Un arall etor I'r Aifft ac yn Ol

gan D Rhagfyr Jones

Mewn Dalfa

PENOD X.

GLANIO.

 GWEDI pythefnos o ymlwybro ar hyd wyneb y dyfnder, a "Dafydd Jones" yn "byhafio" fel gŵr bonheddig—yr un fath a phe gwydde fod iddo gâr o'r un enw ar fwrdd y llong—des i olwg tir yr Aifft pan o'wn bron yn ei ymyl. Y rheswm am hyny yw, fod y tir yn fflat fel eich llaw, heb iddo na mynydd, na bryn, na bryncyn, na chodiad cyment a thwmpath gwahadden yn dir cefen i'w farcio allan o'r pellder. Pan ddaeth y llygad noeth yn alluog i'w wahaniaethu, ymddangose fel llinell lwyd wedi ei thynu gan bwyntil o blwm, ac yn tori rhwng dw'r ac awyr. Ond dyna! cyn imi braidd gael amser i roi 'nghap yn deidi ar fy mhen, ce's arwyddion y'nes ataf fod tir gerllaw.

O amgylch ogylch y llestr yr oedd bade, fychen a mawrion, yn llawn o fode ar lun dynion—rhai yn rhwyfo, erill yn eistedd a'u dwylo 'mhleth, ac erill drachefn yn sefyll ar eu traed mor ddidaro a phe baent ar y làn. Y peilot oedd un, a'i neges ef oedd ein cyfarwyddo i mewn i'r porthladd. Un o swyddogion y dollfa oedd y llall, yn d'od i archwilio'r papyre, y'nghyda chargo unrhyw deithiwr fel fy hunan a all'sai fod ar y bwrdd. Yn awr y gweles y fantes o fod ar enw un o swyddogion y llong, hyd y'nod pytae heb fod ond gwerth swllt y mis. Oblegid wrth fy ngwel'd â phin ysgrifenu wrth fy nghlust, un arall rhwng fy nanedd, bwndel o bapyre yn fy llaw, fy nghap ar fy ngwegil, ac awdurdod diapêl yn argraffedig uwchben fy llyged, cafodd f'eiddo i lonydd, a'u perchenog y fath arwyddion o barch, nes gwneud iddo dybied am foment ei fod yn perthyn i warchodlu Arglwydd Cromer.

Dyma'r meddyg yn d'od i wel'd fod pawb yn iach yn ein plith. Yr oedd y ffaith fy mod wedi arwyddo'r erthygle fel talydd yn fy nïogelu rhag ymosodiade hwn eto. Ac mi dd'wedaf wrthych pa'm. Pe daethe i wybod taw fel dyn claf yn chwilio am iechyd yr es allan, deg i un na f'ase'n gwneud y ffwdan creulona', yn gwarafun i'r llong fyn'd i'r porthladd nes y ceid ardystiad o'r ochr hyn i sicrhau nad o'wn wedi bod yn dyodde' oddiwrth glefyd heintus—hwyrach y gorfodid y llong i aros o'r tu allan am wythnos neu ragor, yr hyn fydde'n golygu coste o ganoedd o bune i'r perch'nogion. Ond megis y mae llawer ffordd i ladd ci heblaw ei grogi, felly y mae rhagor nag un ffordd i dd'od allan o honi heblaw drwy ddrws y ffrynt, a'r naill onested a'r llall.

Ha! dyma'r llythyr-gludydd, wirionedd i, yn d'od a'r llythyre i'r bwrdd. Efe oedd yn cael y croeso mwya' o bawb. Mor dda oedd genyf fyn'd 'nol i Dreorci am bum' munud, a rhoi llam dros dair mil o filldiroedd o fôr i siarad â rhai oedd anwyl genyf. Nid yw fy "ngwir gymar" wedi f'anghofio, nac Eunice fy merch, fy unig blentyn, o'i hysgol yn Caint. Bendith arnynt! Erbyn imi dd'od i ben draw'r epistole, yr o'em wedi d'od i ben draw'r daith, a bwrw angor yn ymyl y cei. Y'mysg y dyrfa amryliw a wylie'n dyfodiad oddiar y cei, yr oedd nifer o blant o bum' mlwydd oed a than hyny, heb ddim o'u cwmpas i ddynodi eu rhyw, a chan ddued a'r eboni. Tra'r o'wn yn syllu arnynt gyda dyddordeb, diflanasant fel mwg, heb un ar ol; ac yn fy myw y medrwn ddyfalu pa beth a ddaethe o honynt. Ond pan drois fy llyged dros ymyl y llong yr ochr nesa' i'r môr, mi weles ddwsin o bene duon y'nofio fel cyrc hwnt ac yma, ac yn crio "Bacsheesh!" dros y lle. Mi dafles ddwy neu dair ceiniog i'w canol, ac i lawr a hwy ar eu hole fel pysgod. Buont cy'd yn d'od i'r wyneb drachefn, nes peri i mi ofni eu bod wedi glynu yn y mwd ar y gwaelod! Ond pan ddaethant, mi weles arwyddion yn union oedd yn d'we'yd fod yna ysgarmes ofnadwy wedi bod o'r golwg, a'r cwbl am dair ceiniog! Gwn am ddynion—heb sôn am blant—y'nes yma na'r Aifft, a ânt drwy ysgarmese a farciant eu cymeriade—heb sôn am eu cyrff—hyd y bedd, yn eu hawydd aniwall i gofleidio traed y duw Mammon.

O'r diwedd, ar ol pwffio, a 'sgriwio, a chwibanu, a gwaeddi mwy na mwy, gollyngwyd yr angor, a sicrhawyd y llong â rhaffe wrth gyrn ei hallor ei hun. Cyn pen pum' munud, yr o'wn mewn bâd hwylie y'nghwmni'r cadben yn 'sgimio dros wyneb y dw'r yn groes i'r porthladd, i'r ochr nesa' i'r ddinas. Enw'r badwr oedd Alec, ac enw'i brentis oedd Achmed. Cofier taw Cymraes yw'r "ch" yn enw'r prentis. Daeth y badwyr a mine'n ffrindiol ryfeddol cyn i mi ddychwelyd. Daethant a ni'n gysurus i'r làn draw. Neidies o'r bâd yn gynta', a theimles fy nhraed yn taro tir yr Aifft am y tro cynta' 'rioed. O'm cwmpas yr oedd scoroedd o Arabied talgryf ac ysgwyddog, capie cochion hirgul ar eu pene, a'u gwisgoedd yn fath o gymodiad rhwng Dwyren a Gorllewin. Pan o'wn yn croesi'r ffin or plentyn i'r llanc, yr wy'n cofio'n dda na yre dim fwy o arswyd arnaf na gwel'd "dyn du" ar y 'stryd: rhedwn adre' ar golli f'anadl, ac ni theimlwn yn ddïogel nes y cawn fy hun yn llechu dan ffedog fy nain, fel estrys a'i ben yn y tywod. Ac er fy mod yn ddyn "llawn deugen mlwydd oed" pan ge's fy hun y'nghanol yr ebonied clebrllyd y prydnawn hwnw yn Alecsandria, nid heb ychydig bach o gyffro yn f'ochr chwith y gall'swn gymeryd 'stoc o honynt â chil fy llygad.

Pan ddechreues sylweddoli'r ffaith fod gwadne fy nhraed a daear yr Aifft wedi cusanu eu gilydd, meddianwyd fi gan deimlad go ddyeithr. Dyma'r wlad y mae ei hanes y'myn'd yn ol i fabandod y byd, a'i gwareiddiad yn berffeth "cyn bod Abraham." Dyma'r wlad lle magwyd Moses bach, yr addysgwyd ef yn holl ddoethineb yr Aifftied nes y daeth yn Foses mawr, ac y dysgyblwyd ef i gyfrinion Duw'r Hebrëwyr nes iddo fyn'd yn Foses mwy. Dyma'r wlad lle bu'r etholedig genedl yn codi temle a phyramidie oesol y Pharöed, yn gweithio am y rhan fwya' o bedwar cant a haner o flynydde â phriddfeini heb wellt iddynt, ac yn cynyddu mewn rhifedi a nerth er gwaetha'r caledi a ro'id arnynt i'w cadw i lawr. Dyma wlad y Nile, dyfroedd yr hon a dröwyd yn waed gan Dduw i ddïal gwaed ei bobl, ar fynwes yr hon y gosodwyd gwaredwr cynta' Israel i orwedd dan gysgod yr hesg a'r prysglwyni, a'r hon a addolid gynt, ac a addolir eto, gan filiyne o breswylwyr ei glenydd. Dyma'r wlad lle bu Duw (ys d'wedai'r anfarwol Dewi Ogwen), yn agor dwylo Pharo' bob yn fys i ollwng y genedl i ffwrdd, lle bu rhan o "lu mawr" yr Arglwydd—y llau, y llyffent, a'r locustied—yn cyflawni eu hymdeth ddinystriol wrth orchymyn eu llywydd, a lle bu angeu'n cynal ei loddest y'mhob teulu'r un pryd trwy'r wlad i gyd ond Gosen. Ac os cywir y casgliad taw'r Saeson yw'r deg llwyth sydd ar wasgar, ac a gollwyd y'mysg y cenhedloedd, dyma'r wlad sy'n cael ei llywodraethu heddyw gan ddisgynyddion y dynion fu'n gaethion ynddi bum' mil o flynydde'n ol. A dyma'r wlad, mi greda', a ddaw eto'n ail i Eden mewn prydferthwch, i ddyffryn yr Iorddonen mewn ffrwythlonrwydd, i Bryden Fawr mewn gwareiddiad, ac i Walia Wen mewn crefyddolder, y'mhen dwy neu dair o genedlaethe.

Yr o'wn wedi myn'd i freuddwydio ar ddihun fel hyn, y gwaetha' o bob breuddwydio, a llais y cadben ddaeth a mi'n ol at sylwedde bywyd:—

"Come away, sir, or they will think you mad!"

A phan edryches, dyna lle'r oedd tẁr o fadwyr cymysgliw o'm cwmpas yn syllu arnaf fel pe bai dau gorn ar fy mhen. Mi ge's ragor na dau ar fy nhraed cyn dychwelyd; ond ni fu brys mawr arnaf wed'yn i freuddwydio ar ganol y 'stryd.