I'r Aifft ac yn Ol/Parotoade

Cynwysiad I'r Aifft ac yn Ol

gan D Rhagfyr Jones

Y Llong a'i Phreswylwyr

PENOD I.

PAROTOADE.

PAN o'wn yn hogyn bychan, yn yr oedran ag y mae plant yn cael eu cyfri' gan eu rhïeni y tu hwnt o gall, a phob gair a dd'wedant yn cael ei gadarnhau â chwerthin, ei drysori yn y cof, a'i drotian allan er budd y cym'dogion bob tro y ceir cyfle—mi glywes fodraboedd imi yn dweyd fy mod yn araf sillebu un o'r Salme ar brydnawn Sul, ac, wedi cael gafel go lew ar yr ymadrodd cynta', imi droi yn sydyn at 'rhen ŵr 'nhadcu, yr hwn oedd yntau'n ymlwybro drwy'r wythfed benod o'r Rhufeinied ar ei ffordd i'r Ysgol, a gofyn iddo:

"'Nhaid, ddoi di i'r Aifft?"

'Ro'em ein dau yn bu'r hy' ar ein gilydd, er ei fod e' flynydde yn hŷn na mi. Ti a tithe oedd y dull o siarad rhyngom fynycha', oblegid yn fy myw y gallwn wel'd y cysondeb o arfer y person cyntaf unigol pan yn siarad â DUW, a'r person cynta' llïosog pan yn siarad â dynion. Bid fyno am hyny, bu'r hen bererin am amser y'methu sylweddoli cwestiwn ei ŵyr, ac ebai'n hurt:

"By-be ddeudest ti? I'r Aifft? Be nawn ni fan hono?"

"Wel," meddwn, "mae acw ddigon o le, weldi;" ac yr wyf yn dra sicr nad oedd neb yn cael mwy o le yn y fan lle'r oedd na myfi.

"Sut y gwyddost ti hyny?" gofynai drachefn, gan edrych dros ei 'spectol.

"Ond ydi'r Beibil yn deud fod Israel wedi mynd odd'no," meddwn; a mi ddarllenes mewn tôn fuddugoliaethus:

"Pan aeth Israel o'r Aifft, tŷ Jacob oddiwrth bobl anghyfiaith!"

A f'ymresymiad i oedd—os oedd Israel "wedi mynd odd'no," nad oedd dim i'n lluddias ni i fynd a meddianu'r wlad.

Beth bynag oedd fy syniad y pryd hwnw am fynd i'r Aifft, mi wn imi fod am dros ddeng mlynedd ar hugen wedyn na freuddwydies am y posibilrwydd o hyny. Ond pan agorodd y ganrif bresenol ei llyged, daeth breuddwyd y plentyn i ben yn rhanol. Mi es i yno, ond heb yr hen ŵr. Y rheswm na ddaethe efe gyda mi i'r Aifft oedd, ei fod wedi mynd i Ganaan flynydde cyn hyny. Ac o'r ddau, efe gafodd y fargen ore.

Pe bawn yn tueddu at fod yn ofergoelus, gan osod coel ar bethe a elwir yn arwyddion ac argoelion, ni chychwynaswn byth. Heb roi mymryn gormod o liw ar yr helynt, yr oedd fel pe bai ryw impyn maleisus yn chware ei brancie â mi o'r diwrnod y penderfynes gychwyn.

Os ydych yn ame', gwrandewch.

Gan mai er mwyn y fordeth yn bena' yr o'wn y'myn'd, rhaid oedd cael llong a fuase'n treulio mwy o amser ar y dw'r na llonge teithio cyffredin. Ond pan aed ati i chwilio am long o'r desgrifiad, bron nad aech ar eich llw eu bod wedi mynd i waelod y dw'r bob un. O'r diwedd, ar ol i deliffôn Abergorci grygu, ac i gwmnïe Caerdydd ddechre dangos gwỳn eu llyged, dyma genadwri'n dod fod llong wedi ei chael oedd ymynd bob cam i Alecsandria heb ymdroi dim ar y ffordd, a taw gore pa gynta i mi oedd setlon bersonol âr swyddogion y'Nghaerdydd.

Trefn y dydd bellach oedd ffrwst a thrwst a thryste, a mi rown yn y swyddfan talu'r llonglôg yn yr amser a gymer i ambell bregethwr besychu. Ar ol cwblhau hyny o wasaneth, i ffwrdd a mi i swyddfa arall—swyddfa'r Bwrdd Masnach; ac ni welsoch y fath firi erioed. Ynghanol y casgliad rhyfeddaf o feibion dynion—yn wỳn, a du, a choch, a melyn, yn faw, a sâ'm, a saw'r, o'r Cymro i'r Chinëad, ac o'r Gwyddel i'r Hindŵ; y rhai oedd yno naill a'i i gael eu cyflogi, neu, wedi eu cyflogi, yn cymeryd yr ardystiad (nid y dirwestol), ac yn derbyn ernes eu cyfloge—mi es ine at y bwrdd i arwyddo fy nghydsyniad i wasnaethu fel talydd ar y llong y bum yn setlo â hi, hyd nes y dychwele o'r fordeth hono; a mi foddlones i dderbyn swllt y mis am fy ngwasaneth. Mi gefes chwecheiniog o ernes cyn symud o'r fan: ond rhyngoch chwi a mine, mae'r cenafon yn fy nyled o'r gweddill hyd heddyw. Prif waith y talydd mewn llong gargo, fel yr awgryma'r enw, yw talu arian y criw fel bo'r angen arnynt; a cheisier perchnogion ar cadben osod yn fy mhen taw mantes i mi mewn mwy nag un ystyr oedd bod ynddi fel swyddog, ac nid fel teithiwr. Y'mysg manteision erill, golyge y caffe fy nghelfi lonydd gan swyddogion y dollfa wedi i mi gyredd y làn draw.

Mi es ar y bwrdd yn brydlon, a thri o ffyddlonied yr achos hefo mi—un o ba rai gychwynodd gyda mi ar fordeth arall dros ugen mlynedd yn ol, mordeth sydd heb "fwrw angor" iddi eto. Rywbryd yn ystod y dydd, cliriwyd y dec, a ffarweliwyd yn gynes; a rywbryd yn ystod y nos codwyd yr angor, a dechreuwyd ageru i gyfeiriad y Sianel. Ond cyn ini adel y Basin yn y Bari Doc—a phrin y tramgwyddair un trochwr wrth y basin hwn—pan oedd y llong o fewn haner ergyd careg i'r agorfa syn arwen i'r môr, dyma floedd! a bloeddiade! a chwiban! a sŵn! a chrac! A chyn imi wybod fod dim allan o le'n bod, dyma'r cadben yn dod ataf yn gyffrous, ac yn dweyd:

"Im afraid, Sir, you will have another fortnight on shore!"

Ac felly bu. Y'mhen y pythefnos i'r diwrnod hwnw y cefnais ar ddoc y Bari. Yn ystod y pythefnos yna, nid o'wn yn perthyn i dir, na dw'r, nac awyr—hyny yw, nid o'wn na phregethwr, na dïacon, nac aelod cyffredin; a phe cyfarfyddase fy nghyfell gore' â mi ar stryd Caerdydd y dyddie hyny, dodase fi i lawr fel morwr ar dramp, neu grimpyn yn chwilio am 'sglyfeth. A dyna oedd y drychineb: angor llong arall oedd wedi mynd i mewn i ystlys y llong rown i arni, a'i rhwygo ychydig islaw i wyneb y dw'r. Bu raid ei haner dadlwytho mewn canlyniad, a'i gyru i'r ysbyty am bedwar diwrnod-ar-ddeg cyn iddi ddod yn ffit i ail gychwyn.

A dyna o'wn yn hala ato, ys d'wedai un o garitors Brutus: pe bai rywfaint o ofergoeledd yn llechu dan fy ngwasgod, mi wnaethwn fy meddwl i fyny'n ddi-droi-yn-ol taw bys Rhaglunieth oedd yma yn dangos y ffordd yn ol i Dreorci, ac nad oedd ond dyfrllyd fedd yn f'aros, os mai mỳnu mynd i'r môr a wnawn. Ond mentrodd un f'adgofio o'r hen air sy'n dweyd nad oes boddi i fod ar y dyn gadd ei eni i'w grogi! Wel, meddwn, os taw felly y mae, fe gaiff "Dafydd Jones" y siawns gynta.

Ac am saith o'r gloch, yr unfed-ar-hugen o'r mis bach, yn y flwyddyn un fil naw cant ac un, aethom allan gyda'r llanw i'r Sianel ac i'r nos.