I'r Aifft ac yn Ol/Mewn Dalfa

Glanio I'r Aifft ac yn Ol

gan D Rhagfyr Jones

Trem oddiar y Trothwy

PENOD XI.

MEWN DALFA.

 NI raid i chwi fod fawr o amser y'ngwlad yr Aifft cyn y cewch eich taro gan amldra ei thrigolion. Y maent fel locustied, nid yn unig yn y trefi a'r dinasoedd, ond hefyd yn y pentrefi a'r wlad oddiamgylch. D'wedir nad yw nifer trigolion Alecsandria dros dri chan' mil; ond wrth gerdded dros ei 'strydoedd, hawdd fydde madde' i chwi pe haerech fod yno filiwn. Mae culni'r 'strydoedd yn peri fod y dre'n ymddangos yn llawnach nag ydyw mewn gwirionedd. Gydag ychydig eithriade, ac heb gyfri' y rhan hono lle mae Ewropied yn byw ac yn dwyn y'mlaen eu trafnidieth, chwi ellwch boeri o un ochr i'r llall yn y 'strydoedd brodorol, a hyny heb aflonyddu ond y nesa' peth i ddim ar gyhyre eich gwyneb. Y canlyniad yw, fod y dynion yn 'sgwyddo'u gilydd fel mewn ffair. Weithie, chwi gewch eich hunen y'nghanol y dyrfa ryfedda' heb fedru symud cam i'r dde' na'r aswy, y'mlaen nac yn ol, mor ddigymorth ag aderyn mewn rhwyd. Chwi aethoch i'r sefyllfa boenus yna'n ddiarwybod i chwi, a chwi ddeuwch allan o honi'r un modd. Yn sydyn, mae'r wasgfa'n cilio; ac os ydych yn bryderus o gywreingar i wybod yr achos o'r waredigeth, byddwch ar eich gwyliadwrieth y tro nesa' y cewch eich hunen mewn sefyllfa debyg. Buan y gwelwch haner dwsin o heddgeidwed y'nghyrion y dyrfa, a buan y clywch sŵn eu pastyne'n dyfod i wrthdarawiad â nifer o bengloge 'styfnig ar eich cyfer. Rhydd hyn ollyngdod mawr cyn pen ychydig eiliade, a pharod fyddwch i ddiolch taw nid ar eich pen chwi y disgynodd y pastwn.

Soudanied yw'r heddgeidwed bron yn ddieithriad—brodorion y wlad sy'n gorwedd i'r de a'r de—orllewin o'r Aifft; a gwneir heddgeidwed o honynt ar gyfri' eu gwydnwch a'u 'stoicieth. "Gwŷr cedyrn" ydynt o ddifri'—tal, 'sgwyddog, brest—lydan, can ddued a'r t'w'llwch, a'r duwch hwnw'n dysgleirio fel grât y gegin ar fore' Sadwrn y'nhŷ'r wraig syber. Gwefuse tewion, yn ymestyn y'mlaen, ffroene llyden, yn ymestyn yn ol o glust i glust y'mron, a dwylo fel dwy balfes gwedder. Ar y pen yr oedd cap coch, hirgul, tebyg i lestr blod'yn wedi ei droi a'i wyneb yn isa', a thusw o'r un lliw yn rhedeg dros yr ymyl. Am y traed yr oedd esgidie o ledr, cryfion a thrwchus, yn dwyn tebygrwydd nid bychan i ddwy wagen gymedrol; a'r syndod i mi ydoedd, sut yr oedd y dynion yn gallu dygymod â'r fath garchar ar ol bod yn draednoethion erioed dros dywod yr anialwch. Rhwng y ddau eithafion yna—y pen a'r traed-yr oedd ganddynt wisg o'r un doriad ag eiddo heddgeidwed Morganwg, ond fod y botwne'n fwy. Maent i'w cael ar ben pob heol, os nad yn amlach; a chwi dde'wch ar eu traws fynyched nes eich cyfiawnhau i ame' ai tybed nad gwylio'ch symudiade chwi oedd neges fawr eu bywyd. Ar y cynta', wrth feddwl am hyn, tueddwn i fyn'd dipyn yn bryderus; ond mi dde's yn gyfarwydd â'r gwŷr yn fuan. Yn wir, mi dde's i delere siarad â dau neu dri o honynt a gerddent yn ymyl y doc. Yr o'wn wedi pigo ychydig froddege Arabaeg i fyny'r diwrnode cynta', a defnyddiwn bob cyfleusdra a gawn i'w hawyru. Pan y'myn'd o'r llong i'r dre' yn y bore', cyfarchwn hwy â'r frawddeg, "Narak said," wrth basio, ystyr yr hyn yw, "Dydd da;" a phan y dychwelwn yn yr hwyr, dywedwn, "Iltak said," sef "Nos da:" a chyfarchent fi'n ol bob tro'n siriolach nag y gwneir yn aml y'Nghymru.

Eu pechod parod yw bod yn or-swyddogol. a garw pan gânt gyfle. Rhyngoch chwi a mine, hwyrach taw dyna yw pechod parod eu brodyr sy'n byw y'nes atom na'r Aifft. Yn ddystaw bach, onid dyna bechod parod pawb sy' mewn swyddogaeth? Gan nad beth am hyny, parodd rhein dipyn o flinder i mi ar ddau achlysur yn eu hawydd angerddol i fawrhau eu swydd. I ddirwyn y benod i fyny'n brydlon a blasus, mi dd'wedaf wrthych pysut.

Rhwng y docie a'r dre' yr oedd clwydi tebyg i'r hen dollbyrth gynt. Yn eu hymyl safe nifer o blismyn, gwaith y rhai oedd edrych na bydde nwydde trethol o un math yn cael eu smyglo drwodd o'r llonge i'r dre', ac o'r dre' i'r llonge. Yr ochr arall i'r ffordd, yn union gyferbyn a'r clwydi, yr oedd adeilad crwn, tebyg i dŵr castell, yn yr hwn yr eistedde dau swyddog o awdurdod diamheuol, y rhai a agorent ac a archwilient bob pecyn a ddrwg-dybid—ac na ddrwg—dybid yn aml. Nid oedd hawl gan y bechgyn yn ymyl y clwydi, er ame' eich pecyn, i'w agor, nac hyd y'nod i'w gymeryd o'ch llaw yn y fan hono: eu dyledswydd hwy oedd myn'd a chwi a'ch pecyn i'r tŷ crwn yr ochr draw. Ond yr oedd ambell un y'mynu rhoi cam neu ddau dros ben ei ddyledswydd, ac fe wnele fyr waith o'ch eiddo'n bur ddiseremoni o dan lyged y werin, os nad argyhoeddech ef eich bod cystal gŵr ag yntau am ei ddanedd. Gwnaed hyny â mi ddwyweth—pan o'wn y'myn'd i ddal. y trên i Gairo, a phan o'wn yn dychwelyd. Ond mi achwynes arnynt y ddau dro yn y tŷ crwn, ac ni chlywsoch erioed y fath dafod a gawsant! Ceisiasant wneud yr un peth â mi wed'yn, heb fy adnabod; ond daliodd un o honynt fy llygad mewn pryd, d'wedodd air wrth ei gymydog, a gwthiasant fi'n llyth'renol i'm ffordd—megis y gwthie'r Aifftied yr Israelied gynt i'w taith. Ar ol hyny, yr wyf bron yn sicr y gall'swn smyglo faint fyd fynwn o "lâs," a thybaco, a sigeri drwy'r clwydi o dan drwyne'r heddgeidwed, pe dewiswn, a phe bawn yn tueddu at bethe felly, heb iddynt dd'we'yd gair, ond yn falch i wel'd fy nghefn yn diflanu'n y pellder.

Pa faint roe ambell un adwaenwn am gyfleusdra tebyg!