'sane—ardderchog, a d'we'yd y lleia'. Y tir o gwmpas Corunna ddaeth i'r golwg gynta'. Cofio am Syr John Moore, a'r farwnad anfarwol a wnaed iddo gan y Parch. Charles Wolfe. Gorffwysdra i'r llygad oedd gwel'd tamed o dir ar ol y fath dafell o fôr. Dacw'r arfordir gorllewinol i lawr hyd Benrhyn Finisterre. Cawsom engraff o ddïogi'r Sbaenied yn y Penrhyn hwn. Mae yma orsaf i dderbyn arwydd llonge. Codasom yr arwyddion arferol, ond ni ddaeth arwydd yn ol mewn atebiad; a thynge'r cadben (nid yn gableddus) taw cysgu oedd y tacle. 'Doedd dim perswâd ar yr ail beirianwr na chlywse hwy yn chw'rnu'r pellder hwnw! Mynyddig a garw yw'r darn yma o dir Sbaen. Collasom ef yn fuan, a disgwyliwn wel'd tir Portugal 'fory.
DYDD LLUN, Y 25AIN. Bore' heddyw disgynodd fy llyged ar dir Portugal. Mor wahanol i dir Sbaen! Yn lle mynydde uchel a geirwon yn codi'n syth o'r môr, ceir yma ffermdai a phentrefi bychen a mawrion i'w gwel'd y'mhob man. Caëe a gwinllane, perllane ac olewydd-lane ar lechwedde'r brynie, a'r mynydde draw yn y pellder yn dir cefn iddynt. Pentrefi pysgota ar y làn, a thraethe swynol o dywod gwỳn a chaled yn dysgleirio'n yr haul. Lle braf i fyn'd a phicnic Ysgol Sul am brydnawn. Hwyrach taw'r ffordd fydde dipyn y'mhell o Gwm Rhondda. Yr oedd yn ddiweddar yn y dydd pan weles gyffinie Lisbon. Yr oedd y ddinas ei hun yn llechu o'r golwg i fyny'r afon Tagus. 'Roedd hafdy'r brenin yn sefyll ar fan amlwg iawn, yn union uwchben y ddinas, mi allwn dybied. Adeilad mawr gwỳn ac unffurf ydoedd, yn pregethu llai o gysur na bwth Beti New Cross ar dir y Godor, mi wna' lw. Ar y dde' mae tair neu beder o greigie daneddog yn codi'n ddirybudd o ganol y dyfnder. Creigie'r Birlings y gelwid hwy. Mae dim ond edrych arnynt yn ddigon i'ch argyhoeddi eu bod yn beryg' i longe, 'nenwedig ar amser niwl. Yn agos i'r fan yma y collwyd llong fawr berthyne i'r Anchor Line. Dacw Benrhyn Espechel, lle cawsom yr arwydd. Ar bigyn ucha'r mynydd fan draw mae lleiandy aruthrol—y mwya'n y byd, medde nhw. 'Roedd ei adeiladu'n golygu llafur blynydde i rywrai. Un o olygfeydd mwya' dymunol y darn yma o'r byd yw y bade pysgota tlws a syber sy'n dawnsio o'n deutu, Mi weles sgoroedd o honynt heddyw, a rhedent o flaen yr awel mor ysgafn-droed a'r awel ei hun. Cyfarfyddasom â llong ryfel, a chyfarchasom hi. Dychwelodd hithau'r cyfarchiad yn foneddigaidd ei gwala. Mae'r môr mor dawel â Llyn Tegid ganol ha', a thripia'r llong yn llawn mursendod drosto. Cyredd gyferbyn â Phenryn Rocca cyn nos. Y tir yn cilio eto, ac nis gwelwn ef mwy hyd y bore'. Dïolch i Dduw am ei amddiffyn.
DYDD MAWRTH, Y 26AIN.—Tybies fod rhywun yn curo'r ffenest' pan o'wn rhwng cysgu a deffro. Beth oedd ond gwlaw! Bysedd y gawod a'm dihunodd. Bu'n gwlawio'n drwm drwy'r bore'. Mae gwlaw a niwl yn cydgyfeillachu ar y môr: anaml y ceir y naill heb y llall. Diflas yw bod ar dir pan y mae'n bwrw gwlaw; diflasach yw bod ar y dw'r. Ond daeth yn deg cyn cinio, a pharodd yn deg drwy'r dydd. Cryfhaodd yr haul, a chryfhaodd y gwynt o'r tu ol ini, nes peri i'r llestr siglo'n enbyd ar brydie. Tir yn y golwg, ond yn rhy bell i wneud fawr o hono. Pasio heibio i leoedd a hanes iddynt, megis St. Vincent a Trafalgar. Mae'r hen long yn cael côt newydd o baent y dyddie hyn—nid rhyfedd ei bod mor rodresgar ei symudiade.
DYDD MERCHER, Y 27AIN.—Wedi myn'd drwy Gulfor Gibraltar yn y nos—yn hytraeh, dri o'r gloch y bore'. D'wede'r cadben wrthyf fod y llong wedi teithio'n gyflymach o'r Bari i'r Gib nag y gwnaethe' 'rioed o'r blaen. Mor garedig yw'r Llywodraethwr Mawr ini! Mae'r Hwn sy'n cadw'r gwynt yn ei ddwrn yn ei ollwng allan yn dameidie cysurus, a'r Hwn gerddodd ar y tone gynt yn cerdded arnynt eto. Dyma Fôr y Canoldir o'r diwedd! Y Môr Mawr! Môr yr Apostol Paul! A'r môr y taflwyd Jona' 'styfnig iddo! Onid yw yn llawn swyn i'r efrydydd Beiblaidd? Mae ei ddyfroedd yn loew ac yn lâs heddyw, a'i dòne'n fân ac yn fuan. Yr ydym bellach y'mordwyo tua'r dwyren—o'r blaen tua'r de' y mordwyem. Mae fy wyneb yn awr tua chodiad haul. Dacw dir Affrig yn y golwg i'r dde', a thir Sbaen yn y golwg i'r aswy. Mynydde uchel, a'u coryne'n wynion gan eira. Dilynant ni am dros gan' milldir. Mae golygfa fawreddog i'w chael arnynt. Sylles yn hir ar y cyfandir tywyll, a cheisiwn adgofio pob emyn ac adnod a dd'wedent rywbeth am dano.
Mi ro'is dro yn y tŷ peiriant cyn myn'd i gysgu, o dan arweiniad yr ail beirianwr. Teithies dan y dec o'r naill ben i'r llall. Ni fum mewn gwlad ryfeddach erioed. Dyma lle mae cyfnewidiad hinsodde! Ceir y gwynt oera' a'r gwres mwya' llethol am y drws i'w gilydd. Mae yma bob sicrwydd dynol am ddiogelwch. Ele iase drosof pan ddechreuwn feddwl taw dim ond ychydig droedfeddi oedd rhyngof a'r dyfnder du; ac yr oedd llaib y dw'r yn ymyl fy nhroed yn gwneud imi oeri a chw'su bob yn ail. Cyn dychwelyd i'r dec, cymeres stoc o'r tanwyr y'ngole'r ffwrneisie. 'Roedd eu düwch, a'u meindra, a'u taldra, a'u noethder yn eu trawsffurfio'n ellyllon mewn ymddangosiad. Wedi eu gwel'd wrth eu gwaith, nid o'wn yn synu mwyach eu bod mor sychedig.
Mae'n ddiwrnod ardderchog, a'r haul yn ei ogoniant. Mae'r awyr eisoes yn gliriach nag awyr Pryden. Erbyn diwedd y dydd, yr ydym wedi gosod dros dri chant ar ddeg o filldiroedd rhyngom a'r Hen Wlad.