I'r Aifft ac yn Ol/Un arall eto
← Dalen arall o'm Dyddiadur | I'r Aifft ac yn Ol gan D Rhagfyr Jones |
Glanio → |
PENOD IX.
❋
UN ARALL ETO.
YDD SUL, Y 3YDD.—Tywydd tawel o hyd—diolch i Lywydd y môr am hyny. Diwrnod golchi'r criw: golygfa ryfedd i Gymro crefyddol. Mae pen blaen y llong fel cefen un o dai Treorci, yn gortyne a dillad golchedig o gẁr i gẁr. Rywbryd yn y bore' aethom heibio i ynys o'r enw Pantellaria. Perthyna i'r Eidal, ac y mae ynddi benydfa i droseddwyr dan lygad y Llywodreth. Mae'r tai a'r gerddi i'w gwel'd yn dlws a swynol nodedig o'r llong. Tua chanol dydd ce's gipolwg ar un o'r ynysoedd Melitaidd draw y'mhell—prin y gwyddwn y gwahanieth rhyngddi a chwmwl yn codi o'r môr. Erbyn tri y prydnawn yr o'em wedi d'od gyferbyn â hi. Gozo yw ei henw, a hi yw'r ail mewn maintioli. Mae'n ddarn braf a gwrteithiedig drosti. Ceir arni bentrefi mawrion, heb fawr o drefn, ond llawer o brydferthwch. Cyfnewidiwyd arwyddion wrth basio. Yn union ar ol cwmpasu Gozo, dyma Malta i'r golwg—Melita Llyfr yr Actau. Meddwl mwy am Paul nag erioed. Oasis y'nghanol anialwch dyfrllyd yw Malta. Ceir perllane a gwinllane'n dryfrith drosti. Mae'r llwybre cochion sy'n croesi'r caëe yn peri imi redeg yn ol i Bontargothi. Y brif dre' yw Valetta. Mi weles long y'myn'd i mewn i'r porthladd. Mae gene hwnw'n gul, a chyflegre fel rhes o ddanedd ar ei fin. Ce's olwg braf ar y dre', am ei bod ar safle uchel. Dacw'r barracks a phebyll y milwyr, a dacw'r milwyr eu hunen y'myn'd drwy eu hymarferiade. Dacw ddwy neu dair o eglwysi'n dyrchu eu pigdyre i gyfeiriad y nefoedd. Ust! mae'r awel yn cario sain clyche un o honynt dros y tone i glustie'r alltud unig nas gŵyr beth a wna, ai chwerthin ai wylo. Dacw'r castell coch ei furie, ac adfel hen fynachlog. Ha! a dacw'r 'strydoedd llithrig cheimion, a phobl yn esgyn ac yn disgyn ar hyd-ddynt fel gwybed ar gwarel ffenest'. Mae hen air yn d'we'yd na fedr un Iuddew fyw y'Malta nac Aberdeen; a'r rheswm am hyny yw, fod y Melitied a'r Ysgotied yn gorfaelu cribddeilieth, fel nad oes dim ar ol i'r Iuddew. Dangoswyd i mi fau bychan ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol i'r ynys, a elwir Bau Sant Paul, am y tybir taw yno y daeth efe a'r achubedigion erill i dir. P'run bynag a oedd hyny'n wir neu beidio, yr oedd yn wir i mi ar y pryd; a daliwn i syllu ar y fan nes i'r ynys fyn'd o'r golwg. Mi weles heno'r haul-fachludiad gogoneddusaf a weles erioed. Nid af i geisio'i ddesgrifio, am ei fod y'mhell y tu hwnt i'm darfelydd egwan i. Fel 'roedd yr haul y'machlud, fe ddeue'r lleuad i fyny'r ochr arall, ac er fy syndod, yr oedd yn werdd i gyd drosti! Yr oedd yn debycach i gosyn o gaws Gorgonzola na dim arall. Gofynes i rywun pa'm yr oedd felly, a'r atebiad ge's oedd taw gwyrdd oedd prif liw'r haul wrth fachlud, a taw cyfranogi o hwnw oedd y lleuad. Cyflwynaf ef am ei werth, ond nid yw'n anhygoel. Dim tir eto nes cyredd yr Aifft.
DYDD LLUN, Y 4YDD.—Dim helynt o fath yn y byd heddyw. Darn diserch iawn o'r daith yw hwn o Malta i Alecsandria. Dim ond awyr a môr a haul—ac ä'r haul o'r golwg weithie. Dim aderyn yn y wybren—dim pysgodyn y'neidio allan o'r dw'r—dim llong ar wyneb yr eigion yn unman. Meddyliwn am gân Alecsander Selkirk:—
"I am monarch of all I survey,
My right there is none to dispute."
A gall'sai'r hen long fabwysiadu'r syniad yn llawn cystal. Yr haul yn gwresogi ar brydie, ond y gwynt o'r gogledd-ddwyren yn para i eillio o hyd, gan gymedroli'r gwres. Disgyna gwlith trwm yn gynar wedi i'r haulfyn'd lawr. Mae hyn yn nodweddiadol o'r dwyren. 'Does dim rhyfedd fod cyment o son am wlith yn y Beibl. Gwneir parotöade mawrion ar gyfer glanio, a theimlaf ychydig gyffro yn fy meddianu ine.
DYDD MAWRTH, Y 5ED.—Y tone wedi codi, ac yn peri i'r llestr siglo'n enbyd. Y gwynt yn gry' ac yn oer. Cael y môr i ni ein hunen o hyd. Ysgrifenu at deulu bychan y'Nhreorci, sydd a'i bryder yn fawr amdanaf. Ysgriblo gore' medrwn at gyfeillion hefyd. Tynu i derfyn y daith,a dïolch am hyny.
DYDD MERCHER, Y 6ED.—Dyma'r diwrnod gwaetha' gawsom oddiar pan y gadawsom y Bari. O'r anwyl! Daeth rhuthrwynt ofnadwy o'r gorllewin arnom, a gwlaw mawr yn ei gôl. Yr enw sy' gan y morwyr ar y math yma o dywydd yw squall. Mae'r tone fel mynydde, ac yn disgyn ar y dec yn dunelli. Mae'r llong yn gwegio fel meddwyn, nes ei gwneud yn a'mhosib' cerdded yn gywir, bwyta'n weddus, nac ysgrifenu'n daclus. Mae'r cadben yn bryderus rhag y bydd yn rhaid i'r llong aros o'r tu allan i'r porthladd, a'i thrwyn i'r gwynt oherwydd y 'storm. Dipyn yn beryg' yw myn'd i mewn i ambell i borthladd ar dywydd garw. Mae porthladd Alecsandria felly, am fod ei ene mor gul. Ar ol d'od i ymyl y làn mor ddidrafferth, mae'n anodd i'r bechgyn gadw ffrwyn yn eu gene wrth wel'd y drafferth wedi eu gorddiwes yn y diwedd. Nid oes genyf ond gobeithio y tawela'r gwynt erbyn y bore', ac y cawn fynediad cysurus i'r hafan cyn nos yfory. Cyflwynaf fy hun, a'r llong a'i llwyth, i ofal yr Hwn y ceisiaf yn anheilwng ei was'naethu.
DYDD IAU, Y 7FED.—Y gwynt wedi gostegu, y môr wedi tawelu, a'r gweddïe wedi eu hateb. Daethom i olwg y tir cyn haner dydd. Hwre!
O hyn allan gadawaf fy nyddiadur, gan roi
hanes fy helyntion tra yn yr Aifft, heb ymgais
i'w dyddio a'u trefnu, yn union fel y digwyddant
guro wrth ddrws y côf.