I'r Aifft ac yn Ol/Trem oddiar y Trothwy

Mewn Dalfa I'r Aifft ac yn Ol

gan D Rhagfyr Jones

Ffawd a Ffwdan

PENOD XII.

TREM ODDIAR Y TROTHWY.

SON yr o'wn am amldra'r trigolion pan ddaeth yr heddgeidwed i fewn i'r fusnes—y byddai hyny'n un o'r pethe cynta' a'ch tarawe.

Peth arall a'ch tarawe mor debyg a dim fydde amrywieth y gwynebe a'r gwisgoedd. Nid y bechgyn sy'n peryglu'r heddwch wrth geisio'i gadw yw yr unig rai sy'n gwisgo capie cochion, ond ceir hwy'n gyffredin iawn. Yr enw arnynt yw "tarbwshus," a mi weles dri o honynt yn cael eu gwneud wrth orchymyn, yn y siop lle'r es i'w prynu. Gwisgwn un fy hun wedi'r nos yn Cairo, a thybiwn fy mod yn gwneud Arab go lew. Mae'n siwr gen i taw prin y tybie neb arall hyny. Mae'r "turban" bron mor gyffredin a'r llall. Math o ddeunydd gwỳn, neu las, neu felyn, yw hwn, wedi ei dorchi drosodd a throsodd am y penglog, a chryn lawer o fedr yn cael ei ddangos yn y gwaith. Mae gan y Mahometanied selog ystyr i'r gwahanol liwie: dynodant radde o agosrwydd ysbrydol i'r blaenor Mahomet. Gwisgir mantelli hirllaes dros y corff hyd at y traed gan y mwyafrif o'r bobl, o bob lliw yn y byd; ac am y traed, weithie sandale, ond yn amlach hebddynt. Rhwbir rhyw fath o sylwedd melyn ar wadne'r traed i'w caledu rhag y gwres, a defnyddia'r merched a'r gwragedd yr un 'stwff at ewinedd eu dwylo—i'w caledu, medd rhai, i'w prydferthu, medd erill. Fy marn i oedd taw prin oedd y prydferthwch; ond dyna, 'does dim cyfri' i fod am chwaeth. Bid fyno, mae blaenion bysedd y boneddigese'n ymddangos yr un fath yn union a phe baent yn bwyta mêl â hwynt drwy gydol y dydd.

Ryw ddiwrnod, mi ge's gader i eistedd arni ar ben drws un o swyddfeydd llonge Alecsandria, fel y gall'swn wylied y "llïaws cymysg" a elent heibio. Bum yno awr: ac i mi, yr oedd yn un o'r orie mwya' difyr ac adeiladol a dreulies yn yr holl wlad.

Dyma beneth rhyw lwyth Arabedd yn pasio, naill ai mewn dwfn fyfyrdod, a'i ben ar ei frest, neu mewn hwyl herfeiddiol, a'i drwyn yn yr awyr. Fel rheol, clobyn o ddyn tal, cyfartal, prydweddol, lluniedd, ystwyth, a chryf yw'r "shêch," neu'r peneth; ei groen yn bygddu, ei drwyn yn hir a syth, ei lyged yn fychen, duon, ac aflonydd, fel pe baent yn chwilio am elyn ar bob llaw, ei wefuse'n feinion, ei ffroene'n deneuon, ei farf yn dywyll a chwta, a'i ben yn hirgul. Crachboera wrth basio pob Ewropiad, a chwi ellwch ei glywed yn murmur melldithion ar ei ben wedi iddo fyn'd heibio. Pe cae ef a'i wehelyth eu hewyllys, 'sgubid ymeth bob ci o Gristion allan o'r terfyne cyn pen fawr amser, ac allan o'r byd gynted a hyny. Dyna i chwi deip o'r gwir Arabiad,—cydnerth, cyfrwys, creulon, coelgrefyddol.

Dyma Negröed o'r canolbarth, a mwy o'r anifel yn perthyn iddynt na dim arall: eu pene'n fawr a chrynion, eu pengloge'n gelyd a gwlanog fel gwlan y ddafad ddu, eu crwyn yn ddu a seimlyd, eu trwyne'n fflat, eu ffroene'n llyden, eu gwefuse'n dewion, a'u danedd fel ifori. Plant y cyhydedd a'r anialwch ydynt, a phrin y cânt eu hanadl y'nghanol y 'strydoedd culion.

Dyma i chwi Dwrc a'i wyneb difynegiant—

Ac ar ei ol Bersiad yn ei garpie—

Ac wrth ei sodle ynte un o breswylwyr Ceylon a hireth-Cymro-am-ei-wlad yn ei lyged—

A dacw Chinëad a'i gynffonbleth—

A'r ochr arall i'r 'stryd ŵr o Japan a'i lyged bychen hirgrwn, a'i aelie ymofyngar—

A dyma Roegwr llyswenog—

A Sais o filwr yn ei gôt goch yn ei ddilyn—

Ac un o blant Abram yn plygu dan bwyse'r groes ro'ed ar gefn ei genedl—

A morwr o Ynys Pryden yn cerdded yn 'sgwarog ar ei ol—

—Hach! beth yw hwn sy'n moes-ymgrymu o fy mlaen, ac o ba le y daeth? Edrycha fel tẁr o ddillad budron parod i'w golchi, neu dẁr o garpie parod i'w llosgi. Dyma law a braich yn ymestyn dan y carpie tuag ataf, ac O! nid ydynt ond croen ac esgyrn ar y gore'. Rhytha gwyneb 'sgerbydol arnaf odditan benguwch ffïedd, a llosga dwy lamp loew y'nhylle'r llyged. Prin y mae arnaf ei ofn, a phrinach y mae arnaf ei chwant. Dealles yn fuan taw un o fegeried y wlad ydoedd, yn ei dawch a'i duchan; a haws oedd i Paul ysgwyd y wiber oddiwrth ei law, nag i mi gael gwared o'r aflendid hwn. Dosbarth sy'n nodweddiadol iawn o'r Dwyren yw ei fegeried, y rhai sy'n boen ac yn bla i'r ymwelwyr. Glynant wrthynt fel gelod. I geisio rhoi cyfeiriad arall i'w gamre, mi ro'is iddo geiniog; ond yn lle hel ei bac at ei gilydd a myn'd i'w ffordd, dal i estyn ei law wnele'r hen bechadur, gan furmur rhwng ei ddanedd, a gofyn am ragor, fel Oliver Twist. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi gwneud ei feddwl i fyny taw aderyn hawdd ei blyfio o'wn i, ac nid o'wn yn chwenych ei ewinedd fwlturedd, rhag iddo fyn'd y'nghyd a'r gwaith yn llyth'renol. Ond mi ge's brawf buan fod Rhaglunieth yn gofalu am ei phlant. Dyma un o ddynion y swyddfa yn d'od allan ar y funud, pan oedd pethe'n dechre gwisgo gwedd go ddifrifol—ac ar ol deall sut oedd pethe'n sefyll, gỳr y cardotyn egr ac aflan ymeth gyda rhes o'r geirie mwya' cyflym eu dylanwad a glywes erioed. Ni f'asech byth yn credu gynted y casglodd y crëadur ei gwbl y'nghyd, ac y symudodd ei bres'noldeb afiach o'r gym'dogeth. Afred yw 'chwanegu iddo dywallt diluw o felldithion ar ben fy nghymwynaswr, ac anghofio dïolch i mine am y geiniog a gawse.

Dacw ferched o Ynys Malta'n pasio, ac edrychent mor 'smala nes imi syllu ar eu hole'n hŵy nag y mae'n weddus i ddyn prïod wneud peth felly'n gyffredin. Yr o'ent o faintioli glew y'naturiol, ond yr oedd y fantell oedd am danynt yn gwneud iddynt ymddangos deirgwaith gyment. Nis gwn beth oedd deunydd y fantell, ond yr oedd yn sicr o fod o ddeunydd ysgafn iawn. Cychwyne am y pen fel cwcwll, yna tynid ef i mewn am y gwddf, nes yr oedd fel awyren fechan. Dyna balŵn No. 1. Wed'yn, fe rede i lawr hyd at y wâsg, tynid ef i mewn yno drachefn, nes cyfansoddi balŵn No. 2. No. 3 oedd y fwya', oblegid yr oedd hono'n rhedeg i lawr o'r wâsg i'r ffere. Wrth edrych arnynt o'r tu ol, yr oedd y tair awyren yn ymddangos mor ddoniol o ddigri', nes peri i mi dynu sylw a chilwg ambell i hen shêch a ele heibio, gan mor uchel y chwarddwn. Pan gydgerdde tair o honynt ochr yn ochr, cyrhaeddent o balmant i balmant; a'r peth a'm syne i oedd—os taw felly y gwisgent yn Ynys Malta, sut gebyst yr o'ent yn cael lle yno! Yr oedd modrwye ganddynt ar bob bys, hyd y'nod y bodfys, a breichlede ar arddwrn a migwrn—os nad yw sôn am freichled ar figwrn yn sawru braidd yn Wyddelig. Sut bynag, dyna fel 'roedd. A peth arall oedd yn ogleisiol: O dan yr ardderchawgrwydd i gyd, mewn sidan, a modrwye, a breichlede, yr oedd pob un o honynt yn droednoeth, heb gysgod hosan na sandal yn agos iddynt!