I'r Aifft ac yn Ol/Dalen arall o'm Dyddiadur

Fy Nyddiadur I'r Aifft ac yn Ol

gan D Rhagfyr Jones

Un arall eto

PENOD VIII.

DALEN ARALL O'M DYDDIADUR.

 DYDD IAU YR 28AIN.—Pen yr wythnos ar y dw'r. Dacw dir Affrig eto—glane Morocco ac Algeria. Dim ond mynydde uchel sydd i'w gwel'd, a rheiny'n edrych yn noeth, a chas, a thywyll. Ni weles fynydde'rioed a'r fath olwg ddiserch arnynt. Tybed nad rhein yw'r "mynyddoedd tywyll" y sonia'r proffwyd am danynt? Trwy'r 'spïeinddrych gwelaf ychydig bentrefi yma a thraw, ond y maent yn rhy bell i'w gwahaniaethu'n glir. Arabied yw'r boblogeth, a lladronllyd yw eu cymeriade. Mae'r pentrefi hyn yn hen nythleoedd môr-ladron o'r rhywogeth waetha'. D'wedodd y cadben bethe rhyfedd wrthyf am danynt. Maent wrth eu hanfadweth heddyw pan gânt gyfle. Anfonodd Swltan Morocco rybudd dro'n ol i holl deyrnasoedd Ewrob, am i'w llonge beidio caniatau i fade lanio'n sengl ar y traethe hyn oherwydd y môrladron; ac os bydde i rywbeth anymunol gymeryd lle ar ol y rhybudd, na fydde fe'n gyfrifol i neb am hyny. Ond aeth bâd allan o long Ellmynedd ar waetha'r gwaharddiad. Yr oedd haner dwsin o ddynion ifanc gwamal ynddo; a phan ddaethant o fewn haner milldir i dir, ymsaethodd tri o fade hirion, meinion, yn llawn o ddynion, allan o un o'r cilfache, cymerasant hwy yn garcharorion heb fawr trafferth, ac yr o'ent oll wedi diflanu cyn i neb ar y llong wybod fod dim wedi cymeryd lle. A'r darn prudda' o'r hanes yw, na chlyw'd siw na miw am y trueinied byth wed'yn! Nid oes lle i ame' na chawsant eu cludo i un o farchnadoedd y Sahara, a'u gwerthu'n gaethion i'r canolbarth.

Mae'r tywydd mor ddiserch a'r tir, heb fawr haul, a'r gwynt yn eillio mwy nag a f'asech yn feddwl mewn lle fel hyn. Mi deimles fwy o wres lawer gwaith yn yr Hen Wlad y'mis Chwefror nag a deimlaf heddyw y' Môr y Canoldir. Mae'r dyfroedd yn dawel ryfeddol, a'r llestr yn cadw heb siglo ond ychydig. Dim ond un llong a weles drwy'r dydd—nyni sy'n teyrnasu. Ddoe 'roedd y dw'r yn loew iawn; heddyw y mae'n dywyll iawn. Y rheswm o hyny yw fod y dyfroedd yn adlewyrchu gwyneb y wybren. Awyr lâs, ddigymyle oedd awyr ddoe—glas a gloew oedd y dyfroedd; awyr o blwm yw awyr heddyw—cyfranoga'r dyfroedd o'r un lliw yn union. Onid yw hyn y'meddu ar wirionedd cyfatebol mewn cylchoedd moesol a chrefyddol? Mi sylwes fod y llestr yn cynyrchu ei thone a'i hawel ei hun wrth fyn'd rhagddi, ac mi ofynes i mi fy hun—Onid yw dyn yn gwneud peth tebyg wrth fyn'd drwy'r byd, beth bynag fo'i gymeriad? Prydferth yw gwel'd y gwylanod yn gorphwys ar y tone. Mae'r Hwn ddysgodd Petr i gerdded ar y môr gynt yn dysgu ei saint eto i droi tone dig môr bywyd i fod o wasaneth iddynt, i'w helpu i gyredd pen y daith. Dyna ddigon o bendrymu; rhaid ymneillduo bellach. Dacw ole' Algiers yn dawnsio yn y pellder draw, ac es i gysgu wrth edrych arno drwy'r ffenest' gron.

DYDD GWENER, MAWRTH 1AF.—Diwrnod braf, dïolch am dano. Mwy o haul, a llai o wynt. Yn wir, 'does dim gwynt o werth son am dano heddyw, yn unig awelen o grë'digeth y llong ei hun. Pasiwyd Algiers, fel Gibraltar, yn y nos. Yr unig at-daliad a geisiaf yw eu pasio yn y dydd wrth ddychwelyd. Gorore'r cyfandir du yn y golwg o hyd. Y mynydde'n uwch, ac eira ar goryne y rhai ucha'. Cip ar fynydde'r Atlas, sy'n cadw gwynt deifiol yr anialwch rhag gwneud Ewrob yn bentewyn. 'Does dim yn ddeniadol mor belled yn y darn hwn o dir Affrig—hwyrach y gwella wrth fyn'd y'mlaen. Rho'es y cadben ei 'spïeinddrych mawr yn fy llaw, a pharodd imi edrych i gyfeiriad y gogledd. Gwnes hyny, ac ar ol cael y creadur i ganolfan prïodol, a fy hunan i fedru ei ddal heb grynu, gwelwn fwg yn dyrchu'n dew draw'n y pellder. Wedi deall taw mynydd Etna ynSicili ydoedd, 'r o'wn yn falch dros ben, er na welwn ond ei fwg. Nid o'em lawer yn fyr o gan' milldir

—————————————

Cairo

—————————————

oddiwrtho, ond 'roedd y pellwelydd yn un cryf dros ben. Oera'r awyrgylch yn fawr ar ol machlud haul, a disgyna'r gwlith yn drwm. Par hyny ei bod yn beryg' i mi fod allan ar y dec wedi iddi ddechre' t'w'llu. Mae'r criw wrthi fel lladd nadrodd yn glanhau'r hen long, drwy ei phaentio a'i thrwsio, ei golchi a'i thario. Bwriedir iddi fod fel prïodasferch wedi ymdrwsio i'w phriodas erbyn cyredd Alecsandria. Eto, unffurf iawn yw bywyd o hyd. Dathlu Dy'gwyl Dewi yn fy meddwl, drwy ddwyn ar gof i mi fy hun sut y dathlem ef panyn blant yn hen dre'r sir. Cofio am y seindyrf yn chware', y clybie'n cerdded, y baneri'n chwyfio, a'r pwdine a gaem y'nghysgod ein perthynas â rhai o'r swyddogion. Torwn allan i chwerthin weithie pan ddeue ambelli ddireidi i'r wyneb, a thybiwn fod y prif swyddog yn edrych yn amheus arnaf. Ni ŵyr y Cymro arall ddim am Dewi Sant a'i wyl, mwy nag y gŵyr twrch daear am yr haul.

DYDD SADWRN, YR 2IL.—Tir Tunis yn y golwg. Safle'r hen Garthage, cartre' Hanibal, a gwrthymgeisydd Rhufen am feistroleth y byd. Dacw bont grogedig Bizarte. Dyma ynysoedd Galita, y Brodyr, Zembra, a Zambretta. Mae mynachlog yn perthyn i Eglwys Groeg ar ben Zembra. Mae darne' o'r ynysoedd hyn dan arwyneb y dw'r, ac felly'n beryg' i longe. Darne o'r cyfandir, yn ddïame, ydynt oll, ond wedi myn'd yn wahanedig rywbryd drwy gyffröad tanddaearol a thanforol. Gwel'd amryw o bysgod hedegog; y mae un o honynt o faintioli 'sgadenyn go fawr. Ceir sharcod y ffordd yma hefyd, er na weles i yr un. Ped ymollyngwn dros ymyl y llong i'r môr i ymdrochi, gwnawn fy llw y teimlwn y cna'n union, os na welwn ef. Tynu at Malta—disgwyliwn ei gwel'd rywbryd 'fory.